ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

MARCHNATA CAMPWS Y BAE & CAMPWS PARC SINGLETON

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael (Complete University Guide 2022) YN Y DU 17 EG MARCHNATA

A elli weld dy hun yn gweithio i asiantaeth farchnata amlwladol gyda brand adnabyddus? Bydd y radd hon yn dy helpu i sefyll allan gyda'r sgiliau creadigol dynamig sydd eu hangen i reoli marchnata mewn modd pendant ar lefel fyd-eang, genedlaethol neu leol.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddi di’n datblygu sylfaen graidd mewn rheoli busnes a marchnata. Yn y blynyddoedd dilynol, byddi di’n arbenigo mewn modiwlau sy'n benodol i farchnata ac yn cael cyfle i astudio modiwlau dewisol o ddisgyblaethau busnes eraill. Byddi di’n dysgu sut i feddwl yn feirniadol a gwneud penderfyniadau marchnata strategol ar sail gwybodaeth, gan effeithio ar y byd go iawn. Rydyn wedi datblygu’r strwythur a chynnwys y cwrs yn unol â Thystysgrif y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) a, thrwy darlithoedd, tiwtorialau a chyfarfodydd un-i-un, byddi di’n derbyn gwybodaeth arbenigol o’r staff academaidd. Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhoi'r cyfle perffaith i ti ennill profiad diwydiant y byd go iawn, gan dy wneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio.

Wyt ti eisiau blwyddyn fythgofiadwy yn ymdrochi mewn diwylliannau newydd a datblygu fel unigolyn; yn broffesiynol ac yn bersonol ? Mae Blwyddyn Dramor hefyd yn gyfle sydd ar gael i ti. FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyd-destun Byd-eang y Sefydliad • Entrepreneuriaeth a Chreadigrwydd: Entrepreneuriaeth ar Waith • Marchnata • Rheoli Pobl Blwyddyn 2 • Cynllunio Marchnata Strategol • Marchnata Digidol

CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ ♦ Marchnata ▲ ♦ Rheoli Busnes (Marchnata)

♦  Gellir ymestyn ein holl gyrsiau 3 blynedd i 4 blynedd i'w cynnwys: (Blwyddyn Sylfaen) neu (Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Mae hefyd opsiwn i astudio marchnata dan y llwybr BSc Rheoli Busnes (Marchnata) . Am fwy o wybodaeth, gweler tudalen 154.

• Marchnata Rhyngwladol • Ymddygiad Defnyddwyr Blwyddyn 3 • Cyfathrebu Marchnata • Datblygu Ceisiadau • Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol • Moeseg Marchnata

Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Prynwr Cyfryngau • Rheolwr Brand • Rheolwr Marchnata • Swyddog Gweithredol Cyfrif Cysylltiadau Cyhoeddus • Ymgynghorydd Rheoli

Datblygwyd strwythur y cwrs yn unol â Thystysgrif CIMmewn Marchnata Proffesiynol a Diploma mewn Marchnata Proffesiynol Mae achrediadau'n cynnwys:

131

Made with FlippingBook Annual report maker