ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Rydw i mor hapus wnes i benderfynu astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf wedi cwrdd â phobl anhygoel ac wedi gwneud ffrindiau o bob cwr o'r byd. Mae'r bobl yma mor groesawgar, rwyt ti'n teimlo'n gartrefol. Mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, p'un ai gan fy mentor academaidd, darlithwyr neu wasanaethau cymorth myfyrwyr. Os wyt ti'n ei chael hi'n anodd deall rhywbeth yn y dosbarth, bydd y darlithwyr yn trafod y mater yn ystod oriau swyddfa ac yn sicrhau bod gen ti well dealltwriaeth. Rydw i wedi gwneud cymaint o atgofion yma: o astudio trwy'r nos yn y llyfrgell i ddathlu gyda noson fawr allan; ymlacio ar y traeth rhwng darlithoedd neu'n mynd am dro gyda'r nos a gweld fy seren wib gyntaf! Mae Peirianneg Gemegol yn gwrs heriol iawn, ond mae'r Brifysgol yn darparu'r holl adnoddau a chefnogaeth sydd eu hangen arnat i ddilyn y llwybr gyrfa o dy ddewis.

BEng PEIRIANNEG GEMEGOL

I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler:

 abertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr

150

Made with FlippingBook Annual report maker