ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

CARDIAIDD A FFISIOLEG (Guardian University Guide 2022) UCHAF YN Y DU 3

GWYDDOR GOFAL IECHYD (FFISIOLEG GARDIAIDD) CAMPWS PARC SINGLETON

Tro dy ddiddordeb mewn bioleg ddynol ac iechyd a llesiant yn yrfa werth chweil gyda'n cwrs gradd mewn Ffisioleg Gardiaidd. Trwy astudio anatomeg a ffisioleg y galon a'r technegau diagnostig a therapiwtig diweddaraf, byddi di’n cael y wybodaeth wyddonol, glinigol a thechnegol sydd ei hangen arnat i roi gofal arbenigol i bobl sy'n byw gyda chlefyd cardiaidd, neu yr amheuir bod ganddynt glefyd cardiaidd.

DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol) abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

Mae Ffisioleg Gardiaidd yn faes cyffrous sy'n datblygu'n gyflym. Fel ffisiolegydd cardiaidd, bydd disgwyl i ti ymgymryd â rhywfaint o waith a arferai gael ei wneud gan feddygon a bydd llawer o gyfleoedd i arbenigo mewn maes penodol wrth i ti ddatblygu dy yrfa. Mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol. Mae ein cyfleusterau ardderchog yn dynwared y gweithle mewn ffordd realistig. Ac fe fyddi di’n gallu manteisio ar leoliad cleifion go iawn yn ein Hacademi Iechyd a Llesiant lwyddiannus, sy'n darparu gwasanaethau iechyd a llesiant i'r gymuned leol. Fel myfyriwr Ffisioleg Gardiaidd, byddi di’n treulio tua hanner dy gwrs ar leoliadau gwaith clinigol ledled Cymru, a fydd yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnat i ddechrau dy yrfa. FEL ARFER MAE'R MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg a Ffisioleg • Gwyddoniaeth Gardiofasgwlaidd • Ffisioleg Anadlu a Chysgu • Mathemateg a Ffiseg ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd • Pathoffisioleg • Ymarfer Proffesiynol

Blwyddyn 2 • Dulliau Ymchwil ac Ystadegau • Mesur Gweithrediad Cardiofasgwlaidd • Offeryniaeth, Prosesu Signalau a Delweddu • Pathoffisioleg Cyflyrau Cardiofasgwlaidd ac Anadlu Blwyddyn 3 • Cathetr Cardiaidd • Diagnosis a Rheolaeth Arhythmia • Prosiect Ymchwil • Ymarfer yn Seiliedig ar Dystiolaeth

Cynigion Cyd-destunol ar gael

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys Bioleg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd) ▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

Darllen ein canllaw pwnc yma:

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer Gwyddonydd Gofal Iechyd yw £25,654 (Band 5). Yn ystod gyrfa, gall y cyflog godi i £45,838. Gall cyflogau amrywio'n sylweddol yn y sector preifat.

Mae achrediadau'n cynnwys:

112

Made with FlippingBook Annual report maker