ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

RYDYN YMA

YMGARTREFU

Dwi’n cofio’r misoedd cyntaf yn y Brifysgol fel y cyfnod mwyaf anodd i ymdopi ag ef. Ar ben bod yn sâl a gweld eisiau cysur cartref, roeddwn i’n eithaf swil ac yn teimlo nad oeddwn i’n gallu ffurfio cysylltiad â’r myfyrwyr eraill yn fy fflat a oedd i gyd eisiau mynd mas a joio drwy’r amser. Dwi’n gwybod bod myfyrwyr eraill yn profi, neu maen nhw wedi profi, teimladau tebyg yn y brifysgol, ond mae’n bwysig gwybod a deall nad ti yw’r unig un a does dim rhaid i ti ddelio â phethau ar dy ben dy hun. Weithiau, gall y brifysgol deimlo’n lle unig, ond gall pobl sy’n dy dderbyn ac yn becso am dy les helpu i leddfu’r teimladau hyn o unigrwydd. Mae’n bwysig sylweddoli hefyd, os wyt ti’n rhy sâl, nad oes rhaid i ti ddyfalbarhau â dy wneud dy hun yn waeth (a theimlo nad oes unrhyw ateb) – gelli wneud cais am absenoldeb neu amgylchiadau esgusodol. Mae’r brifysgol yn cynnig llawer o wasanaethau i helpu myfyrwyr a allai fod mewn anawsterau, o gwnsela, gwasanaethau lles ar y campws a chymorth bugeiliol gan staff. Does dim cywilydd mewn defnyddio’r gwasanaethau hyn na chydnabod a chyfaddef nad wyt yn mwynhau dy amser yn y brifysgol (er y gall hyn fod yn anodd).

Gelli fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth myfyrwyr yn ystod dy amser yn y brifysgol i wneud dy holl amser yma ym Mhrifysgol Abertawe mor ddi-straen a hwylus â phosib.

HYB Y MYFYRWYR SUT GA L LWN DY HE L PU ?

Mae Hyb y Myfyrwyr yma i gynnig gwybodaeth ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyrwyr. Felly, os hoffet gael cymorth i gofrestru neu dalu dy ffioedd yn bersonol, os oes angen cyngor ar dai arnat, cymorth gyda chyllid myfyrwyr neu gymorth i reoli dy lwyth gwaith, Hyb y Myfyrwyr yw’r lle i fynd!

Joanna Wolton Myfyriwr Polisi Cymdeithasol

30

Made with FlippingBook Annual report maker