ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

RHAGOLYGON GYRFA (Guardian University Guide 2022) YN Y DU 6 ED

PEIRIANNEG: SIFIL CAMPWS Y BAE

Mae'r cwrs gradd hwn yn rhoi sylfaen gadarn i ti ym maes dylunio a dadansoddi strwythurau peirianneg sifil. Byddi di’n meithrin sgiliau datrys problemau cymhleth a'r gallu i fraslunio a modelu datrysiadau peirianneg ac yn dod yn gyfforddus wrth baratoi adroddiadau technegol. Bydd y galluoedd dadansoddol y byddi di’n eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar o'r radd flaenaf, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant peirianneg sifil.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Drwy astudio gradd fodern sydd â chysylltiadau agos â'r diwydiant sy'n datblygu'n gyflym, byddi di’n dysgu am arferion dylunio presennol a'r safonau peirianneg diweddaraf. Byddwn yn meithrin dy sgiliau modelu ar gyfrifiadur drwy dy annog i ddatblygu dy feddalwedd dy hun er mwyn dadansoddi problemau peirianneg sifil go iawn. Byddi di’n cael budd o weithio â chyfleusterau soffistigedig gan gynnwys labordai o'r radd flaenaf ar gyfer addysgu strwythurau a phrofi deunyddiau. Mae ein labordy hylifau yn cynnwys cafn arbrofi pum metr o hyd a labordy geomecaneg. Mae'n bosibl y byddi hefyd yn defnyddio ein camerâu cyflym soffistigedig ar gyfer dadansoddi straen a delweddu 3D.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyfathrebu Graffig ar gyfer Dylunio • Dylunio ac Arolygu Priffyrdd • Dylunio Cysyniadol • Mecaneg Beirianegol • Meddwl yn Feirniadol mewn Peirianneg Blwyddyn 2 • Dylunio Concrit Cyfnerth • Dylunio Dur • Mecaneg Hylifol • Mecaneg Strwythurol • Rheoli Peirianneg Sifil Blwyddyn 3 • Dull Elfen Feidraidd • Dylunio Uwch-adeileddau • Geomecaneg • Prosesau Arfordirol a Pheirianneg • Prosiect Ymchwil

CYNNIG NODWEDDIADOL: BEng: ABB-BBB (gan gynnwys Mathemateg) MEng: AAB (gan gynnwysMathemateg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BEng Anrhydedd Sengl ▲ Peirianneg Sifil ♦ Peirianneg Sifil (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ Peirianneg Sifil (gyda Blwyddyn Sylfaen) MEng Anrhydedd Sengl ♦ Peirianneg Sifil H Peirianneg Sifil (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor)

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5MLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Peiriannydd Geodechnegol • Peiriannydd Safle • Peiriannydd Sifil Ymgynghorol • Peiriannydd Strwythurol • Syrfëwr Rheoli Adeiladau • Syrfëwr Meintiau

Mae achrediadau'n cynnwys:

152

Made with FlippingBook Annual report maker