ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Y DYNIAETHAU (RHAN-AMSER) CAMPWS PARC SINGLETON / LLEOLIADAU CYMUNEDOL

Cyfleoedd Byd-eang ar gael †

Mae’r rhaglen ran-amser ddeinamig a hyblyg hon yn meithrin gwybodaeth ac yn datblygu dealltwriaeth eang am bynciau’r dyniaethau. Mae’r cwrs yn cael ei addysgu’n rhan-amser yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar benwythnosau ar y campws ac mewn lleoliadau cyflenwi ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, mae’r radd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer rolau heriol a buddiol mewn amrywiaeth eang o sectorau yn ogystal ag astudiaethau ôl-raddedig.

SUT I WNEUD CAIS: Cysylltaâ: Ffôn: 01792602211 E-bost: adult.education@abertawe.ac.uk

CYNNIG NODWEDDIADOL: Nid oes angen cymwysterau ffurfiol arnat gan ein bod yn ystyried pob cais yn ôl eu rhinwedd. Bydd angen i ti fynychu cyfweliad a chyflwyno datganiad personol o ryw 500 o eiriau. Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

Byddi di’n astudio cyfuniad o fodiwlau gorfodol a dewisol sy’n cael eu haddysgu gan academyddion arbenigol yn eu maes drwy raglen strwythuredig o ddarlithoedd, gwersi tiwtorial a seminarau, y gall myfyrwyr gael mynediad iddynt gan ddefnyddio amrediad eang o ddulliau. Byddi di'n astudio modiwlau dyniaethau eang sy'n cynnig profiadau dysgu arloesol yn ogystal â gallu dewis modiwlau mewn meysydd penodol fel: Llenyddiaeth Saesneg, Hanes neu Gymdeithaseg. Byddi di’n meithrin amrediad helaeth o sgiliau trosglwyddadwy y byddi di’n gallu eu defnyddio mewn cyflogaeth ac astudiaeth ôl-raddedig yn y dyfodol. Fe fyddi di’n cael dy gefnogi gan staff arbenigol gyda datblygiad ysgrifennu academaidd, sgiliau meddwl beirniadol, a modiwlau sy'n canolbwyntio ar ymchwil.

Lleoliadau astudio nodweddiadol: • Prifysgol Abertawe, Campws Parc Singleton, Abertawe • Canolfan Phoenix, Townhill, Abertawe • YMCA Castell-nedd, Castell-nedd Port Talbot FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 a 2 • Beth yw Hanes? • Cyflwyniad i Astudiaethau Llenyddol • Unigolion a Chymdeithas • Ysgrifennu Academaidd a Datblygu Sgiliau Blwyddyn 3 i 6 • America Chwyldroadol • Meddwl Creadigol a Myfyriol Beirniadol • O'r Dudalen i'r Sgrîn: Llenyddiaeth ac Addasu • Y Teulu a Phlant: Moeseg a Pholisi • Ymgymryd ag Ymchwil

BA Anrhydedd Sengl Q Y Dyniaethau

Q 6 BLYNEDD

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Cynorthwyydd Polisi mewn Sefydliadau Anllywodraethol e.e Unicef, Red Cross • Gweithiwr Cymunedol • L lywodraeth Genedlaethol neu Ranbarthol • Sefydliadau Rhanbarthol

Gall myfyrwyr cymwys wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu a grantiau cwrs i helpu gyda chostau sy'n gallu

talu 100% o'r ffioedd dysgu*. Am ragor o wybodaeth gweler: cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Wrth weithio mewn rôl weinyddol yn Barnardo’s, llwyddais i sicrhau swydd Cynorthwyydd Polisi ac Ymchwil. Yn ystod fy ngwaith, ysgrifennais adroddiad ymchwil allweddol ar y cyd, a gyhoeddwyd yn allanol. Ni allaf fynegi mewn geiriau y ffordd mae fy astudiaethau wedi newid fy mywyd, maent wedi agor cymaint o ddrysau i mi ac rwy’n falch iawn o fy nghyflwyniadau. Mae dysgu yn ffordd wych o newid dy fywyd! Elaine Speyer, Gradd Dosbarth Cyntaf Dyniaethau Rhan-Amser

* Sylwer, gall y manylion am gyllid newid

161

Made with FlippingBook Annual report maker