BODDHAD CWRS (Guardian University Guide 2022) 10 UCHAF YN Y DU
GWLEIDYDDIAETH CAMPWS PARC SINGLETON
Mae ein gradd mewn Gwleidyddiaeth yn ystyried sut mae grym, sefydliadau a chyfreithiau’n effeithio ar ein bywydau bob dydd. Maen nhw’n trafod gwahanol weledigaethau am gymdeithas fwy cyfiawn, ac yn gofyn o ble mae problemau i’r gymdeithas yn dod ac a allwn ni eu rhwystro. Fe gei gyfle i ymgymryd ag ymchwil gymhleth sy'n archwilio lle mae pwˆ er yn gorwedd a sut y caiff ei ddefnyddio.
Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael
Byddi di’n archwilio gwleidyddiaeth Brydeinig ac Ewropeaidd, polisi cyhoeddus, damcaniaeth ac athroniaeth wleidyddol, materion etholiadol, democratiaeth, a heddwch a gwrthdaro rhyngwladol. Ar yr un adeg, byddi di’n datblygu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Cei gyfle i gymryd interniaeth cystadleuol gyda Senedd Cymru fel rhan o’r modiwl: Senedd Cymru. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn un o nifer cyfyngedig o sefydliadau a ddewiswyd i ddechrau partneriaeth â Senedd y DU i gyflwyno modiwl arloesol, Astudiaethau Seneddol i fyfyrwyr yn y drydedd flwyddyn. Mae’r modiwl yn cynnwys cyfres o sesiynau gydag arbenigwyr ac aelodau o staff sy’n gweithio yn Senedd y DU. Bydd yn arwain at ymweld â San Steffan am ddiwrnod, a fydd yn cynnwys sgwrsio ag uwch-aelodau o’r Senedd.
FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Athroniaeth Wleidyddol • Cyflwyniad i Wleidyddiaeth • Damcaniaethau Rhyfel • Gwleidyddiaeth a’r Bobl • Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Americanaidd Blwyddyn 2 • America mewn Argyfwng: Diwylliant a Chymdeithas Gwleidyddol o Ymosodiadau TET i Trump • Cyfiawnder Byd-eang a Hawliau Dynol • Gwleidyddiaeth Prydeinig a Pholisi Cyhoeddus • Hanes Meddwl Gwleidyddol •Y Sefydliadau Gwladol a Gwleidyddol Blwyddyn 3 • Astudiaethau Seneddol • Athroniaeth, Iechyd Meddwl a Salwch
CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BA Anrhydedd Sengl ▲ Gwleidyddiaeth ♦ Gwleidyddiaeth
(gyda Blwyddyn Dramor)
♦ Gwleidyddiaeth
(gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ♦ Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (gyda Blwyddyn Dramor) BA Cydanrhydedd Gwleidyddiaeth a ▲ Astudiaethau Americanaidd ♦ Astudiaethau Americanaidd (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Hanes ♦ Hanes (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Hanes yr Henfyd
▲ Llenyddiaeth Saesneg ♦ Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Polisi Cymdeithasol ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
• Senedd Cymru • Traethawd Hir
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysg • Busnes • Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus • Llywodraeth a Gwleidyddiaeth • Sefydliadau Dyngarol • Y Gyfraith
105
Made with FlippingBook Annual report maker