MBA Brochure_Welsh

GRADD MEISTR MEWN GWEINYDDU BUSNES

MYNEDIAD YM MIS IONAWR 2021 Amser Llawn (12 mis) Ffioedd dysgu bob blwyddyn: £20,000

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer y rhai sydd am wneud effaith ar gymdeithas a phontio’r bwlch rhwng ymarfer a damcaniaeth sy’n gallu bodoli ym maes rheoli, a’i nod yw galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau byd-eang ar gyfer trefnu a chydweithredu, yn ogystal â chystadlu, yn y sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector. Mae ein MBA yn herio myfyrwyr i fod yn feddylwyr beirniadol, gan fyfyrio ar ddamcaniaeth ac arfer rheoli er mwyn nodi lle gellir gwneud newidiadau yn y dirwedd fusnes fyd-eang. Drwy ymchwilio i ymagweddau arloesol at arfer gorau mewn busnes, tueddiadau defnyddio cyfrifol a ffurfiau hybrid ar sefydliad, rydym yn paratoi ein myfyrwyr MBA i fynd i’r afael â heriau sicrhau gwerthoedd dynol mewn cyfnod o drawsnewid byd-eang. Fel myfyriwr MBA, byddwch yn rheoli prosiect sy’n ceisio datrys problem go iawn ar gyfer sefydliad sy’n gleient, gan gydweithio â chymheiriaid ac ymarferwyr proffesiynol. Byddwch yn gweithio gydag academyddion arbenigol, ymchwilwyr arloesol ac arweinwyr busnes i fynd i’r afael â rhai o heriau allweddol ein cymdeithas a chael effaith gadarnhaol ynghyd â chyfle i adeiladu ar eich profiad eich hun a herio sut mae busnesau’n gweithredu. Mae’r rhaglen yn cynnig ymagwedd wahanol at feddylfryd rheoli a bydd yn sicrhau y bydd ein myfyrwyr yn gwneud penderfyniadau gwybodus yn y gweithle a’u bod yn deall effaith ehangach y penderfyniadau hyn. Mae pwyslais ar werthoedd dynol, yn ogystal â gwerth i randdeiliaid, wrth wraidd rhaglen MBA Prifysgol Abertawe.

Gofynion Mynediad: Gradd 2:1 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth (neu gymhwyster rhyngwladol cyfwerth). Tair blynedd o brofiad proffesiynol Rhaid atodi CV Gofyniad iaith Saesneg: IELTS 6.5 (5.5 neu’n uwch ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

7

Made with FlippingBook HTML5