ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Ar ôl penderfynu ar ba gwrs i ddilyn yn y brifysgol, dechreuais ymweld â phrifysgolion o gwmpas Cymru. Roeddwn yn gwybod o’r dechrau fy mod eisiau mynychu prifysgol yng Nghymru gan fy mod eisiau parhau i gael gymaint o fy addysg yn y Gymraeg ag y galla’i, a hefyd parhau i gael y cyfle i gymdeithasu trwy’r Gymraeg. Unwaith i mi ymweld â Phrifysgol Abertawe ar ddiwrnod agored roeddwn yn gwybod yn syth mai dyma’r brifysgol i mi. Teimlais yn gartrefol o’r dechrau wrth ymweld â’r campws a’r adran Fathemateg, a’r hyn roedd y brifysgol yn gallu cynnig i mi. Roedd yn adran wych a oedd yn symud i adeilad newydd ar Gampws y Bae yn fy ail flwyddyn, a hefyd yn cynnig canran o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg – y modiwlau craidd – gyda thiwtor Cymraeg hefyd. Roedd clywed am Gymdeithas Gymraeg y brifysgol a chael y cyfle i fyw mewn fflat Gymraeg ar gampws y Brifysgol yn fy mlwyddyn gyntaf yn sicrhau fy mod yn cael y cyfle i gymdeithasu trwy’r Gymraeg hefyd. Dyna pam mi wnes i benderfynu aros ym Mhrifysgol Abertawe i astudio’r cwrs TAR. Er ei fod yn gwrs newydd i’r brifysgol eleni, roedd hi’n benderfyniad hawdd iawn i ddewis Prifysgol Abertawe i barhau gyda fy addysg.

BSc MATHEMATEG Graddiodd yn 2020

I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler:

a bertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr

133

Made with FlippingBook Annual report maker