ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

CYLLID Gall y gost o ran mynd i'r brifysgol fod yn bryder i rieni, ond mae cyllid ar gael sy’n caniatáu i addysg uwch fod yn hygyrch i bawb. Sylwer nad oes angen i neb dalu ymlaen llaw a bydd ad-daliadau'n gysylltiedig â chyflog eich mab neu ferch ar ôl graddio. Gweler tudalen 50 – Ffioedd ac Ariannu. LLETY Trafodwch yr opsiynau llety gwahanol â'ch mab neu ferch i'w helpu i wneud y dewis gorau ar eu cyfer. Gallent fyw gartref, yn neuaddau preswyl y brifysgol neu mewn llety preifat. Mae gan Brifysgol Abertawe neuaddau preswyl mewn pedwar lleoliad gwahanol, ac mae ganddi ardaloedd dynodedig gan gynnwys rhai tawel, un rhyw, di-alcohol, siaradwyr Cymraeg a myfyrwyr aeddfed. I siaradwyr Cymraeg sy’n dymuno byw gyda’i gilydd, ceir Aelwyd Penmaen ar Gampws Singleton ac Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae. Hefyd rydyn yn gwarantu llety yn y neuaddau preswyl a reolir gan y brifysgol ar gyfer ceisiadau a gyflwynir cyn 30 Mehefin. Gweler tudalen 26 – Llety. DIWRNOD CANLYNIADAU Gall diwrnod canlyniadau fod yn brofiad emosiynol iawn. I'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, bydd diwrnod canlyniadau'n gyfle i ddathlu dwy flynedd o waith caled a sicrhau lle yn y brifysgol gyntaf o'u dewis, ond i rai myfyrwyr, mae'n bosib y bydd angen iddynt newid eu cynlluniau gwreiddiol. Beth bynnag y bo'r canlyniad, y peth pwysicaf i'w gofio yw peidio â phoeni. Mae llawer o gefnogaeth ac opsiynau eraill ar gael hefyd a gallant fynd ymlaen i gael profiad gwych yn y brifysgol. COFRESTRU Pan fydd eich mab neu ferch yn gadael cartref am y tro cyntaf, gall pethau i'w hatgoffa am gartref fod yn gysur iddynt a'u helpu i ymgartrefu yn eu hamgylchedd newydd. Mae'n bwysig iddynt gymryd ychydig wythnosau i ymgartrefu, rhoi trefn ar bethau ac ymgyfarwyddo â'u hamgylchedd newydd. Os bydd eich mab neu ferch yn dewis byw gartref, ceisiwch annog ef/hi i ymuno â chlybiau a chymdeithasau.

Beth bynnag fo'r canlyniad, y peth pwysicaf i'w gofio yw peidio â chynhyrfu.

YMCHWIL Gyda miloedd o gyrsiau ar gael mewn cannoedd o brifysgolion ar draws y DU, byddem yn eich annog i drafod yr hyn yr hoffai eich mab neu ferch ei gael o'u dyfodol. Ar ôl penderfynu ar yr hyn yr hoffent ei astudio, y penderfyniad hollbwysig nesaf yw ble. Mae'n bwysig iawn eu bod yn dewis y brifysgol gywir ar eu cyfer gan y byddant yn treulio'r 3-5 mlynedd nesaf o'u bywyd yno. DIWRNODAU AGORED Ar ôl i'ch mab neu ferch greu rhestr fer o'u hopsiynau, argymhellwn eu bod yn mynychu diwrnodau agored. Mae diwrnodau agored prifysgol, boed yn rhai rhithwir neu'n wyneb i wyneb, yn un o'r ffyrdd gorau o ymchwilio, gan ganiatáu ichi weld y campws a'r cyfleusterau, cwrdd â staff a myfyrwyr, gofyn eich cwestiynau eich hun ac yn fwy pwysig, gael ymdeimlad o'r campws. Cynhelir ein diwrnodau agored trwy gydol y flwyddyn a cheir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan: abertawe.ac.uk/diwrnodau-agored CAIS UCAS Cwblheir ceisiadau prifysgol drwy UCAS ac mae sawl dyddiad allweddol y dylai'ch mab neu ferch fod yn ymwybodol ohonynt i sicrhau y cyflwynir eu cais ar amser. Bydd modd iddynt gyflwyno cais am uchafswm o bum cwrs prifysgol a bydd angen iddynt ysgrifennu datganiad personol. Bydd hefyd modd iddynt gyflwyno cais trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch eu cefnogi i gyflwyno cais cryf drwy drafod syniadau â nhw a chynnig prawf-ddarllen y cais. Gweler tudalen 54 – Sut i wneud cais.

53

Made with FlippingBook Annual report maker