YMARFERYDD ADRAN LAWDRINIAETHAU CAMPWS PARC SINGLETON
ASTUDIAETHAU IECHYD (Complete University Guide 2022) 6 YN Y ED DU
Bydd ein cwrs Ymarferydd Adran Lawdriniaethau yn rhoi i ti'r sgiliau a'r profiad y mae eu hangen arnat ti i lansio gyrfa wobrwyol yn y proffesiwn hanfodol hwn. Mae Ymarferwyr Adran Lawdriniaethau'n darparu gofal a chymorth medrus i gleifion yn ystod pob cam o lawdriniaeth, o anestheteg i lawdriniaeth ac iacháu. Maent yn chwarae rôl hanfodol wrth alluogi'r ysbyty i gynnal llawdriniaethau. Mae'n rôl amrywiol, gan gynnwys gofalu am gleifion, gweithio mewn tîm a rhoi sylw i fanylion.
DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth uwch drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru. (**bydd amodau)
abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael
Mae Ymarferwyr Adran Lawdriniaethau'n darparu gofal
FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Egwyddorion Sylfaenol Ymarfer Clinigol: Anestheteg, Llawdriniaeth a Gofal ar ôl Anestheteg • Cynllunio a Diwallu Anghenion Cleifion Unigol • Cyfathrebu a Gwaith Tîm Effeithiol i Wella Diogelwch Cleifion • Ymddygiad Theatr Blwyddyn 2 • Cysyniadau Allweddol mewn Gofal Amdriniaethol • Tystiolaeth a'i Chymhwyso i Ofal Cleifion • Arweinyddiaeth a Strategaethau Goruchwylio • Gwneud Penderfyniadau Clinigol mewn Perthynas â Gofal Cleifion Cyfannol Blwyddyn 3 • Deall Gofal Amdriniaethol a'i Gyfyngiadau • Gofal Acíwt y Tu Hwnt i'r Theatr Llawdriniaethau • Technegau Dadansoddi ac Ymholiadau mewn Gofal Amdriniaethol • Gwneud Penderfyniadau a Datblygiad Proffesiynol
cyfannol i amrywiaeth eang o grwpiau o gleifion yn y theatr llawdriniaethau a’r tu hwnt iddi. Drwy gydol y cwrs integredig hwn, byddi di’n dysgu sut i ddarparu gofal yn ystod y llawdriniaeth (cyn, yn ystod ac ar ôl llawdriniaeth) sy'n canolbwyntio ar gleifion ynghyd â sut i reoli pobl ac adnoddau mewn amgylchedd llawdriniaethol. Mae ein staff academaidd yn nyrsys cymwys, yn feddygon, ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, craffter proffesiynol ac arbenigedd ymarferol. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys ystafelloedd clinigol realistig er mwyn i ti roi dy wybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl yr amodau go-iawn y byddi di’n eu profi pan fyddi di’n mynd ar leoliad gwaith mewn ysbyty neu yn y gymuned. Mae gennym berthnasoedd gweithio ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gen ti fynediad at ystod eang o brofiadau clinigol ledled De-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau gwaith mewn ysbytai yn y GIG a'r sector annibynnol.
Cynigion Cyd-destunol ar gael
CYNNIG NODWEDDIADOL: BCC (Mae iechyd neu gwrs sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth yn ddymunol)
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BSc Anrhydedd Sengl ▲ Ymarferydd Adran Lawdriniaethau ^
▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Ar ôl i ti gwblhau'r cwrs yn
llwyddiannus, byddi di’n gallu ymgeisio i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac ennill swydd fel Ymarferydd Adran Lawdriniaethau. Gelli ddisgwyl i ennill cyflog cychwynnol o £25,654 a fydd yn codi i £39,026 ar gyfer Ymarferydd Adran Lawdriniaethau profiadol.
^ Yn amodol ar gymeradwyaeth
164
Made with FlippingBook Annual report maker