MBA Brochure_Welsh

YNGLYN Â PHRIFYSGOL ABERTAWE Mae’r Brifysgol wedi bod ar flaen y gad ym maes ymchwil ac arloesi ers iddi gael ei sefydlu ym 1920 ac mae ein hymchwil o safon fyd-eang yn cael effaith lawer ehangach ar iechyd, cyfoeth, diwylliant a lles ein cymdeithas. Rydym yn arwain y ffordd yng Nghymru mewn meysydd ymchwil sy’n hollbwysig i dwf economaidd a lles y boblogaeth, gan gynnwys ym meysydd y gwyddorau amgylcheddol, meddygaeth a gwaith cymdeithasol. Bydd y Brifysgol yn dathlu ei Chanmlwyddiant ar 19 Gorffennaf 2020 ac yn dathlu clod a chydnabyddiaeth megis gwobr Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (2018) a gradd pum seren am ansawdd addysgu gan y system graddio prifysgolion fyd-eang , QS Stars. Rydym yn un o’r 10 prifysgol orau yn y DU am foddhad myfyrwyr (NSS 2019), un o’r pump orau am Ragolygon Gyrfa (Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2020) ac rydym yn hynod falch o gael ein dewis yn Brifysgol y Flwyddyn (Gwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni 2019). Rydym yn brifysgol flaenllaw a chynaliadwy a chanddi uchelgeisiau i helpu i ysgogi datblygu cynaliadwy, yn y DU ac yn rhyngwladol, ac rydym yn y 9fed safle yng Nghynghrair Prifysgolion Gwyrdd The Guardian ar hyn o bryd. Mae gan Brifysgol Abertawe ddau gampws trawiadol, ar ddeupen glan y môr yn Abertawe. Saif Campws Parc Singleton mewn parcdir aeddfed a gerddi botaneg â golygfeydd dros draeth Bae Abertawe. Lleolir Campws y Bae ger y traeth ar y ffordd i mewn i Abertawe o’r dwyrain. Mae ein dau gampws amlddiwylliannol yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr, staff a’r gymuned a gellir crynhoi’r awyrgylch cyfeillgar a chartrefol gan y geiriau “profiad Abertawe”. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF), cyflawnwyd ein huchelgais o fod yn un o’r 30 o sefydliadau gorau yn y DU am ymchwil. Pan ddyfarnwyd safle 26 i ni yn y REF, dywedodd Times Higher Education mai hwn oedd y “naid fwyaf gan sefydliad sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil” a barnwyd bod ymchwil Abertawe o’r un safon â chwe phrifysgol Grwp Russell neu’n well na rhai ohonynt. Dyfarnwyd safle 22 i ni yn y DU am effaith yr ymchwil honno hefyd

3

Made with FlippingBook HTML5