Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

HANES CYHOEDDUS A THREFTADAETH CAMPWS SINGLETON

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021) EFFAITH YMCHWIL YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL YSTYRIR BOD 100

%

RHAGLENNI YMCHWIL RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth MA ALl RhA

• Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth MA (Estynedig) ALl

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Astudiaethau Canoloesol, MA • Eifftoleg, MA drwy Ymchwil • Hanes, MA • Hanes Modern, MA • Hanes yr Henfyd a Diwylliant Clasurol, MA • Rhyfel a Chymdeithas, MA CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau • Byddi di'n ymgymryd â lleoliad gwaith gydag un o amrywiaeth eang o sefydliadau partner lleol neu genedlaethol. • Byddi di'n cael dy addysgu gan ysgolheigion y barnwyd bod eu heffaith ymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021. PAM ABERTAWE? • Byddi di'n astudio mewn dinas a gafodd ei llunio gan ei threftadaeth ganoloesol a diwydiannol sy'n cynnwys sefydliadau megis Archifau Richard Burton, ein hamgueddfa sydd ar y campws, sef y Ganolfan Eifftaidd, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa chanolfannau ymchwil y Brifysgol, gan gynnwys CHART, Canolfan Abertawe ar gyfer Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth, ac OLCAP, Ymagweddau at y Gorffennol sy'n seiliedig ar Wrthrychau a Thirwedd. Genedlaethol y Glannau. • Cei gyfle i weithio gyda

Lluniwyd y rhaglen hyblyg hon ar gyfer y sawl sy’n dyheu am yrfa mewn hanes a threftadaeth cyhoeddus yn benodol. Bydd hi’n darparu hyfforddiant academaidd ynghyd â sgiliau cyflogadwyedd perthnasol. Astudia mewn adran sy’n cynnwys arbenigwyr mewn hanes a threftadaeth cyhoeddus, gan ddatblygu dy ddealltwriaeth o sut mae treftadaeth yn cael ei rheoli a’i thrafod. Byddi di’n datblygu sgiliau mewn dehongli a chyflwyno treftadaeth ac mewn cyfleu gwybodaeth am y gorffennol i gynulleidfaoedd cyhoeddus. Byddi di’n cwblhau dy radd gyda thraethawd hir academaidd traddodiadol neu leoliad gwaith ymarferol gyda sefydliad treftadaeth.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Modiwlau hyblyg mewn treftadaeth, hanes cyhoeddus, hanes yr henfyd, diwylliant yr hen Aifft, hunaniaethau Cymreig, theori amgueddfa, ymarfer amgueddfa a lleoliad gwaith. • Ennill profiad uniongyrchol yn y sector trwy leoliad gwaith gyda sefydliadau treftadaeth. • Hyfforddiant yn yr agweddau ymarferol, deallusol a moesegol ar dreftadaeth a hanes cyhoeddus; cyfleoedd i astudio hanes a threftadaeth ystod eang o gyfnodau.

• Myfyrio ar hanes cyhoeddus a threftadaeth fel mentrau cymunedol, fel allwedd i hunaniaethau'r presennol, fel asedau twristiaeth ac adfywio economaidd, a'u gallu i sbarduno gwrthdaro ynghylch agweddau gwrthgyferbyniol at y gorffennol. • Byddi di'n gweithio gyda'r ystod lawn o ffynonellau hanesyddol a deunyddiau treftadaeth, gan gynnwys gwrthrychau archeolegol, dogfennau archifol, yr amgylchedd adeiledig, tirweddau a threftadaeth anniriaethol.



Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 50

102

Made with FlippingBook - Online magazine maker