Rhagoriaeth Barhaus: Strategaeth ar gyfer Twf 2023-2026

RHAGAIR

Ffurfiwyd y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym mis Awst 2021, gan gyfuno Ysgol Feddygaeth

Prifysgol Abertawe a Choleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd.

Mae ein cyfadran newydd yn adeiladu ar dros 25 mlynedd o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy ymchwil flaengar, addysgu o’r radd flaenaf a chydweithio â’r GIG, gwasanaethau cymdeithasol, diwydiant a phartneriaid eraill. Mae perfformiad cryf parhaus y Gyfadran yn nhablau cynghreiriau rhyngwladol a’r DU yn parhau i amlygu cryfderau ar draws y Gyfadran, yn ymwneud ag ansawdd a dwyster ymchwil, rhagoriaeth addysgu, cyflogadwyedd graddedigion, rhagolygon graddedigion a boddhad myfyrwyr yn flynyddol. Datgelodd canlyniadau diweddar gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2021) bod 85% o ymchwil FMHLS wedi’i raddio’n “fyd arweiniol” neu’n “rhagorol yn rhyngwladol” (4* a 3*). Mae hyn yn ychwanegol bod yr Ysgol Feddygaeth yn cynnal ei 5 safle uchaf yn yr Uned Asesu 3, gyda 90% o effaith, 97% o allbynnau a 100% o’n hamgylchedd ymchwil wedi’i raddio fel 4*neu 3*. Wrth galon ein hamgylchedd ymchwil mae cangen ymchwil ac arloesi’r Gyfadran, y Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS). Trwy’r ILS, rydym yn datblygu ymchwil iechyd trwy ymchwil amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol ac yn cysylltu’r buddion hynny â’r economi trwy athroniaeth Arloesedd Agored. Sicrhawn hefyd bod ein cyrsiau yn cynnwys cynhyrchu Eiddo Deallusol, trosglwyddo gwybodaeth, arloesi a lledaenu a sut i’w gwreiddio yn ymarferol.

Mae ein cymysgedd unigryw o gryfder a dyfnder yn ein rhoi mewn sefyllfa ddelfrydol i baratoi a chefnogi myfyrwyr i ymgymryd â gyrfaoedd ymchwil yn y dyfodol ar draws meysydd gwyddor bywyd, iechyd, gofal cymdeithasol, seicoleg a menter ac i droi ymchwil yn welliannau sy’n canolbwyntio ar y claf. Mae cyflogadwyedd graddedigion ar gyfer ein gwyddonwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ymhlith y gorau yn y DU. Rydym hefyd yn darparu gweithlu’r GIG a gofal cymdeithasol yn y dyfodol, drwy ein hystod o raglenni gradd a gomisiynwyd a rhaglenni gradd eraill. Mae’r strategaeth newydd hon yn gosod y cyfeiriad ar gyfer ein llwyddiant yn y dyfodol o ran Ymchwil ac Arloesedd, a Dysgu ac Addysgu. Mae’n dathlu ein hanes o berfformiad cryf a’n hawydd parhaus am dwf a gwelliant. Yr Athro Keith Lloyd Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol, Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

YMWADIAD Mae’r wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir ar adeg ei chynhyrchu yn Hydref 2022. Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i: abertawe.ac.uk/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd This document is also available in English

2 Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

Strategaeth ar gyfer Twf: 2023-2026

3

Made with FlippingBook flipbook maker