Cylchgrawn Pwls - Cyf 03 Rhifyn Lles

PWLS

WYDDECH CHI... Gallech gymryd y camau cyntaf tuag at yrfa fel arbenigwr blaenllaw gydag un o’n graddau MSci - gradd Meistr israddedig integredig am 4 blynedd mewn Gwyddor Bywyd.

6 PROSIECT

PAM DYLECH CHI

achub bywyd MAE’R PANDEMIG WEDI CAEL EFFAITH BARHAOL AR IECHYD A LLES, AC MAE ANGEN YMCHWIL AR FRYS I DDEALL YR EFFAITH LAWN AR WASANAETHAU GOFAL IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL.

ddod yn arbenigwr?

^

MAE DOD YN ARBENIGWR YN RHOI’R PWER I CHI GAEL EFFAITH GADARNHAOL A PHARHAOL AR FYWYDAU POBL AR RADDFA FYD-EANG, GAN GEFNOGI ARWEINWYR I WNEUD PENDERFYNIADAU GWYBODUS AR REDEG EIN GWASANAETHAU GOFAL IECHYD, RHEOLI ARGYFYNGAU IECHYD YN Y DYFODOL A SICRHAU BOD IECHYD Y CYHOEDD YN PARHAU I FOD YN BRIF FLAENORIAETH.

Archwiliwch ein Cyfres Podlediadau i gael gwybod mwy am sut mae ein hymchwil arloesol wedi bod yn cael effaith yn fyd-eang. YR ATHRO SHAREEN DOAK

Dyfarnodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyllid hollbwysig i chwe phrosiect yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe, sydd i gyd yn anelu at ddarparu mewnwelediadau achub bywyd i effaith y pandemig ar wasanaethau gofal iechyd a’i ddefnyddwyr yng Nghymru. Mae’r gwobrau’n amrywio o Gymrodoriaethau Ymchwil Gofal Cymdeithasol , sy’n rhoi cymorth i unigolion talentog ddod yn ymchwilwyr annibynnol tra’n ymgymryd â phrosiectau ymchwil o ansawdd uchel sydd o fudd i ofal cymdeithasol yng Nghymru, i Grantiau Ymchwil Iechyd , sy’n cefnogi prosiectau ymchwil o ansawdd uchel sy’n amlwg yn berthnasol i anghenion iechyd a lles, trefniadaeth neu ddarpariaeth gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Gallai canfyddiadau o’r prosiectau ymchwil hollbwysig hyn wneud gwelliannau mawr i iechyd, gofal a lles rhai o aelodau’r gymdeithas sydd fwyaf agored i niwed ac effaith, a helpu i wella polisïau a gwasanaethau darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

O RAN MATERION IECHYD CYHOEDDUS, PWY Y MAE’R CYHOEDD YN YMDDIRIED YNDDO MEWN GWIRIONEDD? Astudiodd tîm ymchwil dan arweiniad Prifysgol Colorado Boulder, gyda chefnogaeth cydweithwyr o’r Unol Daleithiau, Sweden, Israel, Awstria, yr Eidal, Singapôr a’r DU, farn wleidyddol cyfranogwyr, ochr yn ochr â’u barn ar bolisïau Covid-19. Gofynnwyd i’r 13,000 o gyfranogwyr, o 7 gwlad ledled y byd, am eu barn wleidyddol, yna i rannu eu cefnogaeth ar gyfer dau bolisi Covid-19, un ar gyfer mesurau iechyd cyhoeddus, a’r llall yn cefnogi adferiad economaidd. Fel yr esbonia Dr Gabriela Jiga- Boy o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, a oedd yn rhan o’r tîm: Rydym yn dilyn esiampl ein harweinwyr (neu garfannau pleidiol elît) oherwydd bod dyletswydd arnom i wneud hynny. Ond mae carfannau pleidiol yn aml yn creu rhwystrau i’r gwaith o fynd i’r afael â bygythiadau cyffredin megis Covid-19. Maent yn polareiddio barn y cyhoedd drwy eu geiriau, eu gweithredoedd neu eu presenoldeb yn unig.

Drwy gydol pandemig Covid-19 mae pobl ledled y byd wedi bod yn disgwyl i’n harweinwyr wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ein hiechyd, ein diogelwch a’n lles. Yn ei dro, mae arweinwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau wedi bod yn edrych ar arbenigwyr

Nanowenwynig - mae yn y pethau bach

1.

Effaith COVID-19 ar gydraddoldeb iechyd a marwolaethau ymhlith pobl ag epilepsi yng Nghymru Pennu’r arferion gofal cymdeithasol ataliol gorau yng nghyd-destun pobl hyn sy’n derbyn gofal a chymorth gartref a’r rhai sy’n byw gyda Dementia Effaith economaidd iechyd COVID-19 ar ofal a chymorth i bobl dros 65 oed Sunproofed: Gwerthusiad dulliau cymysg o bolisïau ^

ym meysydd meddygaeth a gwyddoniaeth i helpu i lywio

2.

polisïau i arafu ymlediad Covid-19 a chadw cynifer o bobl â phosibl yn ddiogel rhag y feirws marwol. Fodd bynnag, mae polisïau fel gwisgo mygydau, cyfyngiadau symud cymunedol a mandadau brechu wedi cael eu polareiddio fwyfwy gan bleidiau gwleidyddol, gyda gwleidyddion, arweinwyr y byd a’r cyhoedd yn gyffredinol yn cefnogi neu’n gwrthwynebu mesurau iechyd a diogelwch y cyhoedd yn unol â barn eu plaid wleidyddol, yn aml yn groes i gyngor arbenigwyr a gefnogir yn wyddonol.

YR ATHRO RONAN LYONS

Daeth yr ymchwil i’r casgliad, er bod cyfranogwyr yn fwy tebygol o gefnogi polisïau a oedd yn gysylltiedig â’u plaid wleidyddol, fod yr holl gyfranogwyr, beth bynnag eu barn wleidyddol, yn cefnogi polisïau a gynigiwyd gan arbenigwyr a chynghreiriau dwybleidiol. Daeth Dr Jiga-Boy i’r casgliad: Mae ein canlyniadau’n dangos pwysigrwydd sicrhau bod arbenigwyr yn amhleidiol, er mwyn diogelu ffydd y cyhoedd ynddynt. Ateb yw tynnu’r gwleidyddion allan o’r cyfathrebu a rhoi’r arbenigwyr ar y blaendir i helpu i osgoi materion sy’n cael eu polareiddio Darganfyddwch fwy am

Ymateb i Covid-19 gan ddefnyddio Data Mawr

3.

4.

DR CLAIRE WILLIAMS

diogelwch rhag yr haul mewn ysgolion cynradd yng Nghymru

Epidemig Tawel: Niwed i’r Ymennydd

5.

Effaith rhoi’r gorau i sgrinio am glefyd y llygaid diabetig ar bobl â diabetes yn ystod pandemig COVID-19

6.

Mapio mannau oer gwasanaethau yn sgîl cyfyngiadau symud COVID-19

Gwrandewch a thanysgrifiwch i’r gyfres yn: abertawe.ac.uk/podlediadau

y rhain, a llawer mwy o ganfyddiadau, ar ein tudalennau ymchwil:

26

Made with FlippingBook flipbook maker