MBA Brochure_Welsh

Discover why our School of Management is the perfect place to study and explore our courses, facilities, careers support and student experiences

REOLAETH YSGOL

GRADD MEISTR MEWN GWEINYDDU BUSNES, MBA

GRADD MEISTR MEWN GWEINYDDU BUSNES, MBA

RHOWCH HWB I’CH DATBLYGIAD PROFFESIYNOL GYDA’N RHAGLEN MBA

CYNNWYS

Ynglyn â’r Ysgol Reolaeth Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes, MBA Cynnwys y Cwrs Ein Tîm Cyflogadwyedd Partneriaid Diwydiannol Ymchwil ac Effaith Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Pam Abertawe Ysgol Reolaeth Fyd-eang Y Camau Nesaf

06 07 09 11 13 16 17 19 22 25 27

1

AM EFFAITH YMCHWIL 10 YSGOL FUSNES ORAU Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2014-21)

I FOD YN FYFYRIWR YN Y DU 10 O DREFI MWYAF FFORDDIADWY

(totalmoney.com 2019)

2

YNGLYN Â PHRIFYSGOL ABERTAWE Mae’r Brifysgol wedi bod ar flaen y gad ym maes ymchwil ac arloesi ers iddi gael ei sefydlu ym 1920 ac mae ein hymchwil o safon fyd-eang yn cael effaith lawer ehangach ar iechyd, cyfoeth, diwylliant a lles ein cymdeithas. Rydym yn arwain y ffordd yng Nghymru mewn meysydd ymchwil sy’n hollbwysig i dwf economaidd a lles y boblogaeth, gan gynnwys ym meysydd y gwyddorau amgylcheddol, meddygaeth a gwaith cymdeithasol. Bydd y Brifysgol yn dathlu ei Chanmlwyddiant ar 19 Gorffennaf 2020 ac yn dathlu clod a chydnabyddiaeth megis gwobr Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (2018) a gradd pum seren am ansawdd addysgu gan y system graddio prifysgolion fyd-eang , QS Stars. Rydym yn un o’r 10 prifysgol orau yn y DU am foddhad myfyrwyr (NSS 2019), un o’r pump orau am Ragolygon Gyrfa (Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2020) ac rydym yn hynod falch o gael ein dewis yn Brifysgol y Flwyddyn (Gwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni 2019). Rydym yn brifysgol flaenllaw a chynaliadwy a chanddi uchelgeisiau i helpu i ysgogi datblygu cynaliadwy, yn y DU ac yn rhyngwladol, ac rydym yn y 9fed safle yng Nghynghrair Prifysgolion Gwyrdd The Guardian ar hyn o bryd. Mae gan Brifysgol Abertawe ddau gampws trawiadol, ar ddeupen glan y môr yn Abertawe. Saif Campws Parc Singleton mewn parcdir aeddfed a gerddi botaneg â golygfeydd dros draeth Bae Abertawe. Lleolir Campws y Bae ger y traeth ar y ffordd i mewn i Abertawe o’r dwyrain. Mae ein dau gampws amlddiwylliannol yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr, staff a’r gymuned a gellir crynhoi’r awyrgylch cyfeillgar a chartrefol gan y geiriau “profiad Abertawe”. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF), cyflawnwyd ein huchelgais o fod yn un o’r 30 o sefydliadau gorau yn y DU am ymchwil. Pan ddyfarnwyd safle 26 i ni yn y REF, dywedodd Times Higher Education mai hwn oedd y “naid fwyaf gan sefydliad sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil” a barnwyd bod ymchwil Abertawe o’r un safon â chwe phrifysgol Grwp Russell neu’n well na rhai ohonynt. Dyfarnwyd safle 22 i ni yn y DU am effaith yr ymchwil honno hefyd

3

4

Roedd astudio am MBA ym Mhrifysgol Abertawe’n un o’r pethau gorau dwi wedi’u gwneud erioed. Roedd yn brofiad unigryw sydd wedi fy helpu’n fawr i ddatblygu fy ngyrfa.

GANESH UDEWAR VIJAYSHANKAR Rheolwr Datblygu Busnes Cyn-fyfyriwr ar raglen MBA Prifysgol Abertawe

5

YNGLYN Â’R YSGOL REOLAETH

Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe’n un o’r darparwyr mwyaf blaenllaw yn y DU ym maes addysg Rheoli, Cyfrifeg a Chyllid, Marchnata, Twristiaeth ac Economeg. Mae’n darparu amrywiaeth o raddau israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â chyfleoedd cydweithredu. Adlewyrchir ein cysylltiadau cryf â diwydiant a chyrff achredu proffesiynol yn ein gweithgareddau addysgu blaengar a’n hymchwil sy’n torri tir newydd, gan sicrhau cychwyn gwych i yrfaoedd ein myfyrwyr, ein staff a’n partneriaid. Lleolir yr Ysgol ar gampws trawiadol y Bae, sy’n dafliad carreg yn unig o’r traeth cyfagos a hanner milltir o goridor yr M4; mae’r Ysgol Reolaeth yn gartref i dros 150 o staff a thros 2000 o fyfyrwyr. Mae ei chyfleusterau o safon fyd-eang, gan gynnwys atriwm ysblennydd, ystafelloedd addysgu, ystafelloedd cyfarfod a labordai cyfrifiaduron, yn cynnig amgylchedd dysgu rhagorol i’w myfyrwyr.

Mae gan yr Ysgol brofiad rhagorol o addysgu rhai o raddedigion mwyaf llwyddiannus y DU. Mae’r profiad hwnnw, ynghyd â’i staff egnïol a blaengar, ei chyfleusterau o’r radd flaenaf a’i chysylltiadau agos â diwydiant yn golygu ei bod yn lle hollol unigryw i astudio ynddo. Mae’r Ysgol yn un o’r 30 o ysgolion busnes gorau yn y DU am Ragoriaeth Ymchwil (REF 2014) ac yn un o’r 10 orau am Effaith Ymchwil (REF 2014). Yn yr adolygiad diweddaraf gan Advance HE, Dyfarnwyd Gwobr Efydd Siarter Athena SWAN i ni am ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac rydym yn y 13eg safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2020/21). I gael rhagor o wybodaeth am yr Ysgol Reolaeth, ewch i swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/colegau/ysgol_ reolaeth

6

GRADD MEISTR MEWN GWEINYDDU BUSNES

MYNEDIAD YM MIS IONAWR 2021 Amser Llawn (12 mis) Ffioedd dysgu bob blwyddyn: £20,000

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer y rhai sydd am wneud effaith ar gymdeithas a phontio’r bwlch rhwng ymarfer a damcaniaeth sy’n gallu bodoli ym maes rheoli, a’i nod yw galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau byd-eang ar gyfer trefnu a chydweithredu, yn ogystal â chystadlu, yn y sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector. Mae ein MBA yn herio myfyrwyr i fod yn feddylwyr beirniadol, gan fyfyrio ar ddamcaniaeth ac arfer rheoli er mwyn nodi lle gellir gwneud newidiadau yn y dirwedd fusnes fyd-eang. Drwy ymchwilio i ymagweddau arloesol at arfer gorau mewn busnes, tueddiadau defnyddio cyfrifol a ffurfiau hybrid ar sefydliad, rydym yn paratoi ein myfyrwyr MBA i fynd i’r afael â heriau sicrhau gwerthoedd dynol mewn cyfnod o drawsnewid byd-eang. Fel myfyriwr MBA, byddwch yn rheoli prosiect sy’n ceisio datrys problem go iawn ar gyfer sefydliad sy’n gleient, gan gydweithio â chymheiriaid ac ymarferwyr proffesiynol. Byddwch yn gweithio gydag academyddion arbenigol, ymchwilwyr arloesol ac arweinwyr busnes i fynd i’r afael â rhai o heriau allweddol ein cymdeithas a chael effaith gadarnhaol ynghyd â chyfle i adeiladu ar eich profiad eich hun a herio sut mae busnesau’n gweithredu. Mae’r rhaglen yn cynnig ymagwedd wahanol at feddylfryd rheoli a bydd yn sicrhau y bydd ein myfyrwyr yn gwneud penderfyniadau gwybodus yn y gweithle a’u bod yn deall effaith ehangach y penderfyniadau hyn. Mae pwyslais ar werthoedd dynol, yn ogystal â gwerth i randdeiliaid, wrth wraidd rhaglen MBA Prifysgol Abertawe.

Gofynion Mynediad: Gradd 2:1 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth (neu gymhwyster rhyngwladol cyfwerth). Tair blynedd o brofiad proffesiynol Rhaid atodi CV Gofyniad iaith Saesneg: IELTS 6.5 (5.5 neu’n uwch ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

7

BYDDWCH YR UN SY’N SBARDUNO DYFODOL CYNALIADWY

EICH PROFIAD GWEINYDDU BUSNES Rydym yn manteisio ar arbenigedd yr Ysgol Reolaeth gyfan i annog meddylfryd ‘yr hyn sy’n gweithio’ i heriau na ellir eu datrys gan unigolion neu sefydliadau sy’n gweithredu ar eu pennau eu hunain. Mae ein MBA yn seiliedig ar egwyddor cyd-greu gwybodaeth berthnasol gan ddefnyddio ymchwil academaidd sefydledig o amrywiaeth o safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol ochr yn ochr â’ch profiad eich hun a phrofiad busnesau allanol ac arweinwyr cymdeithas. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i wrando ar siaradwyr blaenllaw o fyd busnes ac i ddysgu gan arweinwyr busnesau mawr a bach, rhai lleol a rhyngwladol. MENTORA Caiff ein myfyrwyr MBA gyfle hefyd i gael eu mentora gan rywun ym myd busnes er mwyn cael arweiniad a chyngor pwrpasol drwy gydol y rhaglen ac i reoli prosiectau a bennir gan fusnes. Mae hyn yn ein galluogi i ddethol ar sail perfformiad fel y nodir nes ymlaen yn y llyfryn.

DOSBARTHIADAU MEISTR Drwy gydol y rhaglen, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn nifer o ddosbarthiadau meistr a gynhelir gan academyddion ac arweinwyr diwydiant, er mwyn elwa o wybodaeth a chyfleoedd pellach i drafod heriau busnes byd-eang. YMWELIAD ASTUDIO RHYNGWLADOL Bydd ein rhaglen MBA yn rhoi cyfle i chi archwilio amrywiaeth o fusnesau mewn cyrchfan Ewropeaidd mawr drwy Ymweliad Astudio Rhyngwladol. Bydd hyn yn caniatáu i chi gymhwyso’r meysydd pwnc rydych wedi’u hastudio mewn busnes Ewropeaidd. Fel rheol, bydd yr ymweliad yn para 5-6 diwrnod mewn prifddinas, a byddwch yn cwrdd ag amrywiaeth o sefydliadau gan drafod yr heriau mae’r cwmni yn eu h wynebu ag uwch-reolwyr. Bydd amser gennych hefyd i archwilio’r ddinas a datblygu ymhellach y cysylltiadau cymdeithasol sydd wedi datblygu yn ystod y cwrs. O ganlyniad i’r amgylchiadau presennol, efallai na fydd modd cynnal ymweliadau rhyngwladol. Os felly, trefnir gweithgaredd arall.

CYSYLLTU Â NI: E-bost: som-mba@abertawe.ac.uk Tel: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/mba

8

CYNNWYS Y CWRS MBA

Mae’r MBA ym Mhrifysgol Abertawe’n cynnwys naw modiwl a ddatblygwyd â’r nod o helpu myfyrwyr i fynd i’r afael â heriau y bydd busnesau’n eu hwynebu yn y dyfodol.

YMCHWIL AR WAITH: YMGYMRYD Â PHROSIECT AR GYFER CLEIENT Mae Ymchwil ar Waith yn darparu cyflwyniad i’r ffordd mae ymchwil yn llywio ymarfer rheoli drwy sefydlu ymchwil fel un o’r sgiliau craidd sy’n sylfaen i’r rhaglen MBA. Cynhelir y modiwl hwn drwy gydol y cwrs, gan alluogi myfyrwyr i feithrin y sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau sy’n tanategu ymchwil effeithiol. Ar ddiwedd y modiwl, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect ymgynghori lle cânt brofiad o weithio gyda sefydliad sy’n gleient. ARCHWILIO DIBEN SEFYDLIADOL Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich gallu i asesu opsiynau’n feirniadol ar gyfer llunio a gweithredu strategaeth i gyflawni dibenion sefydliadol mewn modd llwyddiannus a chynaliadwy mewn amgylcheddau ansicr. Byddwch yn dysgu sut i roi sgiliau dadansoddi uwch ar waith i werthuso amgylcheddau sefydliadol yn feirniadol, mewn nifer o feysydd a sectorau gwahanol, ac i nodi ymatebion sefydliadol hybrid. Byddwch yn dadansoddi’r perthnasoedd rhwng busnes a chymdeithas o ran dibenion sefydliadol ar gyfer datblygu cynaliadwy ac yn gwerthuso trafodaethau am ffyrdd cyfrifol o reoli busnes mewn cyd-destunau diwylliannol, datblygiadol a sefydliadol amrywiol. LLYWIO ARLOESEDD A NEWID Mae arloesedd a’r gallu i fod yn ystwyth yn nodweddiadol o gwmnïau llwyddiannus o bob maint. Mae hyn yn gynyddol bwysig ym marchnad fyd-eang heddiw, ond mae’n peri heriau o ran datblygu gwasanaethau a chynnyrch, yn ogystal â newid yn strwythur a gweithrediadau sefydliadau ac mewn ymddygiad dynol. Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i feithrin yr wybodaeth a’r sgiliau i ymgymryd yn effeithiol â datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, gan gyflawni gwerth drwy lywio’r cylch bywyd arloesi, cydweithredu agored a datblygu strwythurau sefydliadol sy’n cefnogi newid cyflym a chynaliadwy. Ar sail y dysgu hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu achos busnes i fynd i’r afael â

chyfres o heriau cyfoes a’u goresgyn yn llwyddiannus wrth ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd.

ARWAIN AG UNIONDEB Mae busnesau heddiw’n wynebu cyflymdra newid na welwyd ei debyg o’r blaen, o fynediad at ddata mawr a thechnolegau soffistigedig i effaith cyflymdra newid cymdeithasol a gwleidyddol ar ddarpar farchnadoedd, cyflenwyr a chwsmeriaid a rhai sefydledig. Yn yr oes hon, mae rôl yr arweinydd yn wynebu heriau cyson, a gofynnir am arweinyddiaeth wybodus a strategol ar bob lefel mewn sefydliad. Mae angen arweinwyr ag uniondeb ar fusnesau modern, er mwyn mynd i’r afael â’r problemau a allai ddeillio o newid byd-eang cyflym, yr heriau sydd ynghlwm wrth weithredu mewn cyd-destunau amrywiol, ac i ddeall dulliau cynhwysol o arwain. Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i feithrin y sgiliau arwain hynny. CREU GWERTH CYNALIADWY Yn hytrach na dilyn trywydd y rhaglen MBA gonfensiynol, oherwydd y gall y dull hwn guddio’r cysylltiadau sylfaenol, mae’r modiwl hwn yn cynnig ymagwedd gyfannol at y ffordd mae gwerth yn cael ei ddeall a’i gyflawni. Gan gydnabod bod datblygu cynaliadwy, ar ei holl ffurfiau, yn her nad oes modd i unrhyw fusnes neu wladwriaeth unigol ei goresgyn ar ei ben ei hun, mae’r modiwl hwn yn defnyddio nodau cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig er mwyn llywio cwricwlwm hyblyg ac amserol sy’n gallu adlewyrchu newyddion rhyngwladol.

DADANSODDI DATA A GWNEUD PENDERFYNIADAU

Bydd y modiwl hwn yn gwerthuso adroddiadau a chrynodebau ystadegol sy’n berthnasol i fusnes a llywodraeth, yn dadansoddi ac yn dangos hyfedredd wrth gysylltu damcaniaeth benderfynu ag ymarfer ac yn defnyddio dulliau ansoddol i wella prosesau penderfynu. Byddwch yn datblygu’r gallu i nodi problemau busnes a’u troi’n benderfyniadau ac yn gamau gweithredol ar gyfer cyd-destun penodol ac i werthuso priodoldeb dadansoddiad rhwydwaith i benderfyniad busnes perthnasol.

9

Roedd safon yr addysgu’n ardderchog. Roedd y modiwlau’n heriol ac yn ddiddorol. Roedd y dosbarth yn fach, felly roedd y dysgu’n eithaf dwys ac roedd yn wych astudio gyda phobl â chymaint o brofiadau busnes mewn gwahanol sectorau. SERENA M. JONES Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, Grwp Tai Coastal Cyn-fyfyriwr ar raglen MBA Prifysgol Abertawe

DEALL CYLLID Nid yw perfformiad ariannol ynddo ei hun yn ddigon i werthuso sut bydd cwmni’n datblygu yn y tymor hir, felly dylai gwybodaeth anariannol, gan gynnwys gwybodaeth am gynaliadwyedd, alluogi busnesau i gyflawni eu hamcanion cynaliadwyedd drwy nodi meysydd i’w gwella a thrwy wella prosesau penderfynu mewnol. Drwy integreiddio arferion busnes cynaliadwy ac ymgorffori gwytnwch mewn modiwlau busnes, dylai sefydliadau allu creu cysylltiadau rhwng atebolrwydd i randdeiliaid allanol a llywodraethu da. Dylai penderfyniadau am fuddsoddi a gwariant cyfalaf gynnwys meini prawf amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol, gan gyflawni buddion i’r buddsoddwr ac i’r gymdeithas ehangach. Byddwch yn ystyried o safbwynt ariannol y penderfyniadau allweddol sy’n gwella’r tebygolrwydd o lwyddiant mewn sefydliad, yn dadansoddi’n feirniadol y rhagdybiaethau sy’n tanategu penderfyniadau allweddol y cwmni ynghylch ariannu,

buddsoddi a difidend. Byddwch hefyd yn dehongli elfennau adroddiad blynyddol ac yn gwerthuso eu dibenion penodol o ran eu cyfraniad at atebolrwydd corfforaethol.

DYSGWCH RAGOR AM Y CWRS GAN GYFARWYDDWR Y RHAGLEN. Sganiwch y côd QR.

10

EIN TÎM MBA

YR ATHRO PAUL JONES Meysydd Arbenigedd • Ymddygiad Entrepreneuraidd • Rheoli Busnes Bach • Defnyddio Technoleg Gwybodaeth • Entrepreneuriaeth yng nghyd-destunau’r Byd Datblygol • Addysg Entrepreneuriaeth

DR PAUL DAVIES Meysydd Arbenigedd • Strategaeth • Meddwl trwy Systemau • Cymunedau Ymarfer • Ymarfer Cydweithredol

DR SIMON BROOKS Meysydd Arbenigedd • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol • Economi gylchol • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ar gyfer Busnesau Bach • Moeseg busnes

DR JOCELYN FINNIEAR Meysydd Arbenigedd • Rheoli Adnoddau Dynol, • Perthnasoedd Cyflogaeth

• Profiadau Gwaith • Ymchwil Ansoddol

DR GARETH DAVIES Meysydd Arbenigedd • Rheoli Arloesedd • Datblygiad Economaidd Rhanbarthol • Modelau Trosglwyddo Technoleg

MS SIAN RODERICK Meysydd Arbenigedd • Dulliau Ymchwil • Ymddygiad Sefydliadol • Rheoli Arloesedd • Seicoleg Defnyddwyr

11

PROFESSOR KATRINA PRITCHARD Meysydd Arbenigedd • Y Cyfryngau Digidol • Hunaniaeth ac Amrywiaeth mewn Cyflogaeth • Ymagweddau Methodolegol Ansoddol • Rhywedd, Gwaith a’r Sefydliad

DR LOUISA HUXTABLE-THOMAS Meysydd Arbenigedd • Entrepreneuriaeth • Arweinyddiaeth • Datblygu Cynaliadwy • Dysgu Seiliedig ar Waith • Dulliau Addysgeg ar gyfer Graddau Ymchwil Ôl-raddedig

DR NAVEENA PRAKASAM Meysydd Arbenigedd • Arweinyddiaeth • Astudiaethau Sefydliadol • Hil, Croestoriadaeth a Rhywedd Moeseg • Y Cyfryngau Digidol a Phoblyddiaeth

MRS SARAH JONES Meysydd Arbenigedd • Cyfrifeg Rheoli • Cyfrifeg Rheoli Strategol • Penderfynu ar gyfer Busnes

DR SIMON RUDKIN Meysydd Arbenigedd • Gwyddor Data Economaidd • Economeg Gymhwysol • Gwerthuso Polisi • Econometreg

YR ATHRO MIKE BUCKLE Meysydd Arbenigedd • Marchnadoedd Ariannol • Rheoli Portffolios • Buddsoddi Cyfrifol/Cynaliadwy • Strategaethau Datgronni

I GAEL RHAGOR O WYBODAETH AM ACADEMYDDION YR YSGOL REOLAETH, EWCH I: swansea.ac.uk/cy/staff/ysgol-reolaeth 12

CYFLOGADWYEDD Y RHAGLEN MBA

CYMORTH CYFLOGADWYEDD Mae gan yr Ysgol Reolaeth dîm cyflogadwyedd ymroddedig i ddiwallu’ch anghenion chi fel myfyriwr MBA. Mae’r gwasanaeth hwn yn sicrhau bod eich dyheadau am yrfa a’ch cyflogadwyedd yn cael eu hybu a’u bod yn parhau’n flaenoriaeth drwy gydol eich cwrs. Gall y cymorth gynnwys: • Cyfleoedd pwrpasol i rwydweithio • Mireinio eich presenoldeb proffesiynol ar-lein • Cyfleoedd i fentora a chael eich mentora • Cyfle i ymuno â rhwydwaith byd-eang o gyn-fyfyrwyr • Dosbarthiadau meistr

98 % of students who have used the careers service stated that the team made a difference to their university experience * *Careers Appointment feedback survey 2018

Ni fydd y cymorth cyflogadwyedd yn dod i ben ar ôl i chi raddio o’ch rhaglen MBA. Byddwch yn dal i allu elwa o amrywiaeth eang o fanteision, gan gynnwys cyfweliadau gyrfa un i un, cyngor drwy e-bost a LinkedIn, digwyddiadau rhwydweithio ac arweiniad ar ddatblygiad proffesiynol parhaus am hyd at bum mlynedd ar ôl i chi raddio. CYSWLLT PRIFYSGOL ABERTAWE Cewch feithrin cysylltiadau drwy gymuned fyd-eang Prifysgol Abertawe a chael hwb i’ch gyrfa drwy rwydweithio proffesiynol pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Cyswllt Prifysgol Abertawe. Mae’r wefan yn caniatáu i chi ailgysylltu â chyn gyd-fyfyrwyr a chewch ddefnyddio amgylchedd dibynadwy Prifysgol Abertawe i ehangu eich rhwydwaith proffesiynol. Cofrestrwch heddiw: swanseauniconnect.com

CREU DYFODOL CYNALIADWY I BAWB Mae Prifysgol Abertawe’n brifysgol gynaliadwy flaenllaw a chanddi uchelgeisiau i helpu i ysgogi datblygu cynaliadwy, yn y DU ac yn fyd-eang. Mae Prifysgol Abertawe yn y 9fed safle ar hyn o bryd yng Nghynghrair Prifysgolion Gwyrdd The Guardian, ac rydym yn falch o’n cyflawniadau niferus i wreiddio cynaliadwyedd ym mywyd y Brifysgol. Wrth astudio am MBA gyda ni, cewch gyfle i weithio mewn Prifysgol lle mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein holl weithgarwch, gyda’r tîm ymroddedig o arbenigwyr cynaliadwyedd sy’n gweithio yn y Brifysgol. Mae aelodau ein tîm yn cyfuno arbenigedd o ddiwydiant a’r byd academaidd, ac maent yn ymrwymedig i gydweithio â staff, myfyrwyr a’r gymuned i sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu ar sail gadarn a chynaliadwy, gan gydymffurfio â’r rheoliadau priodol, fel yr amlinellwyd yn ein Cynllun Strategol 2020. Mae’r tîm yn rheoli cyllideb flynyddol sy’n cynyddu bob blwyddyn i gefnogi ein gwaith mewn meysydd megis trafnidiaeth a theithio cynaliadwy, rheoli Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn, gwastraff ac ailgylchu, a datblygu prosiectau a mentrau cynaliadwyedd. 13

PRIFYSGOL O’R RADD FLAENAF (peopleandplanet.org/university-league)

14

Agorodd yr MBA fy llygaid i’r hyn sy’n bosib a’r hyn gallwn i ei gyflawni. Rhoddodd i mi set o offer dadansoddi ac roedd gen i ffordd wahanol o edrych ar bethau ar ddiwedd y rhaglen. Mae problemau ac argyfyngau wedi troi’n gyfleoedd.

GARETH FRANCIS Cyfarwyddwr Gweithgynhyrchu mewn

Cwmni Gweithgynhyrchu Dylunio ac Electronig. Cyn-fyfyriwr ar raglen MBA Prifysgol Abertawe

15

EIN PARTNERIAETHAU Â DIWYDIANT

PARTNERIAID YMCHWIL DIWYDIANT (HEBCI 2018) +500 GYRFA 5 Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2020 ORAU AM RAGOLYGON

Mae gan yr Ysgol Reolaeth gysylltiadau â nifer o bartneriaid diwydiannol sy’n gweithio’n agos gyda ni i wella ein harferion addysgu a phrofiad y myfyrwyr. Rydym yn ymfalchïo’n fawr mewn cydweithredu â chwmnïau megis TATA Steel, Admiral, Fujitsu, Pfizer, Land Rover a llawer mwy.

Gall y partneriaethau hyn gynnig cyfleoedd i dreulio blwyddyn mewn diwydiant, ymgymryd â phrosiectau a arweinir gan fyfyrwyr, nawdd a chydweithrediadau

ymchwil; mae pob un o’r rhain yn gwella ein safleoedd yn y tablau o brifysgolion ac yn darparu cyfleoedd gwell i’n myfyrwyr. Yn ystod eich MBA, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ar sail anghenion cleient, a allai gael ei lywio gan bartneriaid yr MBA, gan gynnwys Fujitsu , Pfizer a Siambr Fasnach De Cymru . I fyfyrwyr sy’n rhagori yn eu hastudiaethau, bydd cyfleoedd i gael eich mentora gan ymarferwyr proffesiynol mewn diwydiant a fydd yn rhoi hwb i’ch cymhwyster a’ch profiad.

PARTNERIAID DIWYDIANNOL Y RHAGLEN MBA

Mae Pfizer yn cydweithredu â Phrifysgol Abertawe ar brosiectau ymchwil ac arloesi sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn yn y sector iechyd a gwyddor bywyd, gan gefnogi’r cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ag uchelgais i effeithio ar economïau iechyd eraill. Y nod yw rhannu gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd i ddatblygu system iechyd

sy’n gweithio gyda diwydiant, y GIG ac academyddion i wella gofal iechyd yn y rhanbarth hwn; gan greu ecosystemau cysylltiedig ar yr un pryd, sy’n cysylltu meysydd academaidd, busnes, iechyd a data i gyfnewid syniadau a chynnal ei gilydd er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer cleifion a rhoi arloesi iechyd ar waith yn fyd-eang.

Mae Siambr Fasnach De Cymru’n cysylltu pobl a busnesau allweddol â’i gilydd – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae eu digwyddiadau eithriadol ac addysgol yn ysbrydoli, yn ysgogi ac yn addysgu. Gall un cyswllt allweddol gynyddu eich cyfleoedd i wneud y cysylltiadau gwerthfawr hynny.

Bydd eu digwyddiadau, eu cysylltiadau â busnesau bach a chanolig a’r cyflwyniadau personol gallant eu cynnig i chi agor y drws i fyd newydd o gyfleoedd a dyna pam mae’r bartneriaeth yn bwysig i’r Ysgol Reolaeth ac yn fuddiol i’n myfyrwyr MBA.

Mae partneriaeth yr Ysgol â Fujitsu yn seiliedig ar gydweithrediadau mewn meysydd sy’n amrywio o gyfrifiadura perfformiad uchel i dechnolegau cymorth byw. Mae Fujitsu wedi sefydlu swyddfa ddatblygu â 15 aelod staff sy’n gweithio o’r Ysgol Reolaeth ac wedi agor ei Hyb Arloesedd

Addysg newydd, sy’n canolbwyntio ar dechnoleg, yn yr un adeilad.

Mae hon yn un o nifer o ganolfannau a sefydlwyd ledled y DU i ddarparu atebion perfformiad uchel i ysgolion, colegau a phrifysgolion i’w cynorthwyo wrth ddatblygu sgiliau digidol.

16

EIN HYMCHWIL A’N HEFFAITH:

Drwy weithio gyda rhai o ymchwilwyr gorau a mwyaf disglair y byd, ein nod yw creu ymchwil amlddisgyblaethol, gydweithredol ac arloesol a mynd i’r afael â heriau byd- eang. Mae’r Ysgol Reolaeth yn un o’r 30 o Ysgolion Busnes gorau yn y DU ac mae’n un o’r 10 orau o ran Effaith Ymchwil , gyda 90% o gyflwyniadau’n ennill sgôr o 4* , sef ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang, neu s gôr o 3 *, sef ymchwil sy’n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2014). Rydym yn meithrin cysylltiadau tymor hir â’n cymuned ymchwil, ein cefnogwyr diwydiannol a’n myfyrwyr drwy waith partneriaeth sy’n rhan annatod o’n holl weithgarwch a pherthnasoedd â chyn- fyfyrwyr.

CANOLFANNAU YMCHWIL: Labordy Arloesi Abertawe (i-lab): Ei nod yw gwella dealltwriaeth o arloesi, sut i’w reoli a’i ddylanwad ar ddefnyddwyr, gweithwyr, dinasyddion, sefydliadau, marchnadoedd a chymdeithas. Canolfan Hawkes ar gyfer Cyllid Empirig: Ei nod yw cynyddu dealltwriaeth, datblygiad a chymhwysiad offer a thechnegau sy’n berthnasol i ddadansoddi data a ffenomena ariannol a macroeconomaidd. Y Ganolfan Ymchwil i Economi a Marchnad Lafur Cymru (WELMERC): Mae’n darparu cyngor polisi economaidd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer marchnadoedd llafur Cymru, y DU a’r UE Y Ganolfan Ymchwil i Farchnadoedd Datblygol (EMaRC): Mae’n canolbwyntio ar feysydd systemau gwybodaeth, llywodraeth electronig a’r cyfryngau digidol a chymdeithasol mewn perthynas â marchnadoedd datblygol megis India. Pobl a Sefydliadau: Ymchwilwyr gwyddor gymdeithasol sy’n archwilio materion ym maes ymddygiad sefydliadol a rheoli adnoddau dynol. Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd Iechyd a’r Amgylchedd (CHEMRI): Mae’n gartref i academyddion ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn astudio a rheoli effeithiau amgylcheddol ar iechyd a lles dynol. Y Ganolfan Ymchwil i’r Economi Ymwelwyr (CVER): Mae’n canolbwyntio ar greu, marchnata a rheoli cymunedau bywiog, cynhwysol a chynaliadwy ledled Cymru a’r tu hwnt.

Rydym yn ymrwymedig i gyflawni a lledaenu ymchwil o’r radd flaenaf i gynyddu gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth ac effaith.

SUT RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH •Addysgu diwydiant am ymddygiad moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol •Gwella ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â marchnadoedd datblygol •Dylanwadu ar drafodaethau sy’n llywio polisi

30 O YSGOLION BUSNES GORAU AM RAGORIAETH YMCHWIL REF 2014-21

CYDWEITHREDIADAU Â SEFYDLIADAU MEWN 53

YN FYD-EANG O WLEDYDD

INCWM O YMCHWIL GYDWEITHREDOL AR Y BRIG YNG NGHYMRU 5 ED YN Y DU AM (HEBCI 2018)

90% YMCHWIL RHYNGWLADOL RHAGOROL AM EFFAITH (REF 2014-21) SY’N ARWAIN Y BYD 4*

17

PODLEDIAD ARCHWILIO PROBLEMAU BYD-EANG Mae cyfres podlediadau’r brifysgol yn esbonio sut mae ein hacademyddion yn defnyddio eu hymchwil arloesol i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau byd-eang

MAE MWY I FYWYD NAG ARIAN: SUT RYDYM YN MESUR HAPUSRWYDD?

YN MEDDWL EICH BOD YN GWYBOD BETH YW MANTEISION YR ECONOMI GIG? MEDDYLIWCH ETO.

Dr Simon Rudkin, Uwch-ddarlithydd Economeg

Yr Athro Geraint Harvey, Athro Busnes

Ai gwaith ecsbloetiol yw’r drefn arferol bellach? Oes rhaid i’r byd gwaith fod fel hyn? Mae’r Athro Geraint Harvey yn ystyried ffyrdd newydd o weithio, sut maent yn edrych a sut maent yn effeithio ar y gweithiwr. Yr Athro Geraint Harvey yw Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Pobl a Sefydliadau yn yr Ysgol Reolaeth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar newidiadau yn y berthynas gyflogaeth ac, yn benodol, y ffordd mae contractau masnachol yn disodli contractau cyflogaeth. Mewn llawer o achosion, mae pobl yn gwneud yn union yr un tasgau ag aelod staff, ond cânt eu diffinio fel gweithwyr hunangyflogedig. O ganlyniad, mae eu cyflogaeth yn llai sicr ac nid ydynt yn derbyn buddion megis tâl salwch a gwyliau na chyfraniadau pensiwn gan y sefydliad. Diffinnir y bobl hyn fel ffug hunangyflogedig. Rydym wedi gweld cynnydd o ran gwaith yn yr hyn sy’n cael ei adnabod bellach fel yr economi gig sy’n cynnig cyfleoedd ar hap i weithwyr ennill arian yn hytrach na swyddi diogel, tymor hir.

O archfarchnadoedd i drenau cyflym iawn, o wleidyddiaeth i docynnau loteri; mae economeg yn rhan annatod o bopeth rydym yn ei wneud. Mae’n fwy na mathemateg ac arian yn unig, mae’n ymwneud â sut mae popeth yn gysylltiedig ac mae ymddygiad dynol yn rhan bwysig o hyn - mae ein bodlonrwydd â’n dewisiadau’n allweddol. Mae Dr Simon Rudkin yn esbonio’r broses sy’n sail i benderfyniad i brynu tocyn loteri a sut mae craffu ar ddata mawr yn llywio’r broses o lunio polisïau ym maes lles cymdeithasol. Mae ymchwil Simon yn parhau i gael effaith ac mae’n cyfuno elfennau gorau economeg ag elfennau gorau disgyblaethau eraill megis cyfrifiadureg. Mae’n archwilio sut gall economegwyr egluro materion cymdeithasol hollbwysig a chyfrannu at lunio polisïau. Ar ben hynny, mae Simon yn annog pawb i fynegi popeth ar raddfa: y syniad nad oes dim byd yn bodoli ar yr eithafion; yn hytrach, mae angen i ni ddadlau a gwerthuso lle’r rydym ni rhwng y ddau begwn. Mewn geiriau eraill, nid oes dim byd mor syml â chwith/de; cywir/anghywir; oes/nac oes.

I glywed yr Athro Harvey yn trafod yr economi gig ymhellach, sganiwch y côd QR neu ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ ymchwil

I glywed Dr Rudkin yn siarad mwy am sut mae data mawr yn llywio polisi, sganiwch y côd QR neu ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ ymchwil

18

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig i’ch helpu i dalu am eich MBA.

YSGOLORIAETHAU MBA Rydym yn gwybod bod cost cwrs yn ffactor pwysig wrth wneud penderfyniad, a dyma pam mae’r Ysgol Reolaeth yn gyffrous i gynnig ysgoloriaeth gwerth £5,000 i bedwar myfyriwr MBA.

Rhaid i chi gynnal cynnig am le i astudio ym Mhrifysgol Abertawe ar yr MBA ar gyfer 2020 mynediad.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno cais, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/mba/ysgoloriaeth- mba

YSGOLORIAETH DATBLYGU DYFODOL Os oes gennych gynnig i astudio gyda ni, gallwn gynnig hyd at £3,000 i chi a gaiff ei ddidynnu’n awtomatig o’ch ffioedd dysgu. Mae ein rhaglen Datblygu Dyfodol yn fwy na phecyn ysgoloriaeth; yn ogystal â chymorth ariannol ar gyfer blwyddyn academaidd, cewch gyfle i feithrin sgiliau gwerthfawr a fydd yn fantais yn eich gyrfa. Caiff derbynwyr yr Ysgoloriaeth gyfle i weithio ar nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau gydag academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol yn yr Ysgol. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno cais, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ysgoloriaeth- datblygu-dyfodol YSGOLORIAETH MBA Y CANMLWYDDIANT I nodi blwyddyn ein canmlwyddiant, mae’r Ysgol Reolaeth yn cynnig un ysgoloriaeth lawn, gwerth £20,000 , i fyfyriwr a fydd yn dechrau yn 2020. Caiff y swm ei ddidynnu’n awtomatig o ffioedd dysgu’r ymgeisydd llwyddiannus. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno cais, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/mba/ysgoloriaeth- mba

19

YSGOLORIAETHAU RHAGORIAETH RYNGWLADOL Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ryngwladol yn cynnig hyd at £4,000 i ymgeiswyr sy’n dangos rhagoriaeth academaidd neu sydd â’r potensial i wneud hynny yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Caiff ysgoloriaethau eu dyfarnu ar ffurf gostyngiad ar ffioedd dysgu.

swansea.ac.uk/international-students/my-finances/ international-scholarships

CYFLEOEDD ÔL-RADDEDIG I GYN-FYFYRWYR RHYNGWLADOL Mae’r cyfle hwn yn agored i holl gyn-fyfyrwyr rhyngwladol Prifysgol Abertawe sy’n cyflwyno cais am radd meistr a addysgir neu ymchwil mewn unrhyw faes pwnc. Os ydych yn gymwys am yr ysgoloriaeth hon, gallwch dderbyn cymorth gwerth hyd at £5,000 y flwyddyn.

swansea.ac.uk/international-students/my-finances/ international-scholarships

YSGOLORIAETHAU CHEVENING Ysgoloriaethau llawn (ffioedd cwrs, costau hedfan a llety) – Ysgoloriaethau Chevening yw rhaglen ysgoloriaeth fyd-eang llywodraeth y DU. Mae’n cael ei hariannu gan y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad (FCO) a sefydliadau partner. Dyfernir yr ysgoloriaethau i ysgolheigion neilltuol â photensial arweinyddiaeth. Mae’r dyfarniadau fel arfer ar gyfer gradd Meistr un flwyddyn mewn prifysgol yn y DU. Mae dros 50,000 o Gyn-fyfyrwyr Chevening ledled y byd sydd, gyda’i gilydd, yn creu rhwydwaith byd-eang dylanwadol ac uchel ei barch. I gael rhagor o wybodaeth am Ysgoloriaethau Chevening, ewch i: swansea.ac.uk/international-students/my-finances/ international-scholarships BWRSARIAETHAU ÔL-RADDEDIG LLYWODRAETH CYMRU Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer myfyrwyr o Gymru/yr UE sy’n dechrau cyrsiau gradd meistr ym mis Medi 2020. Bydd hyn ar ffurf bwrsariaethau nad oes rhaid eu had-dalu ac sy’n cael eu gweinyddu gan bob prifysgol yng Nghymru yn unigol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ysgoloriaethau

20

PELLTER O LUNDAIN: 300 CILOMEDR

PELLTER O FAES AWYR

PELLTER O FAES AWYR RHYNGWLADOL CAERDYDD: 70 CILOMEDR

RHYNGWLADOL HEATHROW: 277 CILOMEDR

3 AWR AR Y TRÊN O ABERTAWE I LUNDAIN

CARTREF GWYR Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.

POBLOGAETH 245,500

21

ARCHWILIO ABERTAWE

Mae Abertawe’n ddinas arfordirol yn ne Cymru a chanddi awyrgylch modern a chosmopolitan, yn agos at benrhyn Gwyr a’i draethau arobryn.

Mae Cymru’n un o’r bedair gwlad sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig, mae ganddi ei hiaith ei hun – iaith fyw hynaf Ewrop – ac mae’r Brifysgol yn cynnig gwersi Cymraeg am bris rhad os hoffech ddysgu’r iaith. Mae gan Gymru nifer helaeth o gestyll i’w harchwilio, mynyddoedd i’w dringo a seigiau lleol blasus i’w profi – ffordd berffaith o ymlacio ar ôl wythnos hir o astudio. P’un a ydych yn gwirioni ar chwaraeon, yn dwlu ar ddiwylliant neu’n awchu am antur awyr gored, bydd digon i’ch difyrru. Y MWMBWLS Mae’r Mwmbwls yn bentref bywiog ar lan y môr ar ochr orllewinol Bae Abertawe lle ceir dros 120 o siopau, bwytai a thafarndai. Mae’r pentref pert yn gartref i Bier y Mwmbwls, pier Fictoraidd 254 metr o hyd a adeiladwyd ym 1898, a Chastell Ystumllwynarth, castell carreg o oes y Normaniaid sy’n sefyll mewn tir helaeth â golygfeydd dros Fae Abertawe. Mae Gwyl Wystrys y Mwmbwls yn un o lawer o atyniadau ar gyfer y rhai sy’n dwlu ar fwyd, ac mae’r dadlau ynglyn â pharlwr hufen iâ gorau’r Mwmbwls yr un mor ffyrnig ag erioed.

BAE’R TRI CHLOGWYN

Y TWR ‘GRAPE AND OLIVE’

CANOLFAN DYLAN THOMAS Mae Canolfan Dylan Thomas yn gartref i

arddangosfa barhaol am fywyd a gwaith un o gewri llenyddol yr 20fed ganrif. Ganwyd a magwyd Dylan Thomas yn Abertawe ac mae amrywiaeth o deithiau a llyfrau sy’n eich galluogi i adnabod mab enwocaf Abertawe’n well.

MARINA

22

GERDDI CLUN Mae Gerddi Clun yn cynnwys amrywiaeth o blanhigion mewn parcdir hardd. Yn enwog yn fyd-eang am y casgliad rhagorol o rododendronau, ieir gwynion ac enkianthus, mae’r gerddi’n cynnig hafan o lonyddwch, planhigion toreithiog a nodweddion diddorol. Mae’r parciau mawreddog â statws y faner werdd yn ddihangfa i bobl rhag bwrlwm bywyd y ddinas. Mae’r gerddi’n wirioneddol ysblennydd drwy gydol y flwyddyn. PENRHYN GWYR Mae Penrhyn Gwyr yn gartref i bum traeth baner las a hon oedd yr ardal gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Felly, Penrhyn Gwyr yw’r lle perffaith i adolygu, ymlacio neu fwynhau barbeciw ac mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer anturiaethau awyr agored. Rhaid i chi weld y dirwedd ogoneddus â’ch llygaid eich hun. BAE’R TRI CHLOGWYN Mae Bae’r Tri Chlogwyn ymhlith enillwyr pleidleisiau am dirweddau mwyaf dramatig Prydain yn rheolaidd. Mae ei leoliad hardd, wedi’i amgylchynu gan dri chlogwyn calchfaen, yn berffaith i ffotograffwyr brwd neu anturiaethwyr. Ar ben taith 20 munud ar hyd llwybr i ddatgelu’r tri chlogwyn trawiadol, mae’r traeth yn un o atyniadau arfordirol llonydd a braf Cymru. BAE RHOSILI Mae Bae Rhosili yn gyrchfan eiconig sy’n cynnig golygfeydd panoramig trawiadol a llwybrau cerdded da. Wedi’i amgylchynu gan lwybrau serth i lawr wyneb y clogwyn, cafodd y traeth ei bleidleisio’n Draeth Gorau Cymru 2017 ac yn un o 10 Traeth Gorau’r DU (Gwobrau Dewis y Teithiwr Trip Advisor). Mae’n hafan i fywyd gwyllt hefyd lle mae nifer o rywogaethau adar yn nythu ar y clogwyni a gwelir defaid yn crwydro’r glaswellt. BAE LANGLAND Mae Bae Langland yn atyniad arfordirol poblogaidd ar benrhyn Gwyr. Mae’n draeth syrffio poblogaidd sy’n ennill gwobr y Faner Las Ewropeaidd yn rheolaidd am ei ansawdd. Yn enwog am ei ‘chymuned’ o gytiau traeth gwyrdd, mae’r ardal yn ddelfrydol ar gyfer ffotograffwyr brwd.

MARINA ABERTAWE

STADIWM LIBERTY

BAE LANGLAND

23

Ar ôl astudio am yr MBA, dwi’n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus yn y gweithle ac mae gen i ddealltwriaeth gyfannol well o sut mae’r byd busnes yn gweithio. Darparodd Prifysgol Abertawe un o brofiadau gorau fy mywyd. Mae’r ddinas hyfryd yn ychwanegu at eich profiad yn y Brifysgol.

KAUSHAL KUSHWAHA Rheolwr Gweithrediadau Cyn-fyfyriwr ar raglen MBA Prifysgol Abertawe

24

YR YSGOL REOLAETH SY’N WIRIONEDDOL FYD-EANG

Ar ôl i chi raddio o Brifysgol Abertawe, byddwch yn ymuno â rhwydwaith byd-eang o dros 115,000 o gyn-fyfyrwyr rhyngwladol. Gyda chymuned gynyddol o gyn-fyfyrwyr sy’n byw ac yn gweithio dramor, byddwch yn cwrdd â ffrindiau a chydweithwyr o’r un meddylfryd lle bynnag yr ewch chi yn y byd.

“Mae’r darlithwyr yn wych. Maen nhw bob amser wrth law os oes angen cymorth arnoch ac ar gael drwy e-bost. Mae oriau swyddfa hefyd yn gyfle gwych i fyfyrwyr ofyn cwestiynau.” Peter Doyle, Minnesota, UDA.

“Roedd fy narlithwyr yn gymwys iawn ac roedden nhw’n defnyddio arddulliau dysgu amrywiol i wneud modiwlau’n ddiddorol. Roedd llawer o’r darlithwyr o wledydd gwahanol a oedd yn rhoi cyfle i mi fanteisio ar gael fy addysgu gan academyddion â gwybodaeth helaeth ar lefel ryngwladol.” Abdulaziz Alrefaie, Kuwait

25

“Dewch i’r brifysgol â meddylfryd agored. Manteisiwch ar y cyfleusterau; mae’r brifysgol yn cynnig adnoddau helaeth ac yn rhoi sylfaen gadarn i’ch paratoi ar gyfer byd gwaith.” Osman Faisal, Lloegr

“Ar ôl cymhwyso, symudais i’r swyddfa yn Canary Wharf, Llundain, ac ymunais â’r adran sicrwydd estynedig i ddarparu sicrwydd parhaus i reoleiddwyr, rheolwyr a chyfarwyddwyr.” Chengyao Fan, Chengdu, Tsieina

“Rwy’n ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am roi i mi’r platfform, yr adnoddau a’r cymorth delfrydol i gyflawni amcan sylfaenol fy ngyrfa, Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf!” Leonard Savio, Bangalore, India

26

CYMERWCH Y CAM NESAF YN EICH GYRFA

1.

EDRYCHWCH AR Y GOFYNION MYNEDIAD: Mae’r rhain yn cynnwys o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol. Dyma’r meysydd eraill i’w hystyried o ran cefndir:

• Gwneud penderfyniadau • Cyfrifoldeb am adnoddau • Arwain tîm • Cydlynu perthnasoedd â chyrff allanol

CYFLWYNO CAIS AR-LEIN Cyflwynwch eich cais ynghyd â’r holl ddogfennaeth ategol. Cofiwch gynnwys CV gyda’ch cais. Os nad ydych yn cynnwys yr holl ddogfennau gofynnol, gall hyn arafu’ch cais. Ewch i: apply.swansea.ac.uk 2. WEDI CYFLWYNO EICH CAIS? Byddwch yn derbyn e-bost sy’n cynnwys eich rhif myfyriwr. Rhaid i chi gadw hwn yn ddiogel a’i ddefnyddio yn eich holl ohebiaeth gyda ni o hyn allan. 3. YN AROS AM BENDERFYNIAD? Rydym yn ceisio gwneud penderfyniad ar eich cais cyn gynted â phosib. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn o fewn naw niwrnod gwaith. 4. CYFWELIAD Gallwn gysylltu â chi i gael trafodaeth fer am eich cais fel y gall cyfarwyddwr y rhaglen asesu eich addasrwydd am y cwrs ac ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. 5. PENDERFYNIAD Byddwch yn derbyn e-bost pan fydd penderfyniad wedi’i wneud ar eich cais. 6. YMGEISIO AM YSGOLORIAETH Mae gennych nifer o opsiynau ysgoloriaeth sydd ar gael i chi i helpu i ariannu eich MBA. Ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/mba 7.

27

GWRANDEWCH AR EIN CANLLAWIAU GORAU AM SUT I GYFLWYNO CAIS Sganiwch y côd QR i glywed gan gyfarwyddwr y cwrs.

28

EISIAU GWYBOD MWY? DILYNWCH NI AR EIN CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

School of Management, Swansea University

@SoMAbertawe

SwanseaUni

#DYFODOLDISGLAIR

93

44

#BYWYDPRIFABERTAWE

29

55

79

93

#PRIFABERTAWE

GWYBODAETH BWYSIG – DARLLENWCH Mae’r neges ganlynol yn cynnwys gwybodaeth bwysig iawn. Dylech ei darllen wrth ddefnyddio’r prosbectws.

Argraffwyd y canllaw hwn yn ngwanwyn 2020. Mae’n cynnwys gwybodaeth am raglenni mae Prifysgol Abertawe’n bwriadu eu darparu i fyfyrwyr a fydd yn dechrau eu hastudiaethau prifysgol yn hydref 2020. Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir ar ddyddiad ei chyhoeddi. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai newidiadau yn angenrheidiol i raglenni, lleoliadau astudio, cyfleusterau, ffioedd, neu efallai y bydd costau ychwanegol o ganlyniad i resymau staffio, ariannol, rheoleiddiol ac academaidd dilys. Byddwn bob amser yn ymdrechu i gadw newidiadau i leiafswm ac i hysbysu darpar fyfyrwyr yn briodol.

Caiff unrhyw newidiadau eu diweddaru ar dudalennau ar-lein y cyrsiau: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/mba

30

CYSYLLTU Â NI Yr Ysgol Reolaeth Campws y Bae, Ffordd Fabian Prifysgol Abertawe SA1 8EN Cymru Y DU

+44 (0)1792 295358

som-mba@abertawe.ac.uk

swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/mba

*This document is also avialable in English

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28 Page 29 Page 30 Page 31 Page 32

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook HTML5