MBA Brochure_Welsh

CYNNWYS Y CWRS MBA

Mae’r MBA ym Mhrifysgol Abertawe’n cynnwys naw modiwl a ddatblygwyd â’r nod o helpu myfyrwyr i fynd i’r afael â heriau y bydd busnesau’n eu hwynebu yn y dyfodol.

YMCHWIL AR WAITH: YMGYMRYD Â PHROSIECT AR GYFER CLEIENT Mae Ymchwil ar Waith yn darparu cyflwyniad i’r ffordd mae ymchwil yn llywio ymarfer rheoli drwy sefydlu ymchwil fel un o’r sgiliau craidd sy’n sylfaen i’r rhaglen MBA. Cynhelir y modiwl hwn drwy gydol y cwrs, gan alluogi myfyrwyr i feithrin y sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau sy’n tanategu ymchwil effeithiol. Ar ddiwedd y modiwl, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect ymgynghori lle cânt brofiad o weithio gyda sefydliad sy’n gleient. ARCHWILIO DIBEN SEFYDLIADOL Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich gallu i asesu opsiynau’n feirniadol ar gyfer llunio a gweithredu strategaeth i gyflawni dibenion sefydliadol mewn modd llwyddiannus a chynaliadwy mewn amgylcheddau ansicr. Byddwch yn dysgu sut i roi sgiliau dadansoddi uwch ar waith i werthuso amgylcheddau sefydliadol yn feirniadol, mewn nifer o feysydd a sectorau gwahanol, ac i nodi ymatebion sefydliadol hybrid. Byddwch yn dadansoddi’r perthnasoedd rhwng busnes a chymdeithas o ran dibenion sefydliadol ar gyfer datblygu cynaliadwy ac yn gwerthuso trafodaethau am ffyrdd cyfrifol o reoli busnes mewn cyd-destunau diwylliannol, datblygiadol a sefydliadol amrywiol. LLYWIO ARLOESEDD A NEWID Mae arloesedd a’r gallu i fod yn ystwyth yn nodweddiadol o gwmnïau llwyddiannus o bob maint. Mae hyn yn gynyddol bwysig ym marchnad fyd-eang heddiw, ond mae’n peri heriau o ran datblygu gwasanaethau a chynnyrch, yn ogystal â newid yn strwythur a gweithrediadau sefydliadau ac mewn ymddygiad dynol. Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i feithrin yr wybodaeth a’r sgiliau i ymgymryd yn effeithiol â datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, gan gyflawni gwerth drwy lywio’r cylch bywyd arloesi, cydweithredu agored a datblygu strwythurau sefydliadol sy’n cefnogi newid cyflym a chynaliadwy. Ar sail y dysgu hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu achos busnes i fynd i’r afael â

chyfres o heriau cyfoes a’u goresgyn yn llwyddiannus wrth ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd.

ARWAIN AG UNIONDEB Mae busnesau heddiw’n wynebu cyflymdra newid na welwyd ei debyg o’r blaen, o fynediad at ddata mawr a thechnolegau soffistigedig i effaith cyflymdra newid cymdeithasol a gwleidyddol ar ddarpar farchnadoedd, cyflenwyr a chwsmeriaid a rhai sefydledig. Yn yr oes hon, mae rôl yr arweinydd yn wynebu heriau cyson, a gofynnir am arweinyddiaeth wybodus a strategol ar bob lefel mewn sefydliad. Mae angen arweinwyr ag uniondeb ar fusnesau modern, er mwyn mynd i’r afael â’r problemau a allai ddeillio o newid byd-eang cyflym, yr heriau sydd ynghlwm wrth weithredu mewn cyd-destunau amrywiol, ac i ddeall dulliau cynhwysol o arwain. Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i feithrin y sgiliau arwain hynny. CREU GWERTH CYNALIADWY Yn hytrach na dilyn trywydd y rhaglen MBA gonfensiynol, oherwydd y gall y dull hwn guddio’r cysylltiadau sylfaenol, mae’r modiwl hwn yn cynnig ymagwedd gyfannol at y ffordd mae gwerth yn cael ei ddeall a’i gyflawni. Gan gydnabod bod datblygu cynaliadwy, ar ei holl ffurfiau, yn her nad oes modd i unrhyw fusnes neu wladwriaeth unigol ei goresgyn ar ei ben ei hun, mae’r modiwl hwn yn defnyddio nodau cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig er mwyn llywio cwricwlwm hyblyg ac amserol sy’n gallu adlewyrchu newyddion rhyngwladol.

DADANSODDI DATA A GWNEUD PENDERFYNIADAU

Bydd y modiwl hwn yn gwerthuso adroddiadau a chrynodebau ystadegol sy’n berthnasol i fusnes a llywodraeth, yn dadansoddi ac yn dangos hyfedredd wrth gysylltu damcaniaeth benderfynu ag ymarfer ac yn defnyddio dulliau ansoddol i wella prosesau penderfynu. Byddwch yn datblygu’r gallu i nodi problemau busnes a’u troi’n benderfyniadau ac yn gamau gweithredol ar gyfer cyd-destun penodol ac i werthuso priodoldeb dadansoddiad rhwydwaith i benderfyniad busnes perthnasol.

9

Made with FlippingBook HTML5