ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

FED DWYSEDD YMCHWIL (Complete University Guide 2022) 10 UCHAF YN Y DU ED

PEIRIANNEG: FECANYDDOL CAMPWS Y BAE

Mae peirianwyr mecanyddol yn trawsnewid syniadau arloesol yn ddyfeisiadau sy'n torri tir newydd. Mae'r ddisgyblaeth yn helpu i ddyfeisio, dylunio a chynhyrchu llawer o'r peiriannau a ddefnyddiwn yn feunyddiol. Mae’r cwrs hwn yn dy baratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau peirianneg .

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Fel myfyriwr yn astudio ar gyfer ein gradd mewn Peirianneg Fecanyddol, byddi’n meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnat i ddilyn gyrfa fuddiol mewn amrywiaeth o sectorau peirianyddol, gan gynnwys peirianneg fodurol, peirianneg fecanyddol a pheirianneg ddylunio. Wrth i ti fynd yn dy flaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddi di’n eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar soffistigedig, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant ehangach. Byddi di’n gweithio'n agos â'n cyfleusterau o'r radd flaenaf drwy gydol dy amser yn Abertawe. Ymhlith y rhain mae labordy mecaneg dynameg, labordy hylifau a'n hystafell profi injan JetCat P120. Mae gennym hefyd unedau sydd ar flaen y gad ym maes gweithgynhyrchu digidol a roboteg.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Dosbarthiadau Dylunio a Labordy • Dylunio Peirianegol • Integreiddio Data mewn Systemau Mecanyddol • Mecaneg Hylifol • Thermodynameg Blwyddyn 2 • Dylunio Elfennau Peiriannau • Dadansoddiad Straen • Peirianneg â Chymorth Cyfrifiadur • Systemau Dynameg • Technoleg Gweithgynhyrchu Blwyddyn 3 • Cinemateg a Rhaglennu ar gyfer Robot • Dylunio Peirianneg Fecanyddol • Gweithgynhyrchu Optimeddiad

CYNNIG NODWEDDIADOL: BEng: ABB-BBB (gan gynnwys Mathemateg) MEng: AAB-ABB (gan gynnwysMathemateg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BEng Anrhydedd Sengl ▲ Peirianneg Fecanyddol ♦ Peirianneg Fecanyddol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ Peirianneg Fecanyddol (gyda Blwyddyn Sylfaen) MEng Anrhydedd Sengl ♦ Peirianneg Fecanyddol H Peirianneg Fecanyddol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5MLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

• Mecaneg Hylifol • Rheoli Peirianneg

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Peiriannydd Cynnal a Chadw • Peiriannydd Mecanyddol • Peiriannydd Modurol • Peiriannydd Mwngloddiol • Technegydd Gweithdy

Mae achrediadau'n cynnwys:

148

Made with FlippingBook Annual report maker