Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

IAITH SAESNEG, TESOL AC IEITHYDDIAETH GYMHWYSOL CAMPWS SINGLETON

YN Y BYD IAITH A LLENYDDIAETH SAESNEG 150

RHAGLENNI YMCHWIL

• Ieithyddiaeth Gymhwysol PhD/MPhil ALl RhA DoB

• Ieithyddiaeth Gymhwysol MA drwy Ymchwil ALl RhA

(QS World University Rankings 2023)

PAM ABERTAWE? • Mae gan yr adran hanes ardderchog o oruchwylio

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill MA/PGDip ALl RhA

• Cyfieithu ac Addysgu Iaith Tsieinëeg-Saesneg MA ALl

traethodau estynedig dylanwadol o safon uchel, ac mae myfyrwyr ymchwil yn gweithio gyda staff i feithrin cymuned academaidd ddeinamig. • Ar y cyd â phrifysgolion Bangor a Chaerdydd, mae'r adran yn cynnig Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol ESRC ym meysydd partneriaethau hyn yn cynnig ysgoloriaethau i sicrhau'r llif o bobl gymwysedig iawn i yrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd a'r tu allan iddo. • Mae'r holl fyfyrwyr ymchwil yn rhan o'n Canolfan y Graddedigion, sy'n darparu cymorth bugeiliol a gweinyddol. Mae hefyd yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth sgiliau thematig Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd. Mae'r ymchwil, yn ogystal â hwyluso amgylchedd deallusol bywiog i'r gymuned ymchwil ôl-raddedig. Gall myfyrwyr hefyd ymuno â'n Canolfan Ymchwil Iaith, ac elwa o ddigwyddiadau pwrpasol, hyfforddiant, a chysylltu â'u rhwydwaith byd-eang. • Byddi di'n astudio ar ein campws Parc Singleton llawn bwrlwm, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe.

Mae'r adran Iaith Saesneg, Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL), ac Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i chydnabod yn rhyngwladol am ei hymchwil a'i haddysg eithriadol mewn addysgu ieithoedd ac ieithyddiaeth gymhwysol. Mae aelodau'r adran yn cynhyrchu ymchwil dylanwadol mewn astudiaethau geirfa, profi, caffael ail iaith, a meysydd cysylltiedig eraill. Mae'r adran yn cydweithio â sefydliadau blaenllaw ledled y byd i ddatblygu'r maes, gan sefydlu rhwydwaith byd-eang o weithwyr proffesiynol i wella effaith

ei hymchwil a'i haddysg ymhellach. YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae Labordy Ymchwil newydd yr adran yn cynnig mynediad at feddalwedd dilyn symudiad y llygaid, amser ymateb ac adeiladu arbrofion arloesol, offer corpws a chyfleusterau recordio fideos/recordiadau sain. Mae Labordai Iaith ac Ystafell Cyfieithu ar y Pryd hefyd ar gael i'w defnyddio. • Mae PhD mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol yn dy alluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan dy hoffterau a dy ddiddordebau personol. Cei dy oruchwylio'n agos gan staff brwdfrydig sy'n aelodau o'r Ganolfan Ymchwil Iaith (LRC). • Mae’r cwrs MA mewn Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn cynnig cyfuniad o brofiadau dysgu damcaniaethol ac ymarferol, sy’n dy alluogi i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnat i ymwneud yn llwyddiannus â chyd-destunau a heriau amrywiol addysg ieithoedd.

• Mae ein rhaglenni’n elwa o bartneriaeth agos ag uned hyfforddi iaith Saesneg y Brifysgol, ac ymarferwyr addysgu ieithoedd eraill. • Mae ein rhaglenni'n edrych ar ffyrdd o ddadansoddi gwybodaeth am iaith a'r defnydd o iaith ar draws ystod eang o gyd-destunau, ac yn ymwneud â materion y byd go iawn ac effeithiau hollbwysig ar unigolion a chymunedau.

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • TAR Uwchradd gyda SAC: Saesneg, PGCert

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

103

Made with FlippingBook - Online magazine maker