ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

DOES UNMAN YN DEBYG

LLETYA Â SIARADWYR CYMRAEG ERAILL

Gall dechrau yn y brifysgol fod yn dipyn o gorwynt, ac, ynghanol y cyfan, mae angen rhywle i ti ymlacio, cymryd stoc, a theimlo'n gartrefol, ar unwaith. Os wyt ti eisiau byw yn un o’n neuaddau ar y campws, yn y pentref myfyrwyr neu mewn un o’r tai preifat o dan reolaeth asiantaeth osod (SAS), mae ein Gwasanaethau Llety Myfyrwyr yma i sicrhau dy fod yn dewis y llety sy’n siwtio dy ofynion di orau.

Mae’r Brifysgol yn awyddus i gefnogi’r gymuned gref o siaradwyr Cymraeg sy’n fyfyrwyr yma. O ganlyniad, rydyn wedi adnabod dwy neuadd ar gyfer darparu cyfle i fyfyrwyr rannu llety â siaradwyr Cymraeg eraill, sef Aelwyd Penmaen ar Gampws Parc Singleton ac Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae. Darperir llety en-suite ac hunanarlwyo gyda gofodau cymdeithasu yn y neuaddau hyn. BYW AR GAMPWS Mae byw mewn llety ar Gampws Parc Singleton neu Gampws y Bae yn dy roi yng nghanol bywyd prifysgol. Mae’r llety hunanarlwyo yn cynnwys ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n llawn, ystafelloedd en-suite ac ystafelloedd safonol gyda chegin, a lle bwyta a rennir – y dewis perffaith i dy helpu i ymgartrefu’n gyflym ac yn rhwydd. BYW YN Y PENTREF MYFYRWYR Cei llety pellach ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan sydd tua dwy filltir o Gampws Parc Singleton. Mae’r Pentref yn darparu llety hunanarlwyo a chyfleusterau a rennir mewn fflatiau ar gyfer saith myfyriwr. Gelli ddewis llety hunanarlwyo mewn fflatiau neu dai i amrywiol feintiau. Os wyt ti’n dewis byw yn y Pentref, bydd gen ti ystafell dy hun ar gyfradd fforddiadwy sy’n cymharu’n ffafriol â llety’r sector preifat. Mae bywyd myfyriwr yn y Pentref yn gymdeithasol, cefnogol a gelli fanteisio ar: • Golchdy • Tocyn bws First Group Unibus am ddim am gytundebau 13 wythnos • Parcio am ddim Gwiria ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf: abertawe.ac.uk/llety

• Mae gan ein hystafelloedd Wi-Fi am ddim • Ceir rhwydwaith o fyfyrwyr, ResNet, rhwydwaith o staff a myfyrwyr sy’n gofalu bod gan bob myfyriwr y profiad gorau posibl • Mae’r ystafelloedd yn ystafelloedd sengl yn unig (ag eithrio fflatiau teuluol Tŷ Beck a nifer cyfyngedig o ystafelloedd â dau wely ar Gampws y Bae) • Golchdai 24/7 • Ystafelloedd wedi’u haddasu ar gyfer myfyrwyr ag anghenion arbennig, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn – cysyllta â’r Swyddfa Anableddau am ragor o wybodaeth • En-suite ar gael • Llety penodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg ar gael PWYNTIAU ALLWEDDOL

26

Made with FlippingBook Annual report maker