ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BODDHAD CYFFREDINOL (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021) 82 %

CYMRAEG CAMPWS PARC SINGLETON

Mae'r iaith Gymraeg yn agor drysau i amrywiaeth eang o gyfleoedd cyffrous mewn meysydd fel masnach, addysg, y cyfryngau ac awdurdodau lleol. Bydd y cwrs hwn yn sicrhau fod gen ti'r ddealltwriaeth, gwybodaeth a’r sgiliau sy’n berthnasol i Gymru heddiw, fe fyddi di’n dysgu mewn adran sydd ag enw da rhagorol o ran ansawdd eu haddysgu a'u hymchwil yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Byddi di’n cael sylfaen gadarn mewn iaith gyda chyfle i arbenigo mewn meysydd fel cyfieithu, ysgrifennu creadigol, polisi a deddfau’r iaith, seicoieithyddiaeth a llenyddiaeth Gymraeg. Cei gyfle i wneud lleoliadau gwaith amrywiol fel rhan o dy gwrs. Fel cyn-fyfyriwr Cymraeg o Abertawe, fe fyddi di’n meithrin dealltwriaeth gadarn o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i chyd-destun cyfreithiol. Fe fyddi di'n gallu meddwl yn feirniadol ac yn greadigol – meithrin sgiliau gwerthfawr ar gyfer y byd gwaith cystadleuol.

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysg • Cyfieithu • Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus • Cyhoeddi • Y Gwasanaeth Sifil

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BA Anrhydedd Sengl ▲ Cymraeg (Llwybr Iaith Gyntaf) ▲  Cymraeg (Llwybr Iaith Gyntaf) (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant) ▲ Cymraeg (Llwybr Ail Iaith) ♦ Cymraeg (Llwybr Ail Iaith) (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant) ▲  Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ♦ Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Cymraeg: Iaith, Cyfraith a Pholisi ♦ Cymraeg: Iaith, Cyfraith a Pholisi (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant) BA Cydanrhydedd Cymraeg (Llwybr Iaith Gyntaf/Ail Iaith) ▲  Addysg a Chymraeg ♦ Addysg a Chymraeg (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Cyfryngau (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Hanes ♦ Hanes (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Llenyddiaeth Saesneg ♦  Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Dramor)

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 (Iaith Gyntaf) • Cyfieithu • Cymraeg Creadigol • Cymraeg Proffesiynol • Statws yr Iaith Gymraeg Blwyddyn 1 (Ail Iaith) • Defnydd o'r Iaith • Trawsieithu • Sgiliau Cyflwyno a Chyfathrebu Blwyddyn 2 • Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol • Hawliau’r Iaith yn y Cyd-destun Rhyngwladol • Rhyddiaith Rhwng Dau Fyd Blwyddyn 3 • Blas ar Ymchwil • Cyfieithu • Drama’r Gymraeg: Saunders Lewis a Gwenlyn Parry • Traethawd Hir • Yr Iaith Gymraeg, Datganoli a'r Gyfraith

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

87

Made with FlippingBook Annual report maker