ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Penderfynais astudio ym Mhrifysgol Abertawe gan fy mod wrth fy modd gyda'r ardal, ac mae 'na ymdeimlad cartrefol yma ger y traeth, yn debyg i fy nghartre' ar Ynys Môn. Roedd hi'n benderfyniad hawdd iawn i ddod yma, ac mae'n teimlo'n gartrefol gan fod pawb mor groesawgar! Dechreuais fy nghyfnod yn Abertawe yn ystod Covid-19 felly roedd fy mlwyddyn gyntaf ychydig yn wahanol i'r arfer ond roedd hi'n dal i fod yn flwyddyn wych! Serch hynny, gyda chyfyngiadau’n llacio a mwy o weithgareddau wyneb yn wyneb, rydw i’n achub ar y cyfle i dderbyn profiadau newydd, megis gwirfoddoli ac ymuno â chymdeithasau gwahanol. Mae’r cwrs yn rhoi digon o amrywiaeth o ran pynciau ac rwy'n mwynhau'n arw cael y cyfle i ddysgu gwaith ymarferol y cyfryngau gan fynd ati i greu cynnwys fy hunan. Rwy'n ffodus i allu astudio fy nghwrs yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg gan hefyd dderbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd hyn yn fy helpu i gael mwy o opsiynau gwaith yn y dyfodol, gan fod dwyieithrwydd yn sgil sy'n denu cyflogwyr yng Nghymru a thu hwnt. Hefyd, mae cyfle yn y Brifysgol i dderbyn mwy o gymwysterau allgyrsiol fel Y Dystysgrif Sgiliau Iaith sy'n edrych yn grêt ar dy CV. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn gryf yn Abertawe. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy mhenodi fel Llywydd y Gymdeithas Gymraeg ac rydym fel criw yn cyfarfod yn gyson a threfnu cyfleoedd i fynd i wahanol ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod Ryng-golegol. Yn ogystal, rydw i wedi bod yn mynychu'r Capel Cymraeg yma sef 'Capel Gomer' ac wedi cyfarfod pobl newydd o bob oed. Rydw i wedi cael llawer iawn o gyfleoedd yn Abertawe hyd yma. Cefais fy nerbyn i fod yn llysgennad i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn fy mlwyddyn gyntaf gan gynrychioli'r Brifysgol, cynnal sgyrsiau gydag ysgolion, creu blogs a llawer mwy! Yn ogystal, llwyddais i dderbyn Y Dystysgrif Sgiliau Iaith, ymuno â'r Gym Gym ac yna dod yn Llywydd arni. Ar ben hynny, cefais fy newis fel Llysgennad ar gynllun y Brifysgol gan gynrychioli'r Gymraeg, a llawer mwy! Bacha ar unrhyw gyfle posib, mae'r cyfleoedd yn ddiddiwedd!

CYMRAEG, Y CYFRYNGAU A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler:

a bertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr

85

Made with FlippingBook Annual report maker