ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BODDHAD CYFFREDINOL (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021) 3 YN Y DU YDD

Y GYFRAITH CAMPWS PARC SINGLETON

O bwerau Seneddol i redeg busnesau a hawliau plant a phobl ifanc, mae’r gyfraith yn hysbysu ac yn dylanwadu ar bob agwedd o'r gymdeithas. Mae astudio’r gyfraith yn anodd ac yn fuddiol. Mae ein rhaglenni’r gyfraith i israddedigion yn rhoi cyfleoedd i ti ddatblygu cyfres o sgiliau ymarferol a deallusol, a fydd yn dy gymhwyso ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Fel myfyriwr y gyfraith yn Abertawe, byddi’n astudio mewn amgylchedd cefnogol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Byddi di'n ennill sylfaen gadarn mewn rhesymeg a dadansoddiad cyfreithiol, yn ogystal ag yng nghyfreithiau sylweddol Cymru a Lloegr. Byddi di'n cael cyfle i gymhwyso cysyniadau cyfreithiol a datblygu sgiliau gan gynnwys cyfathrebu, datrys problemau, ymchwil a meddwl yn feirniadol. Fe fyddi di'n cael cyfle i astudio ystod o feysydd pwnc gan roi cyfle i ti lunio dy radd o amgylch dy ddiddordebau personol. Mae ein rhaglenni gradd yn cynnig ystod o gyfleoedd dysgu arbrofol gan gynnwys ein Clinig y Gyfraith a'r Prosiect Camweinyddiad Cyfiawnder. Byddi di hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dadleuon, cyfweld a thrafod. Rydyn yn cynnig nifer gynyddol o leoliadau gwaith ac astudio lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a’r cyngor a’r cymorth i dy helpu i gyflawni dy uchelgeisiau. Nid yw gradd yn y gyfraith yn gymhwyster proffesiynol. Rhaid i fyfyrwyr sydd am gymhwyso fel cyfreithiwr lwyddo yn yr Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE 1&2) a chwblhau’r profiad gwaith cymhwyso angenrheidiol. Lluniwyd ein graddau yn y Gyfraith i roi sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr sy'n berthnasol i'r SQE1’, rydyn yn argymell bod myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig penodol cyn sefyll y naill ran o’r SQE neu’r llall.

Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn preswylio mewn dau adeilad ar Gampws Parc Singleton Abertawe lle rydyn wedi buddsoddi’n sylweddol yn ein cyfleusterau myfyrwyr.

CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-BBB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

I fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa fel bargyfreithiwr, mae ein rhaglenni’r Gyfraith yn cydymffurfio â datganiad meincnod y QAA ar gyfer y Gyfraith ac yn rhoi trosolwg o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol fel sydd eu hangen gan Fwrdd Safonau’r Bar. Byddi di'n astudio: • Cyfraith Eiddo • Cyfraith Gyhoeddus • Cyfraith Rhwymedigaethau • Cyfraith Trosedd • Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd • Ecwiti ac Ymddiriedolaethau • Systemau a Sgiliau Cyfreithiol Fe fyddi di hefyd yn cael y cyfle i ddewis wrth ystod eang o feysydd astudio dewisol, gan gynnwys: • Cyfraith Amgylcheddol

LLB Anrhydedd Sengl ▲ Y Gyfraith ▲ Cyfraith Busnes

LLB Prif Bwnc/Is-bwnc Anrhydedd ▲ Y Gyfraith gyda Throseddeg Gellir ymestyn cyrsiau 3 blynedd i 4 blynedd i gynnwys blwyddyn dramor ▲ 3 BLYNEDD

Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Bargyfreithiwr • Cyfreithiwr

• Gorfodi’r Gyfraith • Llywodraeth Leol • Plismona • Y Gwasanaeth Sifil

• Cyfraith Chwaraeon • Cyfraith Cyflogaeth • Cyfraith Cwmnïau • Cyfraith Feddygol • Cyfraith Hawliau Dynol • Cyfraith Masnach y Byd • Cyfraith Teulu • Datganoli yng Nghymru • Eiriolaeth

• Sylfeini mewn Ymarfer Cyfreithiol • Selfeini mewn Tech Cyfreithiol • Trafodaethau

• Trafodion Masnachol • Tystiolaeth Droseddol

162

Made with FlippingBook Annual report maker