ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

ACADEMI

Mae gan Brifysgol Abertawe ddarpariaeth eang a chyffrous ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio cwrs gradd yn gyflawn neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae Academi Hywel Teifi yma i dy gefnogi i wneud hynny trwy gydol dy amser gyda ni. Mae Academi Hywel Teifi yn darparu cymuned ar gyfer pawb sy’n cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol ac i’r miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma. Trwy amrywiol weithgareddau mae’r Academi yn cefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe gan hybu cydweithio, mentergarwch a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ein data TEF* yn dangos bod myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn gyflawnwyr uchel o ran cyflogadwyedd. Mae hawl gen ti gyflwyno dy waith cwrs ac i sefyll dy arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os wyt ti wedi dewis dilyn cyrsiau cyfrwng Saesneg. Gweler ein Grid Cyfeirnodi Cyrsiau ar dudalennau 1 6 7 - 17 9 i ddarganfod beth sydd ar gael fesul pwnc. * Canlyniadau TEF Prifysgol Abertawe 2017 a 2018 GWOBR ACADEMI HYWEL Mae Gwobr Academi Hywel Teifi yn gwobrwyo myfyrwyr sy'n cyfrannu at fywyd a gweithgareddau diwylliannol ac academaidd Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r wobr yn cydnabod rôl, cyfraniad a llwyddiannau sy’n ymwneud â chefnogi, hyrwyddo a dathlu’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig. Bydd y Wobr yn cael ei chofnodi ar dy dystysgrif gradd. Am fanylion pellach, e-bostia

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU CYFRWNG CYMRAEG

Yn ogystal ag Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi yn gynllun sy’n agored i fyfyrwyr sydd eisoes wedi dewis dod i Brifysgol Abertawe ac sydd yn ystyried neu yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle,

yn hytrach na thrwy’r Saesneg. Am fanylion pellach, e-bostia: astudio@abertawe.ac.uk

CANGEN PRIFYSGOL ABERTAWE, COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Mae Cangen y Coleg yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth wrth i ti astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Gangen yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys digwyddiadau croeso i lasfyfyrwyr, digwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr Cymraeg, a fforymau trafod i roi llais i fyfyrwyr ar eu haddysg a’u profiad addysgol. Mae’r Gangen hefyd yn hwyluso dy gyfle i ymgeisio am y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg a chyfleoedd profiad gwaith mewn amgylchfyd gwaith iaith Gymraeg.

abertawe.ac.uk/cangen-abertawe

astudio@abertawe.ac.uk

CADWA LYGAD AM Y SYMBOL ar bob un o’n tudalennau cwrs

32

Made with FlippingBook Annual report maker