ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

CHWILIA AM Y SYMBOLAU CANLYNOL DRWYDDI DRAW YN NHUDALENNAU'R CYRSIAU: Cyfleoedd Byd-eang ar gael – am fanylion llawn, gweler grid cyfeirnodi cyrsiau ar dudalen 167-179 .† C eir Cyfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ^ ar y cwrs hwn – am fanylion llawn, gweler tudalen we unigol y cwrs. Ceir Llwybr Blwyddyn Sylfaen ar y cwrs hwn – gweler tudalennau 58-63 . Ceir Cyfleoedd am Ysgoloriaethau Cymraeg ar y cwrs hwn – gweler tudalen 34 .  Ceir Cynigion Cyd-destunol ar y cwrs hwn.



YSGOLORIAETHAU

Arian a ddyfernir ar sail dy gyflawniad academaidd. Nid oes angen talu ysgoloriaeth yn ôl ond mae angen i ti fodloni meini prawf penodol.

ANRHYDEDD SENGL

Lle mae gen ti un prif bwnc, ond gelli hefyd ddewis 2 fodiwl atodol yn ystod y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn fel arfer.

MYFYRIWR ISRADDEDIG

Rhestrir y manylion llawn am y cyfleoedd hyn ar gyfer pob cwrs yn y grid cyfeirnodi cyrsiau, gweler tudalen 167).

Rhywun sy'n astudio am radd baglor, ond nid yw wedi'i chwblhau eto.

^ Caiff y cyfleoedd gwaith ac interniaethau a hysbysebwyd yn y prosbectws hwn eu cynnwys yn seiliedig ar yr wybodaeth y mae’r Brifysgol yn ymwybodol ohoni yn y gwanwyn 2022. Mae’r cyfleoedd sydd ar gael yn amrywio bob blwyddyn a byddant yn amodol ar yr hyn a gynigir gan sefydliadau partner. Nid yw’r Brifysgol yn gwarantu lleoliadau gwaith nac interniaethau ar gyfer myfyrwyr ac mae cyfleoedd yn amodol ar fodloni amodau academaidd, ariannol, ac ymarferol sy’n berthnasol i’r cyfle penodol hwnnw. Hefyd, mae cyfleoedd gwaith ac interniaethau yn destun proses ymgeisio gystadleuol rhwng myfyrwyr a gofrestrwyd. Am ragor o fanylion am gyfleoedd gwaith ac interniaethau arfaethedig ar gyfer dy gwrs, cyfeiria at yr wybodaeth ddiweddaraf yn:

BENTHYCIAD I FYFYRWYR

LLE BYDDI DI’N ASTUDIO

Arian a fenthycir o sefydliad allanol, megis Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr neu Gyllid Myfyrwyr Cymru. Bydd angen i ti ad-dalu unrhyw fenthyciad yn ogystal â llog, ond ni fydd angen i ti wneud hynny nes dy fod wedi gorffen neu adael dy gwrs. Mae faint y byddi'n ei ad-dalu bob mis yn dibynnu ar dy incwm nid faint yr wyt wedi'i fenthyca.

CAMPWS PARC SINGLETON

CAMPWS Y BAE

abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

65

Made with FlippingBook Annual report maker