ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

YN Y DU 6 ED ASTUDIAETHAU IECHYD (Complete University Guide 2022) YN Y DU ED

THERAPI GALWEDIGAETHOL CAMPWS PARC SINGLETON

Bydd ein cwrs Therapi Galwedigaethol yn rhoi i ti'r sgiliau a'r profiad i lansio gyrfa wobrwyol yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn. Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio i rymuso pobl i ddatblygu, cynnal neu wella amrywiaeth eang o weithgareddau sy'n berthnasol ac yn ystyrlon yn eu bywydau bob dydd, o hunan-ofal sylfaenol gartref i weithgareddau yn y gwaith, hobïau a mwy.

DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth uwch drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru. (**bydd amodau)

Drwy gydol y cwrs integredig hwn, byddi di’n dysgu'r sgiliau i helpu pobl i oresgyn anawsterau a achosir gan salwch, anabledd, damweiniau neu heneiddio. Gallai hyn gynnwys defnyddio canllawiau ac addasiadau, diwygio tasgau neu ddatblygu sgiliau newydd. Mae'r cwrs yn defnyddio cynllun cylchol sy'n seiliedig ar bum prif thema y mae'n rhaid i ti eu hadolygu'n rheolaidd i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau, y ddealltwriaeth a'r hyder y mae eu hangen arnat ti i fod yn Therapydd Galwedigaethol sydd wedi'i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Mae ein staff academaidd yn nyrsys cymwys, yn feddygon, ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, craffter proffesiynol ac arbenigedd ymarferol. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys ystafelloedd clinigol realistig er mwyn i ti roi dy wybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl yr amodau go-iawn y byddi di’n eu profi pan fyddi di'n mynd ar leoliad gwaith mewn ysbyty neu yn y gymuned.

Mae gennym berthnasoedd gweithio ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gen ti fynediad at ystod eang o brofiadau clinigol ledled De-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau gwaith yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai ac yn y gymuned. FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Digideiddio mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol • Lleoliad Gwaith 8 Wythnos • Theori Technegau a Sgiliau Galwedigaethol • Ymarfer Proffesiynol Blwyddyn 2 • Lleoliad Gwaith 10 Wythnos • Theori, Technegau a Sgiliau Galwedigaethol Cymhleth • Ymarfer ar Sail Tystiolaeth • Ymgysylltu â Chymunedau Blwyddyn 3 • Arweinyddiaeth • Lleoliad Gwaith Amser Llawn 12 Wythnos • Meysydd Arbenigol Therapi Galwedigaethol • Prosiect Ymchwil Grŵp

abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig Cynigion Cyd-destunol ar gael

C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

CYNNIG NODWEDDIADOL: BCC (Mae pynciau iechyd neu gwrs sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth yn ddymunol)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲  Therapi Galwedigaethol (Llawn-amser)^ ♦ Therapi Galwedigaethol  (Rhan-amser)^

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD

Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Mae Therapi Galwedigaethol yn yrfa wobrwyol, sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i annibyniaeth ac ansawdd bywyd pobl. Gelli ddisgwyl ennill cyflog cychwynnol o £25,654, a fydd yn codi i £45,838 ar gyfer Therapydd Galwedigaethol hynod brofiadol. Mae cyfleoedd i arbenigo, er enghraifft mewn gofal i'r henoed neu wasanaethau ar gyfer plant.

*Yn amodol ar gymeradwyaeth

158

Made with FlippingBook Annual report maker