ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

MYFYRIWR MATT YN DWEUD BOD COVID-19 WEDI'I ADDYSGU I DDEALL GWIR YSTYR BOD YN NYRS Dyfarnwyd gwobr 'Myfyriwr Nyrs Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn' i Matt yng Ngwobrau Nodedig y Nursing Times. (Gwobrau 2020)

GWNEUD

Sefydlwyd Prifysgol Abertawe ym 1920 i ateb anghenion ein cymuned leol ac ehangach, trwy ymchwil a thrwy arloesedd: bu gwneud gwahaniaeth yn rhan o'n diwylliant ers dros 100 o flynyddoedd. Mae'r pandemig byd-eang wedi cael effaith fawr ar bob un ohonom, ond credwn fod llawer i'w ddysgu o'n sefyllfa, a llawer o ganlyniadau cadarnhaol. Rydyn wedi darganfod ein bod yn gallu addasu – nid mewn modd digonol yn unig, ond hefyd mewn modd arbennig o dda – i ffyrdd newydd o astudio, gweithio a byw. Rydyn yn edrych ymlaen at y dyfodol ac rydyn wedi ymrwymo'n llwyr i wneud Prifysgol Abertawe'n brofiad cadarnhaol a gwobrwyol i bob un o'n myfyrwyr.

Gwirfoddolodd dros 1,000 o fyfyrwyr o'r Ysgol Feddygaeth ac Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i helpu cydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig: • Cyflwynwyd myfyrwyr Meddygaeth yn eu blwyddyn olaf yn feddygon ar ôl i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol gynnig cofrestriad cynnar dros dro • Lleolwyd 662 o fyfyrwyr nyrsio yn y byrddau iechyd • Cynorthwyodd holl fyfyrwyr Bydwreigiaeth y Brifysgol yn eu trydedd flwyddyn fydwragedd cymwysedig • Cofrestrodd o leiaf 101 o fyfyrwyr

Parafeddygaeth i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

06

Made with FlippingBook Annual report maker