ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

RHAGOLYGON GRADDEDIGION (Complete University Guide 2022) UCHAF YN Y DU 10

PEIRIANNEG: GEMEGOL CAMPWS Y BAE

Mae ein gradd Peirianneg Gemegol yn darparu hyfforddiant arbenigol mewn peirianneg proses fodern, gan ddatblygu sgiliau dadansoddi a datrys problemau sy'n hanfodol i gymhwyso peirianneg i ddiwydiant. Mae peirianwyr cemegol yn cydweithio'n agos â phrosesau sy'n troi deunyddiau crai yn gynhyrchion gwerthfawr i'w defnyddio gan bobl. Mae eu medrau yn sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio'n gynaliadwy, a bod gwaredu cynhyrchion yn cael ei gynnal mewn modd diogel ac yn gyfrifol.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Mae'r cwrs gradd a achredir yn broffesiynol yn darparu gwybodaeth a sgiliau ar draws y sbectrwm llawn o bynciau peirianneg gemegol, sy'n caniatáu i ti gadw dy opsiynau gyrfa ar agor. Wrth i ti symud ymlaen, bydd dy alluoedd dadansoddol cynyddol yn cyfuno â phrofiad ymarferol, gan sefydlu sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth yn y diwydiant peirianneg gemegol ehangach. Mae ein cyfleusterau peirianneg gemegol soffistigedig yn cynnwys ein Labordy Cemegol Peilot yn cynnwys 15 o lwyfannau ar raddfa peilot sy'n cwmpasu ystod eang o weithrediadau uned. Ymhlith y cyfleusterau eraill o'r radd flaenaf y byddi di’n gweithio â nhw o bosibl mae microsgopeg grym atomig, llwyfannau eplesu, cyseiniant plasmon arwyneb a phrofion adlyniad croeswasgu hydrodynamig.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Egwyddorion Prosesau Cemegol • Labordy Peirianneg Gemegol • Mecaneg Hylifol • Sgiliau Peirianneg Gemegol • Ymwybyddiaeth Amgylcheddol i Beirianwyr Blwyddyn 2

CYNNIG NODWEDDIADOL: BEng: ABB-BBB (gan gynnwys Mathemateg) MEng: AAB (gan gynnwysMathemateg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BEng Anrhydedd Sengl ▲ Peirianneg Gemegol ♦ Peirianneg Gemegol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ Peirianneg Gemegol (gyda Blwyddyn Sylfaen) MEng Anrhydedd Sengl ♦ Peirianneg Gemegol H Peirianneg Gemegol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5MLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

• Dylunio Adweithyddion • Gweithrediadau Proses a Chyfarpar Peilot • Llif Hylifol • Peirianneg Fiocemegol • Prosesau Gwahanu Blwyddyn 3

• Diogelwch ac Atal Colledion • Prosiect Dylunio Peirianneg Gemegol • Systemau Gronynnol • Technolegau Ynni Carbon Isel

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Gwyddonydd Datblygu Cynhyrchion/Prosesau • Peiriannydd Cemegol • Peiriannydd Cymwysiadau • Peiriannydd Petrolewm • Peiriannydd Ynni • Rheolwr Peiriannau Technegol

Mae achrediadau'n cynnwys:

149

Made with FlippingBook Annual report maker