MBA Brochure_Welsh

YNGLYN Â’R YSGOL REOLAETH

Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe’n un o’r darparwyr mwyaf blaenllaw yn y DU ym maes addysg Rheoli, Cyfrifeg a Chyllid, Marchnata, Twristiaeth ac Economeg. Mae’n darparu amrywiaeth o raddau israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â chyfleoedd cydweithredu. Adlewyrchir ein cysylltiadau cryf â diwydiant a chyrff achredu proffesiynol yn ein gweithgareddau addysgu blaengar a’n hymchwil sy’n torri tir newydd, gan sicrhau cychwyn gwych i yrfaoedd ein myfyrwyr, ein staff a’n partneriaid. Lleolir yr Ysgol ar gampws trawiadol y Bae, sy’n dafliad carreg yn unig o’r traeth cyfagos a hanner milltir o goridor yr M4; mae’r Ysgol Reolaeth yn gartref i dros 150 o staff a thros 2000 o fyfyrwyr. Mae ei chyfleusterau o safon fyd-eang, gan gynnwys atriwm ysblennydd, ystafelloedd addysgu, ystafelloedd cyfarfod a labordai cyfrifiaduron, yn cynnig amgylchedd dysgu rhagorol i’w myfyrwyr.

Mae gan yr Ysgol brofiad rhagorol o addysgu rhai o raddedigion mwyaf llwyddiannus y DU. Mae’r profiad hwnnw, ynghyd â’i staff egnïol a blaengar, ei chyfleusterau o’r radd flaenaf a’i chysylltiadau agos â diwydiant yn golygu ei bod yn lle hollol unigryw i astudio ynddo. Mae’r Ysgol yn un o’r 30 o ysgolion busnes gorau yn y DU am Ragoriaeth Ymchwil (REF 2014) ac yn un o’r 10 orau am Effaith Ymchwil (REF 2014). Yn yr adolygiad diweddaraf gan Advance HE, Dyfarnwyd Gwobr Efydd Siarter Athena SWAN i ni am ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac rydym yn y 13eg safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2020/21). I gael rhagor o wybodaeth am yr Ysgol Reolaeth, ewch i swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/colegau/ysgol_ reolaeth

6

Made with FlippingBook HTML5