MBA Brochure_Welsh

PODLEDIAD ARCHWILIO PROBLEMAU BYD-EANG Mae cyfres podlediadau’r brifysgol yn esbonio sut mae ein hacademyddion yn defnyddio eu hymchwil arloesol i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau byd-eang

MAE MWY I FYWYD NAG ARIAN: SUT RYDYM YN MESUR HAPUSRWYDD?

YN MEDDWL EICH BOD YN GWYBOD BETH YW MANTEISION YR ECONOMI GIG? MEDDYLIWCH ETO.

Dr Simon Rudkin, Uwch-ddarlithydd Economeg

Yr Athro Geraint Harvey, Athro Busnes

Ai gwaith ecsbloetiol yw’r drefn arferol bellach? Oes rhaid i’r byd gwaith fod fel hyn? Mae’r Athro Geraint Harvey yn ystyried ffyrdd newydd o weithio, sut maent yn edrych a sut maent yn effeithio ar y gweithiwr. Yr Athro Geraint Harvey yw Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Pobl a Sefydliadau yn yr Ysgol Reolaeth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar newidiadau yn y berthynas gyflogaeth ac, yn benodol, y ffordd mae contractau masnachol yn disodli contractau cyflogaeth. Mewn llawer o achosion, mae pobl yn gwneud yn union yr un tasgau ag aelod staff, ond cânt eu diffinio fel gweithwyr hunangyflogedig. O ganlyniad, mae eu cyflogaeth yn llai sicr ac nid ydynt yn derbyn buddion megis tâl salwch a gwyliau na chyfraniadau pensiwn gan y sefydliad. Diffinnir y bobl hyn fel ffug hunangyflogedig. Rydym wedi gweld cynnydd o ran gwaith yn yr hyn sy’n cael ei adnabod bellach fel yr economi gig sy’n cynnig cyfleoedd ar hap i weithwyr ennill arian yn hytrach na swyddi diogel, tymor hir.

O archfarchnadoedd i drenau cyflym iawn, o wleidyddiaeth i docynnau loteri; mae economeg yn rhan annatod o bopeth rydym yn ei wneud. Mae’n fwy na mathemateg ac arian yn unig, mae’n ymwneud â sut mae popeth yn gysylltiedig ac mae ymddygiad dynol yn rhan bwysig o hyn - mae ein bodlonrwydd â’n dewisiadau’n allweddol. Mae Dr Simon Rudkin yn esbonio’r broses sy’n sail i benderfyniad i brynu tocyn loteri a sut mae craffu ar ddata mawr yn llywio’r broses o lunio polisïau ym maes lles cymdeithasol. Mae ymchwil Simon yn parhau i gael effaith ac mae’n cyfuno elfennau gorau economeg ag elfennau gorau disgyblaethau eraill megis cyfrifiadureg. Mae’n archwilio sut gall economegwyr egluro materion cymdeithasol hollbwysig a chyfrannu at lunio polisïau. Ar ben hynny, mae Simon yn annog pawb i fynegi popeth ar raddfa: y syniad nad oes dim byd yn bodoli ar yr eithafion; yn hytrach, mae angen i ni ddadlau a gwerthuso lle’r rydym ni rhwng y ddau begwn. Mewn geiriau eraill, nid oes dim byd mor syml â chwith/de; cywir/anghywir; oes/nac oes.

I glywed yr Athro Harvey yn trafod yr economi gig ymhellach, sganiwch y côd QR neu ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ ymchwil

I glywed Dr Rudkin yn siarad mwy am sut mae data mawr yn llywio polisi, sganiwch y côd QR neu ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ ymchwil

18

Made with FlippingBook HTML5