ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BODDHAD MYFYRWYR 6 YN Y DU ED

CYMDEITHASEG CAMPWS PARC SINGLETON

Bydd astudio gradd mewn Cymdeithaseg yn rhoi'r sylfaen ddamcaniaethol hanfodol sydd ei hangen arnat i ddeall ymddygiad pobl fel bodau cymdeithasol, yn ogystal â'r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd sy'n dylanwadu ar ein cymdeithas. Byddi di’n meithrin sgiliau ymchwil cymdeithasol, ynghyd â'r gallu i ddadansoddi tystiolaeth a'i gwerthuso'n feirniadol a llunio dadleuon mewn perthynas â'r materion cymdeithasol cymhleth sy'n effeithio ar bob un ohonom.

(Complete University Guide 2022)

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

Cei dy addysgu gan dîm o academyddion sy'n weithgar o ran ymchwil ac sy'n cyhoeddi sawl darn o waith. Mae ein strwythur gradd hyblyg, yn dy alluogi i deilwra dy gwrs yn unol â dy ddiddordebau penodol, dy ddyheadau gyrfa. Byddi di’n cael cyfle i gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith er mwyn adeiladu ar dy sgiliau a dy brofiad, a chyfoethogi dy ragolygon gyrfa. Gallai'r lleoliadau hyn gynnwys awdurdodau lleol, busnesau, lleoliadau gofal iechyd, lleoliadau addysg ac elusennau, yn dibynnu ar dy ddiddordebau a dy nodau gyrfa.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cymdeithaseg: Dadleuon Cyfoes • Cymdeithaseg: Y Clasuron • Economeg mewn Cymdeithas • Ymholiad Cymdeithasol ar Waith • Unigolion a'r Gymdeithas Blwyddyn 2 • Addysg, Polisi a Chymdeithas • Cwestiynu Dulliau Meintiol ac Ansoddol Gwyddor Cymdeithasol

CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-ABB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) † BSc Anrhydedd Sengl ▲ Cymdeithaseg ♦ Cymdeithaseg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ♦ Troseddeg a Chymdeithaseg ♦ Troseddeg a Chymdeithaseg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) BSc Cydanrhydedd Cymdeithaseg a ▲ Polisi Cymdeithasol ♦  Polisi Cymdeithasol (gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ Seicoleg ♦ Seicoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

• Problemau Cymdeithasol • Problemau Cymdeithasol: Cyfryngau, Chwedlau a Phanig Moesol • Ymchwilio i Ryw

Blwyddyn 3 • Anabledd • Bodau Dynol ac Anifeiliaid Eraill • Polisi a Chymdeithas • Symudiadau Cymdeithasol • Traethawd Hir • Ymchwilio i Ryw

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysg a Hyfforddiant Proffesiynol e.e. y Gyfraith, Newyddiaduraeth neu Addysgu • Astudiaeth Ôl-raddedig • Cyrff Gwirfoddol/Trydydd Sector • Gwasanaethau Cyhoeddus • Y Gwasanaeth Sifil • Ymchwil mewn Cyrff Cyhoeddus neu Breifat

86

Made with FlippingBook Annual report maker