MBA Brochure_Welsh

CYFLOGADWYEDD Y RHAGLEN MBA

CYMORTH CYFLOGADWYEDD Mae gan yr Ysgol Reolaeth dîm cyflogadwyedd ymroddedig i ddiwallu’ch anghenion chi fel myfyriwr MBA. Mae’r gwasanaeth hwn yn sicrhau bod eich dyheadau am yrfa a’ch cyflogadwyedd yn cael eu hybu a’u bod yn parhau’n flaenoriaeth drwy gydol eich cwrs. Gall y cymorth gynnwys: • Cyfleoedd pwrpasol i rwydweithio • Mireinio eich presenoldeb proffesiynol ar-lein • Cyfleoedd i fentora a chael eich mentora • Cyfle i ymuno â rhwydwaith byd-eang o gyn-fyfyrwyr • Dosbarthiadau meistr

98 % of students who have used the careers service stated that the team made a difference to their university experience * *Careers Appointment feedback survey 2018

Ni fydd y cymorth cyflogadwyedd yn dod i ben ar ôl i chi raddio o’ch rhaglen MBA. Byddwch yn dal i allu elwa o amrywiaeth eang o fanteision, gan gynnwys cyfweliadau gyrfa un i un, cyngor drwy e-bost a LinkedIn, digwyddiadau rhwydweithio ac arweiniad ar ddatblygiad proffesiynol parhaus am hyd at bum mlynedd ar ôl i chi raddio. CYSWLLT PRIFYSGOL ABERTAWE Cewch feithrin cysylltiadau drwy gymuned fyd-eang Prifysgol Abertawe a chael hwb i’ch gyrfa drwy rwydweithio proffesiynol pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Cyswllt Prifysgol Abertawe. Mae’r wefan yn caniatáu i chi ailgysylltu â chyn gyd-fyfyrwyr a chewch ddefnyddio amgylchedd dibynadwy Prifysgol Abertawe i ehangu eich rhwydwaith proffesiynol. Cofrestrwch heddiw: swanseauniconnect.com

CREU DYFODOL CYNALIADWY I BAWB Mae Prifysgol Abertawe’n brifysgol gynaliadwy flaenllaw a chanddi uchelgeisiau i helpu i ysgogi datblygu cynaliadwy, yn y DU ac yn fyd-eang. Mae Prifysgol Abertawe yn y 9fed safle ar hyn o bryd yng Nghynghrair Prifysgolion Gwyrdd The Guardian, ac rydym yn falch o’n cyflawniadau niferus i wreiddio cynaliadwyedd ym mywyd y Brifysgol. Wrth astudio am MBA gyda ni, cewch gyfle i weithio mewn Prifysgol lle mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein holl weithgarwch, gyda’r tîm ymroddedig o arbenigwyr cynaliadwyedd sy’n gweithio yn y Brifysgol. Mae aelodau ein tîm yn cyfuno arbenigedd o ddiwydiant a’r byd academaidd, ac maent yn ymrwymedig i gydweithio â staff, myfyrwyr a’r gymuned i sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu ar sail gadarn a chynaliadwy, gan gydymffurfio â’r rheoliadau priodol, fel yr amlinellwyd yn ein Cynllun Strategol 2020. Mae’r tîm yn rheoli cyllideb flynyddol sy’n cynyddu bob blwyddyn i gefnogi ein gwaith mewn meysydd megis trafnidiaeth a theithio cynaliadwy, rheoli Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn, gwastraff ac ailgylchu, a datblygu prosiectau a mentrau cynaliadwyedd. 13

Made with FlippingBook HTML5