ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BODDHAD CYFFREDINOL (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021) 2 YN Y DU AI L

PEIRIANNEG: GWYDDOR DEUNYDDIAU A PHEIRIANNEG CAMPWS Y BAE

Mae Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg wrth wraidd llawer o'r pynciau peirianneg, gwyddoniaeth a dylunio mwy adnabyddus. Mae Gwyddor Deunyddiau yn archwilio sut y gellir strwythur deunydd ar y raddfa ficro, neu hyd yn oed atomig ddylanwadu ar briodweddau terfynol cynnyrch neu gydran a sut mae deunyddiau'n ymateb i ddylanwadau allanol fel llwytho mecanyddol neu'r amgylchedd.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Byddi di'n cael cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o fwy na 40 o gwmnïau, gan gynnwys Rolls Royce, Tata Steel, BASF, NSG Airbus, Timet a GE, sy'n ein cefnogi trwy ddarlithoedd gwadd, lleoliadau a ariennir. Wrth i ti symud ymlaen, bydd dy alluoedd dadansoddol datblygol yn cyfuno â phrofiad ymarferol o offer uwch, gan sefydlu sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth yn y diwydiant ehangach. Ymhlith ein cyfleusterau o'r radd flaenaf mae cyfarpar blaenllaw ar gyfer pennu nodweddion priodweddau mecanyddol deunyddiau metelaidd, ceramig, polymerig a chyfansawdd. Mae gennym hefyd amrywiaeth helaeth o labordai sy'n cynnwys microsgopau sganio electronau sydd â galluoedd micro-ddadansoddiad a diffreithiant ôl-wasgariad electronau llawn. Bydd ymweliadau â Tata Steel, Timet, Ensinger ac Airbus yn gyfle i gael profiad o ddiwydiant go iawn.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Adnoddau Deunyddiau • Cemeg Offerynnol a Dadansoddi • Cyflwyniad i Beirianneg Deunyddiau • Priodweddau Mecanyddol Deunyddiau • Technoleg Gweithgynhyrchu Blwyddyn 2 • Anffurfiad Mecanyddol mewn Deunyddiau Adeileddol • Deunyddiau Cyfrifiadurol • Deunyddiau Gweithredol a Chlyfar • Esblygiad a Rheolaeth Micro- strwythurau mewn Deunyddiau Metelaidd • Polymerau: Strwythurau a Phrosesu Blwyddyn 3 • Ceramig • Meteleg Ffisegol o Ddur • Micro-strwythurau a Nodweddu • Rheoli Peirianneg • Torasgwrn a Blinder

CYNNIG NODWEDDIADOL: BEng: ABB-BBB MEng: AAB-ABB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Gwyddonydd Datblygu Cynhyrchion • Gwyddonydd Ymchwil • Metelegydd ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5MLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs BEng Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg ♦ Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg (gyda Blwyddyn Sylfaen) MEng Anrhydedd Sengl ♦ Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg H Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor)

• Peiriannydd Biofeddygol • Peiriannydd Deunyddiau • Peiriannydd Systemau Gweithgynhyrchu

Mae achrediadau'n cynnwys:

151

Made with FlippingBook Annual report maker