ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

ASTUDIO A CHYMDEITHASU TRWY GYFRWNG

Y GYMDEITHAS GYMRAEG Mae'r GymGym yn rhoi cyfleoedd amrywiol i ti gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill mewn amgylchedd anffurfiol. Mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn cwrdd yn rheolaidd gan drefnu llu o weithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys tripiau rygbi, gigs, a chrôls, Eisteddfodau Rhyng-gol a llawer mwy. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn gweithio’n glos gyda Changen Abertawe o'r Coleg Cymraeg gan hefyd gefnogi Clwb Rygbi Tawe. AELWYD YR ELYRCH Mae'r Aelwyd yn cynnig cyfleoedd

Gwern Dafis, Swyddog Materion Cymraeg, Undeb y Myfyrwyr

Yn fy rôl fel Swyddog Materion Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, byddaf yn cynrychioli’r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. I wneud hyn, byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr un cyfleoedd yn cael eu cynnig i fyfyrwyr Cymraeg â sy’n cael eu cynnig i holl fyfyrwyr eraill y Brifysgol. Yn ystod y flwyddyn i ddod, byddaf yn sicrhau bod yna gysondeb yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i defnydd ar draws ein campysau. Drwy gynnig cyfleoedd academaidd a chymdeithasol, mi fydd cyfleoedd i siaradwyr rhugl a dysgwyr gymdeithasu. Mae’n bwysig bod presenoldeb yr iaith a’r diwylliant Cymreig yn rhan annatod o brofiad pob myfyriwr sy’n ymweld ag Abertawe, ac felly trwy gynnal dathliadau a digwyddiadau yn ystod y flwyddyn mi fydd hyn yn gyflawnadwy.

i ti gystadlu yn yr Eisteddfod, gwirfoddoli yn y gymuned leol a bod yn rhan o weithgareddau ymarferol a llawer mwy. Mae'r Aelwyd yn cwrdd bob pythefnos mewn lleoliadau amrywiol ar gampysau'r Brifysgol.

Ystyr y gair Aelwyd yw cartref felly beth am ymuno â’n cartref newydd ni o fewn cymuned fawr yr Urdd. Mae'r Aelwyd yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gymdeithas Gymraeg, Swyddog Materion Cymraeg, Undeb Myfyrwyr a Changen Abertawe.

Candelas yn perfformio yn Undeb y Myfyrwyr yn ystod Eisteddfod Ryng-golegol Prifysgol Abertawe

34

Made with FlippingBook Annual report maker