Rhagoriaeth Barhaus: Strategaeth ar gyfer Twf 2023-2026

UCHELGAIS STRATEGOL

Mae ein huchelgeisiau’n fyd-eang, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol a bydd cynnydd tuag at ein gweledigaeth yn cael ei arwain gan yr angen i sefydlu Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe fel: Cyfadran sy’n arwain y byd gydag Ysgolion Meddygaeth, Seicoleg ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Byddwn yn arwain arloesi rhagorol mewn ymchwil ac addysgu ar draws pob disgyblaeth, tra’n cyflawni canlyniadau eithriadol ar lwyfan domestig a byd-eang. Yn rym cadarnhaol i bawb, myfyrwyr a staff fel ei gilydd: Byddwn yn canolbwyntio ar iechyd a llesiant, gan feithrin hinsawdd astudio, chwaraeon a gweithio rhagorol, gan ddangos rhagoriaeth mewn cyfleoedd datblygu i bawb a chyfoethogi bywydau a bod o fudd i gymdeithas er mwyn adeiladu ar gyfer y dyfodol. Yn Ganolfan sy’n arwain y sector ar gyfer datblygiad strategol ac economaidd: Byddwn yn ehangu ein gweithgarwch cydweithio ymhellach, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, tra’n cryfhau cysylltiadau â’r GIG, diwydiant byd-eang a phartneriaid eraill. WEDI’U HATEGU GAN YSTOD O THEMÂU TRAWSBYNCIOL A STRATEGAETHAU GALLUOGI, CAIFF YR UCHELGEISIAU HYN EU CYFLAWNI DRWY DDAU WEITHGAREDD CRAIDD, SEF:

6 Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd a Gwyddor Bywyd ei harwain gan ymchwil gyda chysylltiadau iechyd, gofal cymdeithasol, diwydiant, dinesig a rhyngwladol cryf. Rydym yn darparu dysgu ac addysgu rhagorol ochr yn ochr ag ymchwil ac arloesi sy’n fyd arweiniol er mwyn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. GWELEDIGAETH Caiff y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd

CENHADAETH Ein cenhadaeth yw cael ein graddio’n gyson fel un o brif ddarparwyr addysg proffesiynol ym maes iechyd a gwyddorau bywyd yn y DU, wedi’i ategu gan enw da rhyngwladol am ymchwil ac arloesi rhagorol. Drwy ddull rhyngddisgyblaethol a rhyngbroffesiynol, byddwn yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol mewn iechyd, llesiant a chyfoeth i Gymru a’r byd.

• Ymchwil ac Arloesi (Tudalen 10) • Dysgu ac Addysgu (Tudalen 16)

Strategaeth ar gyfer Twf: 2023-2026

7

Made with FlippingBook flipbook maker