MBA Brochure_Welsh

EIN PARTNERIAETHAU Â DIWYDIANT

PARTNERIAID YMCHWIL DIWYDIANT (HEBCI 2018) +500 GYRFA 5 Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2020 ORAU AM RAGOLYGON

Mae gan yr Ysgol Reolaeth gysylltiadau â nifer o bartneriaid diwydiannol sy’n gweithio’n agos gyda ni i wella ein harferion addysgu a phrofiad y myfyrwyr. Rydym yn ymfalchïo’n fawr mewn cydweithredu â chwmnïau megis TATA Steel, Admiral, Fujitsu, Pfizer, Land Rover a llawer mwy.

Gall y partneriaethau hyn gynnig cyfleoedd i dreulio blwyddyn mewn diwydiant, ymgymryd â phrosiectau a arweinir gan fyfyrwyr, nawdd a chydweithrediadau

ymchwil; mae pob un o’r rhain yn gwella ein safleoedd yn y tablau o brifysgolion ac yn darparu cyfleoedd gwell i’n myfyrwyr. Yn ystod eich MBA, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ar sail anghenion cleient, a allai gael ei lywio gan bartneriaid yr MBA, gan gynnwys Fujitsu , Pfizer a Siambr Fasnach De Cymru . I fyfyrwyr sy’n rhagori yn eu hastudiaethau, bydd cyfleoedd i gael eich mentora gan ymarferwyr proffesiynol mewn diwydiant a fydd yn rhoi hwb i’ch cymhwyster a’ch profiad.

PARTNERIAID DIWYDIANNOL Y RHAGLEN MBA

Mae Pfizer yn cydweithredu â Phrifysgol Abertawe ar brosiectau ymchwil ac arloesi sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn yn y sector iechyd a gwyddor bywyd, gan gefnogi’r cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ag uchelgais i effeithio ar economïau iechyd eraill. Y nod yw rhannu gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd i ddatblygu system iechyd

sy’n gweithio gyda diwydiant, y GIG ac academyddion i wella gofal iechyd yn y rhanbarth hwn; gan greu ecosystemau cysylltiedig ar yr un pryd, sy’n cysylltu meysydd academaidd, busnes, iechyd a data i gyfnewid syniadau a chynnal ei gilydd er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer cleifion a rhoi arloesi iechyd ar waith yn fyd-eang.

Mae Siambr Fasnach De Cymru’n cysylltu pobl a busnesau allweddol â’i gilydd – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae eu digwyddiadau eithriadol ac addysgol yn ysbrydoli, yn ysgogi ac yn addysgu. Gall un cyswllt allweddol gynyddu eich cyfleoedd i wneud y cysylltiadau gwerthfawr hynny.

Bydd eu digwyddiadau, eu cysylltiadau â busnesau bach a chanolig a’r cyflwyniadau personol gallant eu cynnig i chi agor y drws i fyd newydd o gyfleoedd a dyna pam mae’r bartneriaeth yn bwysig i’r Ysgol Reolaeth ac yn fuddiol i’n myfyrwyr MBA.

Mae partneriaeth yr Ysgol â Fujitsu yn seiliedig ar gydweithrediadau mewn meysydd sy’n amrywio o gyfrifiadura perfformiad uchel i dechnolegau cymorth byw. Mae Fujitsu wedi sefydlu swyddfa ddatblygu â 15 aelod staff sy’n gweithio o’r Ysgol Reolaeth ac wedi agor ei Hyb Arloesedd

Addysg newydd, sy’n canolbwyntio ar dechnoleg, yn yr un adeilad.

Mae hon yn un o nifer o ganolfannau a sefydlwyd ledled y DU i ddarparu atebion perfformiad uchel i ysgolion, colegau a phrifysgolion i’w cynorthwyo wrth ddatblygu sgiliau digidol.

16

Made with FlippingBook HTML5