ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

MATHEMATEG (Guardian University Guide 2022) CWRS 30 UCHAF YN Y DU

MATHEMATEG CAMPWS Y BAE

Mae Mathemateg yn un o’r disgyblaethau mwyaf diamser a rhyngwladol gan ffurfio’r seiliau yr adeiladwyd y byd cyfoes arnynt. Mae gwyddoniaeth a busnes cyfoes yn seiliedig ar fathemateg, ac mae ein cyrsiau gradd yn adlewyrchu cysylltiad â diwydiant. Wrth i ti fynd yn dy flaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd mathemategol y byddi di’n eu datblygu yn cyfuno â sgiliau trosglwyddadwy sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth yn y diwydiant ehangach.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Mae'r cwrs gradd mathemateg yn cwmpasu sail eang o fathemateg glasurol a modern. Rydyn yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â mathemateg bur a chymhwysol ac mae pob myfyriwr anrhydedd sengl yn cwblhau traethawd hir mewn maes o'i ddewis yn ei flwyddyn olaf. Ym mhob un o'n cynlluniau byddi’n dysgu sut i ddefnyddio rhesymu, llunio dadleuon cadarn a datblygu sgiliau cyfathrebu. Cei dy addysgu yn ein Hadeilad Ffowndri Gyfrifiadurol a gostiodd £32.5 miliwn i'w adeiladu ac sy'n darparu'r cyfleusterau addysgu diweddaraf sydd o'r safon uchaf. Mae'r rhain yn cynnwys Ystafell Ddarllen benodedig ar gyfer Mathemateg, yng nghanol yr adran, lle y gall y myfyrwyr astudio.

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Actiwari • Cyfrifydd • Dadansoddwr Ystadegol • Gwyddonydd Data • Peiriannydd Meddalwedd • Ymgynghorydd Rheoli

CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: ABB-BBB (gan gynnwys Mathemateg) MMath: AAB-ABB (gan gynnwys Mathemateg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Fodelu ac Efelychu • Geometreg: Mathemateg, Rhesymeg a Chyfathrebu • Sylfeini Algebra Blwyddyn 2 • Credadwyedd, Atebolrwydd ac Adfail • Dadansoddiad Aml-newidiol • Gofodau Metrig a Theori Mesur • Theori Gêm ac Optimeiddio Blwyddyn 3/MMath • Algebra Uwch • Biomathemateg • Calcwlws Amrywiadau • Cyfres Amser a Modelau Risg • Dysgu Peiriant

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Mathemateg ♦ Mathemateg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ Mathemateg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ Mathemateg Bur ▲ Mathemateg Gymhwysol ♦ Mathemateg Gymhwysol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ▲ Mathemateg ar gyfer Cyllid ♦ Mathemateg ar gyfer Cyllid (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) BSc Cydanrhydedd Mathemateg a ▲ Addysg ♦ Addysg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Cyfrifiadureg ♦ Cyfrifiadureg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ▲ Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ♦ Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/ Dramor)

• Mathemateg Ariannol • Sicrwydd a Blwydd-dal • Systemau Dynamig

MMath Anrhydedd Sengl ♦ M Math Mathemateg H  MMath Mathemateg

(gyda Blwyddyn Dramor) Gwyddor Actiwaraidd – gweler tudalen 106 ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5MLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

Mae achrediadau'n cynnwys:

132

Made with FlippingBook Annual report maker