NYRSIO (The Guardian University Guide 2022) 10 UCHAF YN Y DU
NYRSIO: IECHYD MEDDWL CAMPWS PARC SINGLETON
Mae nyrsys Iechyd Meddwl yn chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi pobl o bob oedran a chefndir yn ystod rhai o gyfnodau mwyaf anodd ac heriol eu bywydau. Drwy gyfuno astudiaethau academaidd a phrofiad clinigol ymarferol, byddi di’n meithrin sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu craff er mwyn dy baratoi ar gyfer gweithio fel rhan o dîm sy'n cynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymunedol a therapyddion galwedigaethol.
DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol)
abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig
Drwy gydol y cwrs hwn sydd wedi'i integreiddio'n ofalus, byddi di’n cael yr wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol y bydd ei hangen arnat i ddarparu gofal nyrsio tosturiol o safon, er mwyn gwella iechyd a lles meddyliol. Byddi di’n dysgu i wella gofal a thriniaeth i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd. Mae ein staff academaidd yn nyrsys cymwysedig, yn feddygon, ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, craffter proffesiynol ac arbenigedd ymarferol. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys ystafelloedd clinigol realistig
FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • C yd-destunau Gofal Iechyd Meddwl • C yflwyniad i Nyrsio a Gofal Iechyd ar gyfer Iechyd Meddwl • D eall Iechyd a Salwch o ran Iechyd Meddwl Blwyddyn 2 • G ofal Acíwt ar gyfer Iechyd Meddwl • G ofalu am bobl sydd â Chyflwr Hirdymor ac Anghenion Gofal Lliniarol • S icrhau Gofal o Safon ym maes Iechyd Meddwl Blwyddyn 3 • G ofalu am yr unigolyn sydd ag Anghenion Cymhleth • H yrwyddo Ymarfer Nyrsio Iechyd Meddwl • P aratoi ar gyfer Ymarfer Proffesiynol
Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael
Cynigion Cyd-destunol
ar gael
Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael
CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: BBB (gan gynnwys pynciau sy'n ymwneud ag iechyd neu wyddoniaeth yn ddelfrydol)
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BSc Anrhydedd Sengl ▲ ♦ Nyrsio (Iechyd Meddwl) ▲ Nyrsio (Iechyd Meddwl) (Dysgu Gwasgaredig)^ ▲ 3 BLYNEDD Amser-Llawn ♦ 4 BLYNEDD Rhan-Amser Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
er mwyn i ti roi dy wybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn
amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl yr amodau go-iawn y byddi di’n eu profi pan fyddi di’n mynd ar leoliad gwaith mewn ysbyty neu yn y gymuned. Cynhelir hanner o dy addysgu yn y Brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd*. Mae gennym berthnasoedd gweithio ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gen ti fynediad i ystod eang o brofiadau clinigol ledled De-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys canolfannau gofal iechyd cymunedol, ysbytai a meysydd arbenigol nyrsio fforensig, nyrsio i blant a'r glasoed, cyffuriau ac alcohol a nyrsio pobl hŷn .
Darllen ein canllaw pwnc yma:
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Gall graddedigion Nyrsio ddisgwyl ennill cyflog cychwynnol o £25,655, a fydd yn codi i £53,219 i nyrs staff profiadol. Wrth i dy yrfa ddatblygu gelli ddewis arbenigo mewn meysydd fel gofal i'r henoed, ymyrryd mewn argyfwng neu gamddefnyddio sylweddau. Gelli hefyd gymryd rhan mewn rolau ym meysydd addysg, ymchwil neu reoli. *Gall ymgeiswyr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymgymryd â'r cwrs hwn drwy Ddysgu Gwasgaredig. Gan gymryd ymagwedd dysgu cyfunol, byddi di’n ymgymryd â chyfleoedd i ddysgu wrth ymarfer mewn amrywiaeth o amgylcheddau, wedi dy gefnogi gan oruchwylwyr ymarfer, yn ogystal ag addysgu wyneb-yn-wyneb ar draws yr ardal leol, wedi'u cefnogi gan ein platfform dysgu ar y cwmwl drwyddi draw.
Mae achrediadau'n cynnwys:
138
^ Yn amodol ar gymeradwyaeth
Made with FlippingBook Annual report maker