ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

GWYDDOR GOFAL IECHYD (MEDDYGAETH NIWCLEAR) CAMPWS PARC SINGLETON

(Complete University Guide 2022) ASTUDIAETHAU IECHYD 6 YN Y DU ED

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i ti'r hyfforddiant arbenigol y bydd ei angen arnat er mwyn dechrau gyrfa wobrwyol, uchel ei sgiliau, yn gweithio yn y proffesiwn gofal iechyd fel technolegydd ffiseg feddygol/technolegydd meddygaeth niwclear. Mae'r cwrs yn cyfuno gwaith academaidd manwl â chymwysiadau clinigol ymarferol yn ein cyfleusterau o'r radd flaenaf, a bydd yn meithrin dy sgiliau gwaith a dy sgiliau technolegol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd arbenigol.

DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol) abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

Mae Meddygaeth Niwclear yn faes cyffrous sy'n datblygu'n barhaus, sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a sgìl dechnegol. Fel technolegydd ffiseg feddygol, byddi di’n gweithredu, yn cynnal a chadw ac yn monitro cyfarpar arbenigol cymhleth sydd wedi'i ddefnyddio wrth ddiagnosio a thrin cleifion o bob oedran. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys ystafelloedd clinigol realistig er mwyn i ti roi dy wybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl yr amodau go-iawn y byddi di’n eu profi pan fyddi di ar leoliad gwaith. FEL ARFER MAE'R MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg a Ffisioleg • Mathemateg a Ffiseg ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd • Hysbyseg ac Ystadegau • Pathoffisioleg • Sail Wyddonol Ffiseg Feddygol

Blwyddyn 2 • Cylch Bywyd Cyfarpar Meddygol • Delweddu Meddygol • Offeryniaeth Prosesu Signalau a Delweddu • Pelydredd nad yw’n ïoneiddio a Mesuriadau Ffisiolegol • Ymarfer Diogelwch Pelydredd Blwyddyn 3 • Arwyddion Clinigol, Patholeg a Gofal Cleifion • Ffiseg ac Offeryniaeth • Prosiect Ymchwil • Ymarfer Proffesiynol

Cynigion Cyd-destunol ar gael

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys Ffiseg neu Fathemateg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Gofal Iechyd (Meddygaeth Niwclear) ▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

Darllen ein canllaw pwnc yma:

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Cyflog cychwynnol y GIG i wyddonydd gofal iechyd yw oddeutu £25,654 (Band 5), a fydd yn codi i £45,838. Gall cyflogau amrywio'n sylweddol yn y sector preifat.

Mae achrediadau'n cynnwys:

115

Made with FlippingBook Annual report maker