ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Rydw i wedi dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd rwy’n gobeithio gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymraeg. Mae cael y cyfle i weithio gyda phobl sydd yn siarad neu'n dysgu Cymraeg yn fraint fawr i mi, gan fod y Gymraeg yn rhan bwysig o'm hunaniaeth, sydd yn cefnogi fy natblygiad academaidd. Ar leoliadau gwaith, rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y mae defnyddio’r Gymraeg yn ei wneud wrth i fi helpu pobl ac rwy’n cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda phobl yn eu mamiaith, gan fod hyn yn cyfoethogi perthynas a phrofiad yr unigolyn. Yn aml, maent yn ymlacio’n gynt i'r sefyllfa ac yn ymddiried yn y berthynas broffesiynol. Mae yna alw mawr am weithwyr Cymraeg eu hiaith gan y Llywodraeth a Chyngor Gofal Cymru. Rydw i’n derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth Academi Hywel Teifi eleni ar gyfer astudio 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r arian yn gymorth mawr i brynu adnoddau ar gyfer y cwrs fel gwerslyfrau. Fy hoff elfen o’r cwrs yw cael fy nysgu gan ddarlithwyr sydd â chymaint o brofiad yn y maes, a chael defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau rydy n yn dysgu o fewn y darlithoedd ar leoliadau gwaith go iawn.

BSc GWAITH CYMDEITHASOL I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler:

a bertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr

104

Made with FlippingBook Annual report maker