Cylchgrawn Pwls - Cyf 03 Rhifyn Lles

PWLS

Llwyddiant

WYDDECH CHI... Dyfarnwyd cyllid gwerth miliynau o bunnoedd i Brifysgol Abertawe ar gyfer

YSGOL FEDDYGAETH AR FIN CROESAWU MWY O FYFYRWYR RHYNGWLADOL WRTH I BARTNERIAETH Â CHANADA DYFU Mae Prifysgol Abertawe yn adeiladu ar ei chydweithrediad llwyddiannus â Phrifysgol Trent i lansio cyfle ychwanegol ar gyfer astudio trawsatlantig yn y Gwyddorau Meddygol. DYFARNU CYLLID ADNEWYDDU GWERTH £2.4 MILIWN I BRIFYSGOL ABERTAWE AR GYFER YSTORFA DATA AM DDEMENTIA Dyfarnwyd £2.4 miliwn o gyllid i Brifysgol Abertawe i barhau i ddatblygu Porth Data Dementias Platform UK (DPUK). Mae’r Porth, dan arweiniad tîm Gwyddor Data Poblogaethau Abertawe, yn rhoi mynediad cyflym ar-lein i ymchwilwyr ledled y byd at ddata aml-foddol o ansawdd uchel gan dros 3.5 miliwn o gyfranogwyr. ANRHYDEDDU DARLITHYDD AM GYFRANIAD EITHRIADOL I ADDYSGU FFARMACOLEG Mae’r Darlithydd Ffarmacoleg Dr Aidan Seeley wedi ennill Gwobr Fawreddog Rang (anghlinigol) yn y gwobrau blynyddol a gyflwynwyd gan Gymdeithas Ffarmacoleg Prydain am ei ddull arloesol a’i gyfraniad at addysgu. Mae’r wobr yn cydnabod rhagoriaeth mewn addysgu ac fe’i cyflwynir i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i addysgu ffarmacoleg glinigol neu anghlinigol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae’n dyst i’r rhyddid y mae Prifysgol Abertawe wedi’i roi i staff archwilio a datblygu ffyrdd newydd a diddorol o gyflwyno ein rhaglenni BSc.

CREU

penawdau MAE PRIFYSGOL ABERTAWE WEDI BOD AR FLAEN Y GAD O RAN YMCHWIL AC ARLOESI ERS 1920 GAN FOD O FUDD I IECHYD, CYFOETH A LLES EIN CYMDEITHAS. prosiectau ymchwil sy’n gysylltiedig â COVID-19.

MYFYRWYR

MAM SENGL A FRWYDRODD AR RENG FLAEN COVID-19 YN DATHLU GRADD MEISTR GYDA’I MERCHED

ARDDANGOSFA DINAS YN DANGOS SUT MAE POBL IFANC EISIAU CAEL EU GWELD

PRIFYSGOL ABERTAWE AR Y BRIG YN Y DU AM FEDDYGAETH

Roedd arddangosfa unigryw yn cynnwys gwaith celf realiti rhithwir wedi’i greu gan bobl ifanc i fynegi eu teimladau am eu hiechyd meddwl fel rhan o brosiect gan Brifysgol Abertawe i archwilio sut mae pobl ifanc yn postio, yn rhannu ac yn gweld delweddau ar-lein i fynegi eu cyflwr meddwl.

Cyrhaeddodd Prifysgol Abertawe y 30 uchaf yn Nhablau Cynghrair Complete University Guide 2022, gyda Meddygaeth ar y brig yn y DU. Mae prif dabl y gynghrair yn rhestru 130 o brifysgolion yn y DU yn seiliedig ar fesurau gan gynnwys safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil a rhagolygon graddedigion. Mae’r safleoedd yn dangos bod Abertawe’n parhau i gynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr a rhagolygon gyrfa gwych.

MYFYRWYR NYRSIO YM MHRIFYSGOL ABERTAWE AR RESTR FER GWOBRAU’R NURSING TIMES I FYFYRWYR Mae Bethany Kelly, sydd wedi bod yn nyrs am bedair blynedd ar ddeg, wedi datblygu ei gyrfa gyda gradd meistr mewn Ymarfer Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe, a’r cyfan wrth fod yn fam sengl i ddau o blant a gweithio ar y rheng flaen yn ystod y pandemig. Ymgymerodd hefyd â rôl Cyd- gadeirydd Fforwm Nyrsys Arbenigol Diabetes y DU.

BABANOD I ELWA AR GRONFA LLAETH Y FRON GYNTAF CYMRU Yn dilyn cael cyllid gan CCAUC i hyrwyddo gwaith Canolfan Llaethiad, Bwydo Babanod ac Ymchwil Trawsfudol (LIFT) Prifysgol Abertawe, lansiodd Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bartneriaeth newydd gyda’r Sefydliad Llaeth Dynol i greu hyb banc llaeth rhoddwyr cyntaf Cymru. Wedi’i lleoli yn Ysbyty Singleton, bydd yr hyb galluogi mwy o fabanod sâl a chynamserol yn y rhanbarth i dderbyn llaeth o’r fron. ROEDD DROS 600,000 O ALWADAU BRYS I 999 YN YSTOD TON GYNTAF Y PANDEMIG AR GYFER AMHEUAETH O COVID Bydd canfyddiadau arolwg newydd mawr o wasanaethau ambiwlans y DU a gynhaliwyd gan dîm o Brifysgol Abertawe yn helpu arbenigwyr ambiwlans a llunwyr polisi i gynllunio ar gyfer cyfnodau pellach a phandemigau yn y dyfodol, gan ddangos patrymau galw, a helpu i wella diogelwch ac effeithiolrwydd.

LLWYDDIANT GWOBRAU TRIPHLYG I ARBENIGWR DIABETES Y BRIFYSGOL

Enwyd Dr Becky Thomas, Uwch- swyddog Ymchwil a Chyd- gyfarwyddwr y radd MSc mewn Ymarfer Diabetes, yn enillydd tair gwaith mewn un o brif wobrau gofal iechyd y DU, a anrhydeddwyd am ei pharodrwydd i fynd ymhellach i gefnogi ac addysgu pobl sy’n byw gyda diabetes.

MYFYRWRAIG O BRIFYSGOL ABERTAWE YN HELPU I HYRWYDDO CYDRADDOLDEB HILIOL YNG NGHYMRU Mae Saadia Abubaker, myfyriwr o Abertawe, yn siarad am ei phrofiadau hi o hiliaeth er mwyn helpu i sicrhau bod Cymru’n dod yn lle gwell i fyw ynddo. Mae’r myfyriwr Cymdeithaseg a Seicoleg bellach yn ymgynghorydd cymunedol ar gyfer cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol newydd Llywodraeth Cymru.

Cyrhaeddodd dau fyfyriwr Nyrsio o Abertawe restr fer Gwobrau’r Nursing Times i Fyfyrwyr 2021. Roedd Simon James a Stuart Denman ar y rhestr fer ar gyfer Myfyriwr Nyrsio’r Flwyddyn: Oedolion, ac roedd Simon hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Myfyriwr Nyrsio Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn.

32

Made with FlippingBook flipbook maker