ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

NYRSIO (The Guardian University Guide 2022) 10 UCHAF YN Y DU

NYRSIO: PLANT CAMPWS PARC SINGLETON

Bydd ein cwrs gradd mewn Nyrsio Plant sydd wedi'i gydnabod yn rhyngwladol yn rhoi i ti'r sgiliau a'r profiad i lansio gyrfa wobrwyol. Drwy gydol y cwrs hwn sydd wedi'i integreiddio'n ofalus, byddi di’n dysgu am anghenion iechyd a lles cyfannol plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol)

Drwy gyfuno astudiaethau academaidd a phrofiad clinigol ymarferol, byddi di’n meithrin y sgiliau proffesiynol i ddarparu gofal nyrsio a dulliau gofal iechyd o safon, ar sail tystiolaeth, mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol a chymunedol, gan weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol yn aml, ar draws y sectorau iechyd a gofal iechyd. Mae ein staff academaidd yn nyrsys cymwysedig, yn feddygon, ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, craffter proffesiynol ac arbenigedd ymarferol. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys ystafelloedd clinigol realistig er mwyn i ti roi dy wybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl yr amodau go-iawn y byddi di’n eu profi pan fyddi di’n mynd ar leoliad gwaith mewn ysbyty neu yn y gymuned. Cynhelir hanner o dy addysgu yn y Brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym berthnasoedd gweithio ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gen ti fynediad i ystod eang o brofiadau clinigol ledled De-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai ac yn y gymuned.

FEL ARFER MAE'R MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyd-destunau Gofal Plant • Cyflwyniad i Nyrsio a Gofal Iechyd i Blant • Deall Iechyd a Salwch Plant Blwyddyn 2 • Gofal Acíwt i Blant • Gofalu am Blant sydd â Chyflwr Hirdymor ac Anghenion Gofal Lliniarol • Sicrhau Gofal o Safon i Blant Blwyddyn 3 • Gofalu am y Plentyn sydd ag Anghenion Cymhleth • Hyrwyddo Ymarfer Nyrsio Plant • Paratoi ar gyfer Ymarfer Proffesiynol

abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig

Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

Cynigion Cyd-destunol ar gael

Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: BBB (gan gynnwys pynciau sy'n ymwneud ag iechyd neu wyddoniaeth yn ddelfrydol)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ ♦  Nyrsio (Plant)

Darllen ein canllaw pwnc yma:

▲ 3 BLYNEDD Amser-Llawn ♦ 4 BLYNEDD Rhan-Amser Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Gall graddedigion Nyrsio ddisgwyl ennill cyflog cychwynnol o £25,655, a fydd yn codi i £53,219 i nyrs staff profiadol.

Mae achrediadau'n cynnwys:

140

Made with FlippingBook Annual report maker