Cylchgrawn Pwls - Cyf 03 Rhifyn Lles

PWLS Beth byddwch chi’n ei ddarganfod?

CREU EFFAITH...

GWEMINARAU Cychwyn Arni GWEMINARAU YMCHWIL AC ARLOESI Dysgwch fwy am rywfaint o’r ymchwil arloesol sy’n arwain y byd sydd ar waith ar hyn o bryd yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd a sut y gallwch gymryd rhan fel myfyriwr ymchwil neu

HERIAU BYD-EANG: data mawr MAE YMCHWIL DATA GWEINYDDOL CYMRU YN PARHAU I ARWAIN Y FFORDD AR DECHNEGAU DADANSODDI DATA ARLOESOL A RHAGORIAETH YMCHWIL ER MWYN DARPARU YMCHWIL GADARN, DDIOGEL A LLAWN GWYBODAETH GYDA BRON £17 MILIWN O GYLLID YCHWANEGOL GAN YR ESRC.

Penodwyd yr Athro Ronan Lyons yn OBE yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am ei wasanaethau i Ymchwil, Arloesi ac Iechyd y Cyhoedd

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADR Cymru) yn uno arbenigedd ymchwil o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd gyda dadansoddwyr o Lywodraeth Cymru. Gan weithio ochr yn ochr â Banc Data SAIL byd- enwog, mae ei dîm o ymchwilwyr arbenigol, dadansoddwyr a gwyddonwyr data yn mynd i’r afael â meysydd allweddol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, megis addysg, iechyd meddwl a thai. Chwaraeodd ADR Cymru rôl ganolog o ran llywio dealltwriaeth a gwneud penderfyniadau dilynol ar lefel polisi yn ystod y pandemig yng Nghymru ac ar draws y DU, gyda’i ymchwilwyr yn gweithio i ddeall ymlediad y pandemig yng Nghymru a’i effaith ar bobl a gwasanaethau. Bydd yn parhau i gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru drwy roi cipolwg amserol ar faterion sy’n effeithio ar y boblogaeth, wrth fynd i’r afael ag effaith eilaidd y pandemig ar bobl a gwasanaethau.

gydweithredwr. DARLLENWCH FWY NEU COFRESTRWCH:

APRIL REES

Gradd BSc Biocemeg a PhD “Gwnes i gwblhau fy ngradd BSc mewn Biocemeg yn Abertawe yn 2017, lle ces i fy nghyflwyno i fyd imiwnoleg. Arhosais i ymgymryd â’m PhD, gan ymchwilio i’r newidiadau y mae’r system imiwnedd yn eu profi yn ystod beichiogrwydd. O ganlyniad i’r pandemig, mae fy ymchwil wedi tyfu i gwmpasu COVID-19 a beichiogrwydd, lipidomeg, a gordewdra fel rhan o brosiect ymchwil cydweithredol gyda Phrifysgol Aberdeen.”

“Bydd y bartneriaeth barhaus hon yn ein galluogi i gael mynediad at sylfaen dystiolaeth gyfoethocach” Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Mae ymchwil yn chwarae rôl ganolog yn ein llwyddiant. Rydym ar flaen y gad ym maes ymchwil feddygol, gwyddorau iechyd a bywyd, yn cefnogi staff a myfyrwyr yn rhagweithiol i feithrin perthnasoedd gwaith â staff a myfyrwyr mewn gwledydd tramor. Mae ein staff ymchwil sy’n arwain y byd yn chwilio’n rhagweithiol am fyfyrwyr ymchwil i’w goruchwylio. Bydd astudio gradd ymchwil yn Abertawe yn eich galluogi i gael mynediad at: • Cyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf • Cydweithredwyr rhyngwladol • Arbenigedd ysgrifennu ceisiadau am grantiau • Rhagolygon gyrfa gwell

Cymru ac Athro Gwybodeg ym Mhrifysgol Abertawe: Hyd yma, mae ein rhaglen waith wedi cynhyrchu allbynnau sylweddol sydd wedi helpu i lunio meysydd polisi cyhoeddus allweddol yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at y pedair blynedd nesaf wrth i ni barhau i arloesi arferion data diogel a dangos

y rôl y gall data wedi’i ddadnodi ei chwarae, o’i ddefnyddio’n ddiogel ac yn gywir, wrth helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru a ledled y DU. Mae ADR Cymru a Banc Data SAIL yn yr Adeilad Gwyddor Data, sydd hefyd yn gartref

i’n rhaglenni ôl-raddedig mewn Gwybodeg Iechyd a Gwyddor Data Iechyd.

Fel yr esbonia’r Athro David Ford, Cyd-gyfarwyddwr ADR

abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ymchwil

Diddordeb mewn Data Mawr? Trowch i dudalen 34 i darganfod mwy am ein cyrsiau

30

31

Made with FlippingBook flipbook maker