ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BODDHAD CYFFREDINOL 3 YN Y DU YDD

POLISI CYMDEITHASOL CAMPWS PARC SINGLETON

Yr hyn sydd ei angen ar fodau dynol a'r ffordd y mae cymdeithasau'n diwallu'r anghenion hynny sydd wrth wraidd polisi cymdeithasol. Bydd ein cwrs gradd rhagorol a gydnabyddir yn genedlaethol yn ymchwilio i'r ffordd y mae cymdeithas yn hyrwyddo llesiant ei haelodau, gan ystyried themâu a gwerthoedd fel cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, tegwch, dinasyddiaeth, ochr yn ochr ag elfennau penodol sy'n ganolog i bolisïau fel iechyd, addysg, tai, anabledd, trosedd, tlodi a'r teulu.

(Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021)

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Fel myfyriwr Polisi Cymdeithasol, byddi di’n cael dy drwytho mewn amgylchedd ymchwil a dysgu dynamig gan gynnwys cymysgedd amrywiol o bynciau, syniadau a safbwyntiau academaidd. Bydd cyfleoedd i feithrin cysylltiadau â myfyrwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig trwy gydol y cwrs, a byddi di’n meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyfleu dy syniadau'n effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau. Mae'r opsiynau dewisol yn dy alluogi i deilwra dy astudiaethau yn unol â dy ddiddordebau penodol, dy nodau gyrfa ac ochr yn ochr â dy waith academaidd, cei gyfle i gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o dy radd. Mae lleoliadau gwaith diweddar

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Amgylchedd Polisi Cymdeithasol • Athroniaeth Polisi Cymdeithasol: Cyflwyniad i Gysyniadau, Syniadau ac Athroniaethau • Economeg mewn Cymdeithas • Addysg, Polisi a Chymdeithas • Defnyddio Tystiolaeth ar gyfer Ymchwil ac Ymarfer • Nawdd Cymdeithasol, Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol • Polisi Anabledd • Polisi Iechyd Blwyddyn 3 • Egwyddorion Polisi Cymdeithasol • Eiriolaeth, Hawliau a Chynrychiolaeth • Mudiadau Cymdeithasol, Polisi Cymdeithasol a Newid Cymdeithasol • Polisi Cymdeithasol mewn Byd sy’n Heneiddio • Teuluoedd a Phlant: Moeseg a Pholisi • Traethawd Hir • Hanes Polisi Cymdeithasol • Unigolion a'r Gymdeithas Blwyddyn 2

CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) † BSc Anrhydedd Sengl ▲ Polisi Cymdeithasol ♦  Polisi Cymdeithasol (gyda Blwyddyn Sylfaen) BA Cydanrhydedd Polisi Cymdeithasol a ▲ Gwleidyddiaeth ▲ Hanes ♦ Hanes (gyda Blwyddyn Dramor) BSc Cydanrhydedd Polisi Cymdeithasol a ▲ Cymdeithaseg ▲ Troseddeg

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

wedi cynnwys sefydliadau gwirfoddol, darparwyr tai cymdeithasol ac elusennau.

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysg a hyfforddiant proffesiynol e.e. y gyfraith, gwaith cymdeithasol neu addysgu • Cyflogaeth yn y sector preifat e.e. adwerthu, marchnata a rheoli staff • Cyrff Gwirfoddol/Trydydd Sector • Gwasanaethau Cyhoeddus • Y GIG • Y Gwasanaeth Sifil

153

Made with FlippingBook Annual report maker