Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

PEIRIANNEG - DOETHURIAETH PEIRIANNEG CAMPWS Y BAE

YN Y BYD PEIRIANNEG 231

RHAGLENNI YMCHWIL

(QS World University Rankings 2023)

• Doethuriaeth Peirianneg EngD ALl

Mae'r Ddoethuriaeth Peirianneg (EngD) yn fersiwn amgen i'r PhD traddodiadol sy'n cyfuno her ddeallusol PhD wrth ennill profiad diwydiannol gwerthfawr. Fel Peiriannydd Ymchwil (Myfyriwr EngD), bydd dy ymchwil yn cael ei harwain gan ddiwydiant a bydd dy brosiect yn cynnwys gweithio gyda chwmni. Mae’r rhaglen yn cynnwys cydran a addysgir, sy'n cynnwys hyfforddiant technegol, rhyngbersonol a rheoli, gan dy arfogi ti â'r sgiliau angenrheidiol i ddatrys problemau diwydiannol, torri tir newydd ym meysydd academaidd a rhagori yn dy yrfa yn y pen draw. Sefydlwyd y cynllun EngD gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (yr EPSCRC) i ddarparu hyfforddiant ar lefel doethuriaeth i raddedigion uchelgeisiol a mawr eu cymhelliant, gan roi syniadau newydd ar waith yn ymarferol a datblygu gyrfaoedd i gyrraedd swyddi uwch ym myd diwydiant.

PAM ABERTAWE? • Mae gan Abertawe enw da

sefydledig am ei rhaglen ymchwil ddoethurol mewn Peirianneg, ac mae wedi cynnig y rhaglen ers ei chreu gan y Cyngor Ymchwil

Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) ym 1992.

• Mae'r rhaglen 4 blynedd o hyd yn cyfuno prosiect ymchwil sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant, wedi'i ddiffinio a'i noddi gan bartner diwydiannol, ynghyd â modiwlau sgiliau technegol, ymchwil a phroffesiynol gyda'r nod o wella cyflogadwyedd Peirianwyr Ymchwil.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL Fel Myfyriwr EngD yn Abertawe, byddi di’n elwa o: • Ehangu dy wybodaeth a dy sgiliau i fod yn arweinydd diwydiant yn y dyfodol • Gwella dy ragolygon a dy gyfleoedd gyrfa • Ennill profiad gan ddefnyddio’r technegau diweddaraf drwy dy brosiect ymchwil dy hun • Datblygu dy arbenigedd drwy ystod o fodiwlau a addysgir • Ymuno â rhwydwaith o beirianwyr ymchwil eraill a chysylltiadau mewn diwydiant Mae prosiectau blaenorol wedi cynnwys: • Synwyryddion trawsdermol wedi'u caenu ar gyfer cymwysiadau diagnostig • Swbstradau gwydr ar gyfer cymwysiadau ynni • Diddoddiannol: Elwa o dechnolegau paent cynaliadwy ar gyfer cynnyrch dur • Argraffu celloedd solar ar gyfer technolegau'r dyfodol • Pecynnu bwyd gwell ar gyfer dyfodol cynaliadwy • Datblygu micronodwyddion silicon wedi'u caenu ar gyfer diweddariadau clyfar i frechiadau

• Cymryd camau tuag at gynaliadwyedd a datgarboneiddio – effaith cynnwys uwch wedi'u hailgylchu a chastio uwch ar gynnyrch ffurfiadwyedd uchel • Dulliau rheoli heintiau arloesol ar gyfer wynebau metalig gwrthficrobaidd • Mapio electrodau batris a galluogwyr uwch drwy sbectrosgopeg in situ • Modiwlau ffotofoltäig perofsgît rholyn i rolyn cyswllt cefn llawn y gellir eu haddasu gan ddefnyddio swbstrad boglynnog 3D masnachol. • Datblygu dyfeisiau silicon carbid ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gylchedweithiau sy'n atal ymchwydd ac electronig pŵer. • Cenhedlaeth newydd o nanoddeunyddiau gweithredol: synthesis diddoddiannol o nanoronynnau a ddewisir yn ôl maint, delweddu atomig a chymwysiadau ym meysydd catalyddu, synwyryddion meddygol, optegau cwantwm ac ynni • Effeithiau'r gwynt ar berfformiad synwyryddion amperometrig mewn cymwysiadau monitro ansawdd aer clyfar. • Datblygu dulliau adneuo anwedd

moleciwlaidd ar gyfer systemau batris/dyfeisiau integredig iawn

115

Made with FlippingBook - Online magazine maker