ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

CROESO I

DRWS I DDYFODOL DISGLAIR Prifysgol gymunedol ydyn ni ac rydyn bob amser wedi bod. Mae ein ffocws ar foddhad myfyrwyr a rhagoriaeth (rydyn ni'n 12fed yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021)). Ym Mhrifysgol Abertawe, cei fuddion trylwyredd academaidd ac ansawdd addysgu y mae ein myfyrwyr wedi eu mwynhau ers dros 100 o flynyddoedd ac rydyn wedi cynhyrchu sawl cyn-fyfyriwr nodedig a blaenllaw. Mae'r Brifysgol yn falch iawn o’i thraddodiad o gefnogi, hyrwyddo a chyfoethogi diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Mae ein darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac yma cei fanteisio ar gyfleoedd unigryw a chyffrous i astudio amrediad eang o bynciau yn yr iaith. Beth am astudio trwy'r Gymraeg neu yn ddwyieithog mewn Prifysgol sydd â chysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol. Mae ein campysau glan môr trawiadol a'n croeso cyfeillgar yn gwneud Prifysgol Abertawe'n lleoliad dymunol ar gyfer myfyrwyr o bedwar ban byd. Rydyn yn ymfalchïo yn natur gynnes ein croeso a'n diwylliant o gynwysoldeb, sy'n creu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol lle gellir cynnal addysgu ac ymchwil o'r safon uchaf. Rydyn yn dy groesawu i ymuno â ni a gwerthfawrogwn dy gyfraniad hollbwysig – rydyn yn croesawu safbwyntiau newydd a chei’r adborth y mae ei angen arnat i ffynnu yn Abertawe. Gelli gael gwybod mwy am Brifysgol Abertawe a'n rhaglenni gradd drwy gadw lle ar un o'n diwrnodau agored sydd ar ddod*

abertawe.ac.uk/diwrnodau-agored

*gwiria'r wefan am fanylion llawn, dyddiadau a fformat diwrnodau agored sydd ar ddod.

A

Made with FlippingBook Annual report maker