ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

GWYDDOR GOFAL IECHYD (FFISEG RADIOTHERAPI) CAMPWS PARC SINGLETON

ANATOMI A FFISIOLEG (Guardian University Guide 2022) 3 UCHAF YN Y DU YDD (Complete niv rsit Guide 202 ) ASTUDIAETHAU IECHYD 6 YN Y DU ED

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i ti'r hyfforddiant arbenigol y bydd ei angen arnat er mwyn dechrau gyrfa wobrwyol, uchel ei sgiliau, yn y proffesiwn gofal iechyd fel dosifetrydd mewn ffiseg radiotherapi. Mae'r cwrs yn cyfuno gwaith academaidd manwl â chymwysiadau clinigol ymarferol yn ein cyfleusterau o'r radd flaenaf, a bydd yn meithrin dy sgiliau gwaith a dy sgiliau technolegol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd arbenigol .

DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol) abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

Mae Ffiseg Radiotherapi yn faes meddygaeth hollbwysig sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a sgìl dechnegol. Fel ffisegwr radiotherapi/ technolegydd ffiseg radiotherapi, byddi di’n gweithio fel rhan o dîm i lunio cynlluniau triniaeth unigol i bobl sydd â chanser, a byddi di’n gyfrifol am galibro a defnyddio cyfarpar radiotherapi soffistigedig yn fanwl gywir. Byddi di’n dysgu am ddefnyddio radiotherapi er mwyn trin gwahanol ganserau. Byddi di’n cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol a thechnolegol ymarferol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd arbenigol. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys ystafelloedd clinigol realistig er mwyn i ti roi dy wybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl yr amodau go-iawn y byddi di’n eu profi pan fyddi di ar leoliad gwaith. FEL ARFER MAE'R MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg a Ffisioleg • Mathemateg a Ffiseg ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd • Hysbyseg ac Ystadegau • Pathoffisioleg • Sail Wyddonol Ffiseg Feddygol

Blwyddyn 2 • Cylch Bywyd Cyfarpar Meddygol • Delweddu Meddygol • Offeryniaeth Prosesu Signalau a Delweddu • Pelydredd nad yw’n ïoneiddio a Mesuriadau Ffisiolegol • Ymarfer Diogelwch Pelydredd Blwyddyn 3 • Prosiect Ymchwil • Radiofioleg a Ffiseg Radiotherapi Clinigol • Ymarfer Ffiseg Radiotherapi • Ymarfer Proffesiynol

Cynigion Cyd-destunol ar gael

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys Ffiseg neu Fathemateg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Radiotherapi)

Darllen ein canllaw pwnc yma:

▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer dosifetryddion clinigol yw oddeutu £25,654, a fydd yn codi i £45,838. Wrth raddio, byddi di’n gymwys i gyflwyno cais am aelodaeth o'r corff rheoleiddio, sef y Gofrestr Technolegwyr Clinigol, a dechrau yn y gweithle yn ymarferydd annibynnol.

Mae achrediadau'n cynnwys:

113

Made with FlippingBook Annual report maker