Rhagoriaeth Barhaus: Strategaeth ar gyfer Twf 2023-2026

CREU HANES YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE 1970 Prifysgol Abertawe yw un o’r rhai cyntaf yn y DU i gynnig graddau Geneteg ac yn fuan mae’n datblygu adran Biocemeg 2001 Prifysgol Abertawe yn sefydlu Ysgol Glinigol, sy’n datblygu i fod yn Ysgol Feddygol yn 2004 gan gynnig gradd Feddygol gydweithredol gyda Phrifysgol Caerdydd 2006 Sefydlwyd BancData SAIL 2007 Mae’r Ysgol Feddygaeth yn agor yr Athrofa Gwyddor Bywyd (ILS) – ei chyfleuster ymchwil ac arloesi pwrpasol cyntaf 2008 Mae prosiect BEACON yn dechrau, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor 2008 Lansiwyd Cyfleuster Ymchwil Clinigol ar y Cyd (JCRF) mewn cydweithrediad â’r GIG 2012 Agorwyd Athrofa Gwyddor Bywyd 2, yn ogystal â’r Ganolfan NanoIechyd mewn cydweithrediad â’r Coleg Peirianneg 2013 Agorwyd Sefydliad Farr ar gyfer ymchwil hysbyseg iechyd 2014 Mae’r Ysgol Feddygaeth yn safle 1af yn y DU am yr Amgylchedd Ymchwil ac yn 2il yn y DU am Ansawdd Ymchwil Cyffredinol fel rhan o’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 2015 Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd yn cael ei lansio ar y cyd â Byrddau Iechyd rhanbarthol de-orllewin Cymru 2015 Agorwyd Adeilad Gwyddor Data i harneisio Data Mawr 2015 Yr Ysgol Feddygaeth yw adran gyntaf Prifysgol Abertawe i ennill Gwobr Arian Athena SWAN am ymrwymiad i gydraddoldeb 2016 Mae’r Ysgol Feddygaeth yn lansio BSc Gwyddorau Meddygol Cymhwysol ac MSc Astudiaethau Cydymaith Meddygol i gwrdd â heriau gwyddor bywyd a gofal iechyd y dyfodol 2016 Sefydliad Prydeinig y Galon yn dewis Prifysgol Abertawe fel canolfan ar gyfer ei Ganolfan Ymchwil 2016 Mae’r Ysgol Feddygol yn cael ei chynnwys yn y 10 Uchaf yn Nhablau Cynghrair y DU 2019 Llywodraeth Cymru yn cynyddu lleoedd a ariennir i ddiwallu anghenion cynyddol y GIG

YSGOL FEDDYGAETH Wedi’i rhestru’n gyson ymhlith deg uchaf y DU, mae’r Ysgol Feddygaeth yn lle o’r radd flaenaf i ddysgu, ymchwilio ac arloesi. Rydym yn addysgu ac yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o feddygon, gwyddonwyr bywyd a gweithwyr iechyd proffesiynol fesul portffolio cynyddol o gyrsiau clinigol seiliedig ar wyddoniaeth a galwedigaethol. Ein cenhadaeth i wella iechyd, cyfoeth a llesiant pobl Cymru a’r byd drwy addysg o’r radd flaenaf a chydweithio â’r GIG, busnes a’r trydydd sector mewn ysbryd o arloesi agored. Mae ein cymuned o fyfyrwyr, ymchwilwyr a phartneriaid yn defnyddio ac yn elwa o arbenigedd ein hymchwilwyr ac addysgwyr rhyngwladol, gan adeiladu ar ein hymchwil rhagorol sydd yn y 5 uchaf yn y DU (REF2021).

COLEG Y GWYDDORAU DYNOL AC IECHYD 1970 Prifysgol Abertawe yn sefydlu cwrs Seicoleg 1988 Mae rhaglenni seicoleg yn ennill achrediad gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) 1992 Prifysgol Abertawe yn sefydlu Adran Nyrsio a Bydwreigiaeth 1998 Mae BSc Gofal Cyn Ysbyty yn cael ei lansio, y cwrs gradd cyntaf ar gyfer parafeddygon yng Nghymru 1999 Caiff yr Ysgol Gwyddor Iechyd ei ffurfio 2004 Yr Adran Seicoleg yn lansio ei rhaglen MSc Seicoleg Annormal a Chlinigol flaenllaw 2005 Mae rhaglenni Seicoleg a Gwaith Cymdeithasol yn ymuno i ffurfio Ysgol y Gwyddorau Dynol 2006 Agor campws Parc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin 2007 Lansiwyd Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru 2010 Yr Ysgol Gwyddor Iechyd a’r Ysgol Gwyddorau Dynol yn uno i ddod yn Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd 2014 Daw’r Adran Seicoleg yn un o ddim ond pedwar yn y DU i gyflawni 100% o’r radd flaenaf (graddfa 4*) o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd ymchwil fel rhan o’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 2015 Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd yn cael ei lansio ar y cyd â Byrddau Iechyd rhanbarthol de-orllewin Cymru 2017 Cyrsiau Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cyrraedd yr 20 Uchaf yn Nhablau Cynghrair y DU 2017 Lansiwyd Academi Iechyd a Llesiant i wella dysgu ymarferol tra’n cynnig gwasanaethau fforddiadwy a hyblyg i’r gymuned leol 2019 Mae Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn ennill Gwobr Arian Athena SWAN am ymrwymiad i gydraddoldeb 2020 TMae Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn lansio Gwyddor Barafeddygol fel cymhwyster lefel gradd amser llawn

YSGOL SEICOLEG Mae Ysgol Seicoleg gynyddol y Gyfadran yn cael ei harwain gan ymchwil gyda hanes cryf o drosi gwyddoniaeth yn fuddion byd go iawn, fel y dengys yng nghanlyniadau diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2021), gyda 100% o’r effaith yn cael ei graddio’n rhagorol yn rhyngwladol. Ein bwriad yw darparu profiad dysgu rhagorol i bob myfyriwr trwy integreiddio ymchwil gyfredol i addysg. Addysgir myfyrwyr gan academyddion sy’n fyd arweinol yn eu maes, gan ddefnyddio eu mewnwelediad i lywio’r profiad dysgu ac addysgu. Mae’r holl raglenni gradd israddedig yn yr Ysgol Seicoleg wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ac mae gennym hefyd ystod o gyfleoedd ôl-raddedig arbenigol sy’n arfogi graddedigion i lwyddo yn y gweithle.

YSGOL IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL Yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rydym yn dwyn ynghyd ddisgyblaethau nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig ystod eang o gyrsiau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a chymdeithas yn gyffredinol. Gydag ystafelloedd a labordai addysgu clinigol rhagorol ac arbenigedd ymchwilwyr, addysgwyr a chlinigwyr gweithredol o’r radd flaenaf, hyfforddwn myfyrwyr i fod y genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, a graddedigion sydd â’r cyfarpar ar gyfer y gweithle yn y GIG a thu hwnt. Mae’r Ysgol yn gyson ymhlith y deg uchaf yn y DU ar gyfer bydwreigiaeth, nyrsio, gwyddoniaeth barafeddygol, astudiaethau iechyd a meddygaeth gyflenwol.

CYFADRAN MEDDYGAETH, IECHYD A GWYDDOR BYWYD 2020 Dros 1000 o fyfyrwyr yn gwirfoddoli i ymuno â’r rheng flaen yn y frwydr yn erbyn Covid-19 2020 Datblygir y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn sgil pandemig byd-eang Covid-19 2021 Mae gradd Fferylliaeth MPharm newydd yn cael ei lansio, y gyntaf yng Nghymru mewn 100 mlynedd, ac MSc Seicoleg Fforensig achrededig BPS 2021 Datblygir strwythur y Gyfadran i greu’r Ysgol Feddygol, yr Ysgol Seicoleg a’r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2022 Mae Seicoleg yn cyrraedd safle byd-eang o 201-250 yn y QS World University Rankings 2022 Mae’r Gyfadran yn cael ei chomisiynu gan AaGIC i lansio BSc Therapi Galwedigaethol, BSc Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau a BSc Nyrsio Anabledd Dysgu 2022 Ystyrir bod 85% o ymchwil y Gyfadran yn fyd arweiniol ac yn rhagorol yn rhyngwladol o ran ansawdd yn REF 2021 2022 Mae Meddygaeth, Meddygaeth Gyflenwol, Gwaith Cymdeithasol ac Astudiaethau Iechyd yn y 5 Uchaf yn Nhablau Cynghrair lefel pwnc y DU

4 Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

Strategaeth ar gyfer Twf: 2023-2026

5

Made with FlippingBook flipbook maker