ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BODDHAD CWRS (Guardian University Guide 2022) 10 UCHAF YN Y DU

HANES CAMPWS PARC SINGLETON

Wrth astudio ar gyfer ein gradd Hanes eang ei chwmpas, byddi’n archwilio bron 2,000 o flynyddoedd o gymdeithasau a diwylliannau o'r oes o'r blaen yng Nghymru, Prydain, Ewrop, Unol Daleithiau America a thu hwnt. Gelli astudio hanes canoloesol, hanes modern cynnar a hanes modern hyd at y cyfnod presennol, gan ddatblygu sgiliau gwerthfawr wrth ddadansoddi newid hanesyddol dros y canrifoedd.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Gelli ddewis o amrywiaeth eang o fodiwlau, er mwyn arbenigo mewn maes rwyt ti’n ymddiddori ynddo eisoes neu astudio rhai newydd. Mae'r themâu yn cynnwys datblygiad gwleidyddol, newid diwylliannol, rhywedd, hanes meddygol, treftadaeth, a rhyfel a heddwch. Gelli hefyd ddewis o fodiwlau sy'n ymdrin â hanes Prydain, Ewrop, America, y Byd a Chymru. Cei dy addysgu gan arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd, sy'n golygu bod addysgu yn ddynamig ac ar flaen y gad o ran ysgolheictod hanesyddol cyfredol. Rydyn hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni cydanrhydedd, sy'n dy alluogi i baru dy astudiaethau hanesyddol â maes arall.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Creu Hanes • Damcaniaethau Rhyfel • Ewrop yr Eithafon, 1789-1989 • Ewrop yr Oesoedd Canol: Cyflwyniad • Y Byd Modern Cynnar, 1500- 1800 Blwyddyn 2 • Lleoliad Gwaith Hanes • Meddygaeth a'r Byd Modern, 1800 hyd heddiw • Prydain yn yr Oesoedd Canol Cynnar: Caethweision, Dreigiau, Breninesau a Llychlynwyr • Stori America ar Ffilm a Theledu • Y Rhyfel Oer Blwyddyn 3 • Gosod Hanes: Mapio'r Gorffennol Hanesyddol yn Ddigidol • Hanes Rhyw a Rhywedd • Hanesion yr Ymerodraeth • Traethawd Hir Hanes • Y Dirwasgiad Mawr a Bargen Newydd America 1929 -1941

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BA Anrhydedd Sengl ▲ Hanes

♦ Hanes (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Hanes (gyda Blwyddyn Sylfaen) BA Cydanrhydedd Hanes a ♦ ▲ ♦ Astudiaethau Americanaidd ▲ ♦  Cysylltiadau Rhyngwladol ▲ ♦  Cymraeg (Iaith Gyntaf gyda Blwyddyn Dramor) ▲ ♦  Cymraeg (Ail Iaith gyda Blwyddyn Dramor) ♦ F frangeg (gyda Blwyddyn Dramor) Almaeneg (gyda Blwyddyn Dramor)

▲ ♦ Gwleidyddiaeth ▲ ♦ Hanes yr Henfyd ▲ ♦ Llenyddiaeth Saesneg ▲ ♦  Polisi Cymdeithasol ♦ ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

Sbaeneg (gyda Blwyddyn Dramor)

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysg • Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd • Archifau Hanesyddol • Cyfryngau • Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith • Y Gwasanaeth Sifil

120

Made with FlippingBook Annual report maker