ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

LLETY AR GYFER TEULUOEDD YN NH Ŷ BECK

Mae gennym nifer o fflatiau teuluoedd yn ein presylfa dawel ddynodedig, T ŷ Beck, oddeutu milltir o’r campws yn ardal Uplands. Oherwydd tenantiaeth 51 wythnos, mae’r llety hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a rhyngwladol yn bennaf. DOD O HYD I’R LLETY PERFFAITH YN Y SECTOR PREIFAT Os byddai’n well gen ti fyw oddi ar y campws, mae yna gyflenwad da o dai a fflatiau sector preifat o safon yn Abertawe. Mae ein hasiantaeth gosod, Gwasanaethau Llety Myfyrwyr (SAS) yn rheoli 130 o dai yn ardaloedd Brynmill, Uplands, a Sgeti sy’n boblogaidd â myfyrwyr, y rhan fwyaf ohonynt o fewn dwy filltir i’r campws. Mae eu preswylfeydd yn St. Thomas a Phort Tennant yn agos at Gampws y Bae. Mae’r ardaloedd hyn hefyd yn agos i siopau lleol, bariau a chyfleusterau prydau parod. Mae modd chwilio ein cronfa ar-lein, Studentpad, i ddod o hyd i dai sydd ar gael yn yr ardal ac mae’n declyn gwerthfawr sy’n arbed ymdrech wrth chwilio am dai. saslettings.co.uk

Os wyt ti’n siarad Cymraeg mae gennym lety penodol i siaradwyr Cymraeg fyw gyda’i gilydd yn Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae ac Aelwyd Penmaen ar Gampws Parc Singleton

PRYD Y DYLWN WNEUD CAIS AR GYFER LLETY?

Mae gennym rai ardaloedd tawel a rhai sy’n ddi-alcohol hefyd

Cyn gynted â phosibl! Os wyt wedi derbyn cynnig pendant i astudio gyda ni, cei ymgeisio am lety ym mis Chwefror – byddi di’n derbyn cyfarwyddiadau ar sut i wneud cais ar-lein oddi wrth y brifysgol. Rydyn yn dy gynghori i wneud cais yn gynnar, yn enwedig ar gyfer llety en-suite sy’n boblogaidd tu hwnt.

abertawe.ac.uk/llety

llety@abertawe.ac.uk

+44 (0)1792 295101

EDRYCH TU MEWN I'N LLETY CAMPWS:

Dewis ble i fyw ym Mhrifysgol Abertawe

TA I TH RH I THWI R

abertawe.ac.uk/rhith-daith

28

Made with FlippingBook Annual report maker